CLADDEDIGAETH MORGAN HEN.

HEN frenin hoff anwyl oedd Morgan Hen,

Fe ’i carwyd yng nghalon y bobloedd;

Esgynnodd i’w orsedd yn ddengmlwydd oed,

A chadwodd hi gant o flynyddoedd.

Ar ddydd ei gynhebrwng dilynwyd ei arch

Gan ddengmil o’i ddeiliaid tylodion;

A theirmil o filwyr fu ’n ymladd o’i du,

Ac wythcant o’i ddisgynyddion,

Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn,

Eraill ar fronnau yn dechreu byw;

Wyrion, gorŵyrion, a phlant gorŵyrion

Gladdasant y brenin yn Ystrad Yw.

Ni welwyd un blewyn yn wyn ar ei ben,

Na rhych ar ei dalcen mawr llydan;

’R oedd deuddeg o’i feibion yn edrych yn hŷn

Na’r brenin oedrannus ei hunan.

Yn nhorf ei gynhebrwng ’roedd bachgen bach mwyn,

Yn drist a phenisel yn twyso

Y march heb ei farchog—y cyfrwy, a’r ffrwyn,

A’r cleddyf yn unig oedd yno.

Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c.

Fe welodd ryfeloedd, bradwriaeth, a thrais,

A gwelodd Forgannwg yn gwaedu;

Ond cadwodd ei goron, a’i orsedd yn ddewr,

A’i diroedd tan faner y Cymry.

Enillodd a chollodd mewn brwydrau dirif,

Am hynny ni chollodd un deigryn;

Ond ar gladdedigaeth ei filwyr, a’i blant,

Fe wylai, fe griai fel plentyn.

Rhai wrth eu ffyn, a’u gwallt yn wyn, &c.

Ceiriog · 第 61 / 112 题