YR ENETH DDALL.

ALAW, _Toriad y Dydd_.

MAE llawer un yn cofio

Yr eneth fechan ddall;

Ni welodd neb un fach mor fwyn,

Mor brydferth, ac mor gall;

Fe gerddodd am flynyddau

I ysgol Dewi Sant,

Ar hyd y ffordd o gam i gam,

Yn nwylaw rhai o’r plant.

’R oedd gofal pawb am dani,

A phawb yn hoffi ’r gwaith

O helpu ’r eneth fach ymlaen,

Trwy holl drofeydd y daith;

Siaradai ’r plant am gaeau,

A llwybrau ger y lli,

Ac am y blodau tan eu traed,

Ond plentyn dall oedd hi.

Fe glywai felus fiwsig

Yr adar yn y dail;

Fe deimlai ar ei gwyneb bach

Belydrau serch yr haul;

Aroglai flodau ’r ddaear;

Ond nis adwaenai ’r fûn

Mo wên yr haul, a mwy na ’r oll

Mo wên ei mam ei hun.

Mae ’r plentyn wedi marw,—

Ar wely angau prudd

Fe wenodd ar ei mam gan ddweyd,

“Mi welaf doriad dydd!”

Ehedodd mewn goleuni

Oddiwrth ei phoen a’i phall,

A gweled golygfeydd y nef

Y mae yr ENETH DDALL.

Ceiriog · 第 35 / 112 题