TORIAD Y DYDD.

ALAW,—_Toriad y Dydd_.

FE welid cant o honom

Yng ngoleu ’r lleuad brudd,

Yn dringo fyny ’r Wyddfa fawr

I weled Toriad Dydd.

Edrychem ar y nefoedd,

Wrth fynd o fryn i fryn;

Edrychem ar y llynoedd dŵr,

A phwysem ar ein ffyn.

A gwelem y Saith Seren

Oedd yn y gogledd draw,

Yn gwenu ar Saith Seren wen

Oedd yn y llyn gerllaw.

Ond nid oedd amser sefyll,

Nid oedd ond hanner awr,

Na byddai Toriad Dydd yn dod

Ar ben y Wyddfa fawr.

O’r diwedd cyrhaeddasom

At ffynnon ger ei phen,

Gan ddiolch am gael gwin y graig

Mor agos at y nen.

Dringasom ris i fyny,

A threm fawreddus gaed,—

Yr holl ddwyreiniol fyd yn goch,

Yn fflamio wrth ein traed;

Ataliodd pawb ei anadl,

A phlethodd pawb ei law,

Wrth weld y goelcerth goch yn dod,

A’r nos yn treiglo draw.

Galwasom am y delyn,

Ac yng ngoleuni ’r wawr,

Canasom dôn ar “Doriad Dydd”

Ar ben y Wyddfa fawr.

Ceiriog · 第 34 / 112 题