Dywedir fod D. Owen wedi mynd i noson-lawen i Blas y Borth, Porthmadog,
ac fe arosodd y telynor yn rhialtwch yr arwest, tan ddau neu dri o’r
gloch yn y bore. Fe ddaeth dydd ar warthaf Dafydd a’i delyn pan oedd y
ddau ar y ffordd adref. Eisteddodd y llanc ar garreg sydd i’w chanfod
eto yn yr ardal, i sylwi ar ehedydd uweh ei ben yn taro cyweirnod ei
galon ar doriad dydd. Dyna’r fan a’r pryd y cyfansoddwyd y dôn _Codiad
yr Hedydd_.
ALAW,—_Codiad yr Hedydd_.
CLYWCH, clywch foreuol glod,
O fwyned yw ’r defnynnau ’n dod
O wynfa lân i lawr.
Ai mân ddefnynnau cân
Aneirif lu ryw dyrfa lân
Ddiangodd gyda ’r wawr?
Mud yw ’r awel ar y waun,
Brig y grug yn esmwyth gryn;
Gwrando mae yr aber gain,
Yn y brwyn ymguddia ’i hun.
Mor nefol swynol ydyw ’r sain
Sy ’n dod i ddeffro dyn.
Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd,
O le i le ar aden lwyd,
Yn uwch, yn uwch o hyd;
Cân, cân dy ddernyn cu,
A dos yn nes at lawen lu
Adawodd boen y byd,—
Canu mae a’r byd a glyw,
Ei alaw lon o uchel le;
Cyfyd hiraeth dynol ryw
Ar ei ol i froydd ne:
Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw,
I fyny fel efe.