SERCH HUDOL.

ALAW,—Serch Hudol.

SERCH Hudol swyn,

Sy’n llanw ’r llwyn,

Pan fo myrdd o adar mwyn,

Yn canu yn y coed.

Mae anian oll yn canu ’nghyd,

’D oes dim yn fyddar nac yn fud,

Mae mwy o fiwsig yn y byd

Na thybiodd dyn erioed.

Corau ’r Wynfa wen,

A ganant byth heb ddod i ben,

Maer delyn aur gan deulu ’r nen,

Yng ngwyddfod Duw ei hun.

Mae cân yn hedeg ar ei hynt,

Yn swn y môr a llais y gwynt,

Bu ser y bore ’n canu gynt,

Paham na chana dyn?

Serch hudol yw,

Pob peth sy’n byw,

Yn y nef a daear Duw;

O’r haul sy’n llosgi fry—

I’r pryfyn tân yr hwn a roed,

I rodio ’r clawdd a gwraidd y coed,

I oleu ar y llwybyr troed

Sy’n arwain i dy dŷ.

Hardd yw llun a lliw,

Pob peth a ddaeth o ddwylaw Duw,

I ble ’r a llygad dyn nad yw,

Yng ngŵydd y tlws a’r cain?

Prydferthwch sydd yn llanw ’r nef,

A phob creadur greodd Ef,

O’r eryr ar ei aden gref,

I’r dryw sydd yn y drain.

Ceiriog · 第 29 / 112 题