BREUDDWYD Y BARDD.

Nis gwn am un engraifft o bennill ar y mesur hwn, ac nis gwn am neb sydd

yn gallu yr hen alaw odidog heblaw y cyfaill Idris Vychan. Y mae

seibiant yn y dôn ar ddiwedd y chweched llinell, a’r llinell olaf yn

llwythog o ofid a siomedigaeth. Ymdrechais yn y geiriau gadw at gymeriad

neilltuol y llinell olaf. Mae hi fel moeseb oddiwrth, neu eglurhad ar, y

chwe llinell flaenorol.

ALAW,—_Breuddwyd y Bardd_.

[Picture: Music]

EISTEDDAI hen fardd yn ei gadair,

Yn wargrwm a’i wallt fel y gwlan;

A’i feddwl a hedodd i’r amser

Y gwelid ei blant wrth y tân.

Ei amrant a gauodd, ac yna breuddwydiodd

Yn weddw ac unig heb neb iw wahardd—

Yng ngwynfyd ei galon breuddwydiodd y bardd.

Fe welodd ei hun yn priodi,

Genethig anwylaf y wlad;

Fe glywodd ei gyntaf anedig

Gan wenu ’n ei alw fe ’n “_dad_!”

Ni welodd ef gladdu ei briod a’i deulu,

Na deilen wywedig yn disgyn i’r ardd—

Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd.

Fe glywai hen glychau Llanarmon,

Yn fachgen fe deimlodd ei hun,

Breuddwydiodd hen deimlad y galon,

Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.

Ni chofiodd ef helynt y dyddiau’r aeth trwyddynt,

Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd—

Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.

Er na bu un linell mewn argraff

O waith y breuddwydiwr erioed;

Fe wel ef ei waith yn gyfrolau,

A dynion yn rhodio fel coed,

A bechgyn yn darllen cynyrchion ei awen,

Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd—

Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.

Ceiriog · 第 30 / 112 题