LLONGAU MADOG.

ALAW,—Difyrrwch y Brenin.

WELE’N cychwyn dair ar ddeg,

O longau bach ar fore teg;

Wele Madog ddewr ei fron,

Yn gapten ar y llynges hon.

Mynd y mae i roi ei droed,

Ar le na welodd dyn erioed:

Antur enbyd ydyw hon,

Ond Duw a’i dal o don i don.

Ser y nos a haul y dydd,

O gwmpas oll yn gwmpawd sydd;

Codai corwynt yn y De,

A chodai ’r tonnau hyd y ne;

Aeth y llongau ar eu hynt,

I grwydro ’r môr ym mraich y gwynt;

Dodwyd hwy ar dramor draeth,

I fyw a bod er gwell er gwaeth.

Wele’n glanio dair ar ddeg,

O longau bach ar fore teg:

Llais y morwyr glywn yn glir,

’R ol blwydd o daith yn bloeddio “_Tir_!”

Canent newydd gân ynghyd,

Ar newydd draeth y newydd fyd—

Wele heddwch i bob dyn,

A phawb yn frenin arno ’i hun.

Ceiriog · 第 28 / 112 题