Bernid unwaith, nid yn unig gan Gymru hygoel, ond gan yr holl deyrnas,
fod llwyth o Indiaid Cymreig yn preswylio parth o’r America ar gyffiniau
yr afon Missouri, ac mai y Padoucas neu y Mandanas oeddynt. Y mae yr
hanes am JOHN EVANS o’r Waunfawr, yn Arfon, yn hynod effeithiol.
Cenhadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o sêl grefyddol ydoedd ef.
Ymgymerodd â’r gorchwyl mawr o fyned i eithafoedd America, i chwilio am
ddisgynyddion Madog, ac i bregethu yr efengyl iddynt. Dilynodd John
Evans yr afon Missouri am 1,600 o filldiroedd, ond tarawyd ef â’r dwymyn,
a bu farw, ymhell o’i fro enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr
Indiaid Cymreig. Y mae pedwar ugain mlynedd er hynny, ac y mae ein barn,
gan mwyaf, wedi cyfnewid o barth i fodolaeth bresennol disgynyddion Madog
ap Owen Gwynedd. Gweler draethawd Thomas Stephens, Ysw., Merthyr Tydfil,
ar y mater. Y mae amcan mawreddus, ynni anturiaethus, taith
aflwyddiannus, a diwedd torcalonnus y Cymro ieuanc hwn yn hynod
darawiadol.
ALAW,—_Llwyn Onn_.
MAE ’R haul wedi machlud, a’r lleuad yn codi,
A bachgen o Gymru yn flin gan ei daith;
Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Missouri,
I chwilio am lwyth a lefarent ein hiaith.
Ymdrochai y ser yn y tonnau tryloewon,
Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy i hun;
“Pa le mae fy mrodyr?” gofynnai i’r afon
“Pa le mae ’r hen Gymry, fy mhobol fy hun?”
Fe ruai bwystfilod, a’r nos wnai dywyllu,
Tra ’r dwfr yn ei wyneb a’r coed yn ei gefn;
Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu,
Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn.
Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,
Adroddent eu hanes, deallai bob un.
Deffrôdd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,
“Pa le mae ’r hen Gymry, fy mhobol fy hun?”