MAES CROGEN BORE TRANOETH.

Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae tŷ fferm mawr, o’r enw

Crogen Iddon. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan

arweiniad Owen Gwynedd, a Harri II. Y mae ôl ei wersyll mewn amryw

fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin—ac ar ran o’r mynydd perthynol

i’r amaethdy y’m ganwyd ac y’m magwyd i.

ALAW,—_Y Fwyalchen_.

Y FRWYDR aeth trosodd o’r diwedd,

A baeddwyd y gelyn yn llwyr;

A’r ser edrychasant ar Wynedd,

A’r bore ddilynodd yr hwyr.

’R oedd yno ieuenctid yn gorwedd,

Am sefyll tros Wynedd yn bur—

Yn fore daeth mamau a gwragedd,

I chwilio am feibion a gwŷr.

Fe ganai mwyalchen er hynny,

Mewn derwen ar lannerch y gâd;

Tra ’r coedydd a’r gwrychoedd yn lledu,

Eu breichiau tros filwyr ein gwlad.

Gorweddai gŵr ieuanc yn welw,

Fe drengodd bachgennyn gerllaw;

Tra i dad wrth ei ochor yn farw,

A’i gleddyf yn fyw yn ei law.

Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,

Fe gasglwyd y meirwon ynghyd;

Agorwyd y ffos ac fe ’i cauwyd,

Ond canai ’r Fwyalchen o hyd.

Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,

Gwyn fyd yr aderyn nas gŵyr

Am alar y byw am y meirw,

Y bore ddilynodd yr hwyr.

Ceiriog · 第 24 / 112 题