Y FERCH O’R SCER.

Dywedir fod Merch y Scer yn ddarpar gwraig i’r telynor am rai blynyddau,

ond gan iddo trwy ryw ddamwain golli ei olwg, fe berswadiwyd y llances

gan ei pherthynasau a chan ei theimladau ei hun i roi pen ar y

garwriaeth. Gwnaed y dôn gwynfanus a phrydferth hon gan y telynor i

arllwys allan ei siomedigaeth a’i ofid.

ALAW,—_Y Ferch o’r Scer_.

’R wyf yn cysgu mewn dallineb

Ganol dydd a chanol nos;

Gan freuddwydio gweled gwyneb

Lleuad wen a seren dlos.

Tybio gweld fy mam fy hunan—

Gweld yr haul yn danbaid dêr;

Gweld fy hun yn rhoddi cusan

I fy chwaer a Merch y Scer.

Gwresog ydyw’r haul gwyneblon,

Oer, ond anwyl, ydyw ’r ser;

Gwres oer felly yn fy nghalon

Bâr adgofion Merch y Scer.

Mae fy mam a’m chwaer yn dirion,

Yn rhoi popeth yn fy llaw;

Merch y Scer sy ’n torri ’m calon,

Merch y Scer sy ’n cadw draw.

Cariad sydd fel pren canghennog,

Pwy na chara Dduw a dyn?

Cangen fechan orflodeuog

Ydyw cariad mab a mun.

O! ’r wy’n diolch ar fy ngliniau,

Am y cariad pur di-ball;

Cariad chwaer sy ’n cuddio beiau—

Cariad mam sy’n caru ’r dall.

Ceiriog · 第 22 / 112 题