BUGAIL YR HAFOD.

ALAW,—_Hobed o Hilion_.

PAN oeddwn i’n fugail yn Hafod y Rhyd,

A’r defaid yn dyfod i’r gwair a’r iraidd ŷd;

Tan goeden gysgodol mor ddedwydd ’own i,

Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi;

Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf,

Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedion

Yn mwynhau y maesydd a’r dolydd ar hafddydd ar ei hyd.

Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad

Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad;

Tra ’m chwaer efo ’i hosan a mam efo carth,

Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lân y barth,

Deued a ddeuo, anian dynn yno,

Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd hiraeth

I’r hen dŷ, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad.

Mae’r wennol yn crwydro o’i hannedd ddilyth,

Ond dychwel wna’r wennol yn ol i’w hanwyl nyth;

A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt,

Gan gofio ’r hen gartref chwareuem ynddo gynt.

Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd,

Chwerwed ef a chwerwo, melus ydyw cofio

Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth.

Ceiriog · 第 10 / 112 题