MAE JOHN YN MYND I LOEGER.

Y mae hen dôn wladol o’r enw _Gofid Gwynan_, ac un led dlos ydyw ar y

cyfan, ond nid i gyd felly. Ysgrifennwyd y geiriau canlynol i’w canu

arni, ond nid ydynt yn ymbriodi â’r alaw mor hapus ag y dymunwn. Dymunwn

ddyweyd am y gân ganlynol, mai ychydig iawn o ddychymyg sydd ynddi, ond

fy mod yn dyweyd fy mhrofiad oreu gallwn.

MAE John yn mynd i Loeger,

A bore fory ’r a;

Mae gweddw fam y bachgen

Yn gwybod hynny ’n dda;

Wrth bacio ’i ddillad gwladaidd,

A’u plygu ar y bwrdd,

Y gist ymddengys iddi,

Fel arch ar fynd i ffwrdd.

Mae ef yn hel ei lyfrau,

I’r gist sydd ar y llawr;

Yn llon gan feddwl gweled

Gwychderau ’r trefydd mawr.

Nis gwel e ’r deigryn distaw

Ar rudd y weddw drist;

Na ’r Beibl bychan newydd

A roddwyd yn y gist.

Yn fore, bore drannoeth,

Pan gysgai ’r holl rai bach;

Wrth erchwyn y gwelyau

Mae John yn canu ’n iach.

Carasai aros gartref,

Ond nid oedd dim i’w wneyd—

Fe gawsai aros hefyd,

Pe b’asai ’n meiddio dweyd.

I gwrdd y tren boreuol,

Cyn toriad dydd yr a,—

“Ffarwel, fy mhlentyn anwyl,

O bydd yn fachgen da!

Y nef a’th amddiffynno,

Fy machgen gwyn a gwiw;

Paid byth anghofio ’th gartref,

Na ’th wlad, na ’th iaith, na’ th Dduw.”

Ceiriog · 第 9 / 112 题