TI WYDDOST BETH DDYWED FY NGHALON.

Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan oedd hi

yn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad iddo.

YN araf i safle ’r gerbydres gerllaw,

Y rhodiai fy mam gyda’i phlentyn;

I waelod ei chalon disgynnodd y braw,

Pan welai y fan oedd raid cychwyn.

Ymwelwodd ei gwefus—ei llygaid droi ’n syn,

Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;

Fe’i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn,—

“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

Canfyddodd fy llygad mewn dagrau ’n pruddhau,

Gwir ddelw o’i llygad ei hunan;

Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau,

Er nad fy nhristau oedd ei hamcan.

Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn gwneyd

Atalfa ar ffrwd o gysuron,

Mudanrwydd rodd gennad i’w hanadl ddweyd,—

“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

Nid son am gynllwynion y diafol, a’i fryd,

Er ennill ieuenctid i’w afael—

Nid son am ffolineb, a siomiant y byd,

Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael;

Dymunai ’n ddiameu bob lles ar fy nhaith,

Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion;

Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith,—

“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf,

Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth;

Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf,

Yn nesaf dro’i oll, yn ddieffaith

Do, clywais hyawdledd—er teimlo ei rym,

Mewn effaith ni lŷn ei rybuddion;

Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym,—

“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y môr,

Yn chware â chreigiau peryglon;

O’m amgylch mae dynion a wawdiant Dduw Ior,

Wyf finnau ddiferyn o’r eigion;

Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffol,

Ond tra ar y dibyn echryslon

Atelir fi yno gan lais o fy ol,—

“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef,

Y tanllyd lythrennau “NA PHECHA;”

Pe rhuai taranau pob oes yn uu llef—

“Cyfreithiau dy Dduw na throsedda;”

Pe mellten arafai nes aros yn fflam,

I’m hatal ar ffordd anuwiolion,

Anrhaethol rymusach yw awgrym fy mam,—

“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

Ceiriog · 第 11 / 112 题