MEDDYLIAU AM Y NEFOEDD.

Y mae y tri phennill hyn mewn rhan yn wreiddiol, ac mewn rhan yn

gyfieithiedig.

DAW meddyliau am y nefoedd

Gydag awel wan y nawn,

Gyda llanw’r môr fe ddeuant,

Gan lefaru ’n felus iawn;

Pan fo ’r mellt fel ser yn syrthio,

Yn y storm gynhyrfus, gref—

Pan fo ’r llong yn teimlo ’r creigiau,

Daw meddyliau am y nef.

Daw meddyliau am y nefoedd,

I unigedd fforest goed,

Ac i’r anial, lle nas tyfodd

Un glaswelltyn bach erioed.

Ar fynyddau ’r ia tragwyddol,

Ac ar greigiau llymion, lle

Bydd eryrod yn gorffwyso,

Daw meddyliau am y ne.

Daw meddyliau am y nefoedd

I ynysig leia ’r aig,

Lle mae ’r don yn gosod coron

Gwrel wen ar ben y graig;

Trwy holl gyfandiroedd daear,

Glynnoedd dwfn, a bryniau ban,

Pur feddyliau am y nefoedd

Ddont eu hunain i bob man.

Ceiriog · 第 8 / 112 题