HAFGAN.

_Alaw_—“Spaen-Wenddydd.”

Y teulu mwyn hael-gu mewn hedd,

Rhowch osteg, rai glandeg eu gwedd;

I ddatgan un haf-gan yn hy,

Hen dirion arferion a fu,

Mewn llawer ty ’roedd cennad da,

Ac enw hyf i ganu Ha;

Fel pob creadur sy’n ei ryw,

_Ag aml dôn yn canmol Duw_.

Mae’r ddaear oedd fyddar, wedd fud,

Mae’r coedydd, mae’r bronnydd mawr bryd,

Mae’r dyffryn yn deffro ei holl wraidd,

Mae eginoedd y gwenith a’r haidd,

Mae llaeth a maidd, mae llwythau mwyn,

O ffrwythydd haf yn ffraeth ymddwyn;

Mae pob creadur yn ei ryw

_Ag aml dôn yn canmol Duw_.

Gan hynny gwnawn synnu ’mhob swydd,

Ystyriwn a gwelwn i’n gŵrydd,

Ddoethineb dawn undeb Duw Ne,

Yn trefnu pob peth yn ei le;

Y mawr dymhorau, ffrwythau ffri,

Er hynny, anufudd ydym ni,

A phob creadur yn ei ryw

_Ag aml dôn yn canmol Duw_.

Rhoed i ni, heb fawr brofi mo’r braw

Bob mwynder a llawnder i’n llaw;

’Nifeiliaid a defaid ar dir,

Y rhei’ny sy’n hardd inni’n wir,

Pob peth yn glir i’n porthi’n glau,

A ninnau er hyn heb ’difarhau;

A gweled pob greadur gwiw

_Ag aml dôn yn canmol Duw_.

Mae r holl greadigaeth fel drych,

Rhai deimlant a welant yn wych,

Bod pob peth yn datguddio’n gytun,

Ddaioni’r Creawdwr ei hun;

Ond natur dyn sy fwya’ dall,

Tan gwmwl balchder ofer wall,

Ni fyn ddarostwng o’i dda ryw

_Un cymal dewr er canmol Duw_.

Pa beth yw rhyfeloedd y byd,

Ond balchder ac uchder i gyd?

Fel ’r angel nerth uchel wnaeth ef

I ormesu teyrnasu tu’r nef;

A dyna’n llef sydd fyth rhagllaw,

Yn ffrwd gyffredin dryghin draw,

O eisiau bod yn Iesu byw

_Bob cymal dewr yn canmol Duw_.

O! rhyfedd yw’n buchedd trwy’r byd,

Mewn gwagedd a llygredd a llid,

Heb geisio gwir deimlo gair Duw

Sy’n ein galw ni o feirw i ail fyw;

Ond Och! mae’n clyw ni wedi cloi,

Ac ysbryd dall i ymbarotoi;

’Rym ni yn gysglyd oerllyd ryw,

_Ac eisieu’n deffro i ganmol Duw_.

Cynhyrfwn, a gwelwn mai gwir

Y cawn feirw, cwyn arw, cyn hir;

Gwybyddwn na ffaeliwn yn ffol,

Mae’r bywyd trag’wyddol yn ol;

Ymwnawn mewn rhol am ffrwythau’r hâ,

Lle mae gorfoledd diwedd da;

Dyna r fan lle caffom fyw,

Amen, a ’stad, _yn mynwes Duw_.

Gwaith Twm o'r Nant Cyfrol 2 · 第 4 / 12 题