BONEDD A CHYFFREDIN. {13}

(_Alaw_—“Y Galon Drom.”)

Robert Davies, rhyw bert ofyn

A yrraist i mi, yn wers dwymyn,

Oblegid bonedd, blagiad bennau,

A’r cyffredin gyffroiadau;

Nid wy’ teilwng nodi at olwg

Am y cyfryw

Faith iawn ymliw, fyth yn amlwg;

Dyn truenus, boenus beunydd,

Ydwy’n wyrdraws,

Rhy ofernaws i’m rhoi’n farnydd.

Wele’r farn yn gadarn gydwedd

A geir inni o’r gwirionedd,—

Mai ffrwyth pechod, arfod hirfaith

O dir uffern, ydyw’r effaith;

Hwn yw’r achos yn oruchel

Cynhyrfiedig;

Pawb am ryfyg, pob ymraf’el;

Yr un anian sy ynnom ninnau,

Ag oedd yn gosod

Cynnyg isod Cain ac Esay.

’Roedd esgus Adda o’i droseddau,

“Y Wraig,” medd ef; “Y Sarff,” medd hithau;

Felly’r wlad, a’u nad annedwydd,

Bawb a’u hesgus dros eu hysgwydd,

Gwael eu gwedd, a bonedd, beunydd

Sy’n ymliw’n amlwg

Orwag olwg ar eu gilydd;

Fal pren ar demestl, prawf di amau,

Mawr fydd ffwndwr

Acw y’nghynnwr’ y canghennau.

A’r ceinciau’n raddau sy’n cyrhaeddyd

Sefyllfaoedd yr holl fywyd;

Tyfiad pawb, o dlawd i frenin,

Sy’n llygreddawl o’r un gwreiddyn;

Nid oes heddyw’n gwneyd eu swyddau,

’N un gelfyddyd,

Neb a’i fywyd na bo feiau,

Naws a gewch mewn is ag uchod

I ryw ddichell,

Ymhob bachell am eu pechod.

Mae rhai penaethiaid, euraidd araith,

A’u hawdurdod yn ddi effaith;

Esiamplau drwg, mewn golwg helaeth,

Sy’n wall anfeidrol mewn llywodraeth

Rhai ynadon rhy niweidiol,

A chyfreithwyr

Sydd anrheithwyr swydd anrhaethol,

A rhai personiaid, pwy resyna?

Ymhob ffiaidd

Naws aflunaidd, nhw’ sy’ flaena.

A thra fo’r blaenaf heb oleuni,

Yn twyso’r dall i ffos trueni,

Swn digofaint sy’n dygyfor

Yspryd Saul, elynol flaenor,

Lladd y plant er mwyn dieithriaid,

I geisio cadw

Yn ’r ymyl acw’r Amaleciaid;

Cryfhau breichiau annuwioldeb

Mewn drygioni,

Daw’n warth i ni, a Duw’n wrthwyneb.

Mae’r saith angel ar eu siwrnau,

Yn dechreu tywallt eu phiolau;

Llawer gwae sy’n llwyra gwewyr,

I’w rhoi yma i’r rhai amhur;

Gwae rhai gydiant faes at faesydd,

Nes bod gwendid,

Oes wall ofid, eisiau llefydd;

Mae n ddi ameu’n anhawdd yma

I dylodion,

Ac elw byrion, gael eu bara.

Dawn medrusgall dyn rhodresgar,

Gwneyd ei dduw o gnwd y ddaear;

Ysguboriau gwaliau’n gwlwm,

A _storehouses_, ys da rheswm;

Ond geill naws ing dywyllnos angau,

Alw’r ynfyd,

I ado’i buryd cyn y borau.

Ameu’r Arglwydd am ei lawndra,

Cofiwn heddyw,

Am wr sy’n marw ’mhorth Samaria.

Cofia, ’speiliwr cenhedlaethau,

Y bobloedd a’th yspeilia dithau;

Am waed dynion mewn galanas,

Ac am dy drais mewn tir a dinas,

Gwae elwo elw drwg i’w berchen,

Yn falch ’i af’el,

I nythu’n uchel—noeth yn ochen;

Ac os yw Lloegr dan ’r un llygriad,

Caiff gan yr Arglwydd,

’R un cul dywydd a’r Caldea’d.

Beth yw plasau, trasau trysor,

Ond gorseddfeydd annuwiol gyngor?

Mae gwin, a bwyd, a gwyniau bydol,

Yna i’w moedro, ’n anghymedrol;

Meibion Scefa ’mhob naws gaf’el,

Heb yr Arglwydd,

Sy dan chwithrwydd dyn a chythrel;

Chwys y tlawd yw’r cnawd a’r cnydau,

Rhwysg a balchder,

Y swn a’r pleser, sy’n eu plasau.

Fe wasg y mawrion dewrion dyrus

Y llafurwyr, â’u llaw farus;

A’r llafurwyr, a’u holl fwriad,

Gwisgo’r gwyn, a gwasgu’r gweinia’d;

Gwasgu sydd, a gwisgo swyddau,

Nes yr aethon’

I faela dynion, fel eidionau;

Gwerthu’r cyfion er ariannau,

A’r tlawd truan

Er pris gwadan par esgidiau.

Dyma’r byd ac ergyd gwyrgas,

Y sydd yn awr a’i swyddau’n eirias;

Memi melin flin aflonydd,

Egni galed yn cnoi ’gilydd;

Pawb ar eraill a weryran’,

A neb yn cwyno

Ei wyrni heno arno’i hunan;

A phob enwau, tlawd a bonedd,

Oll yn euog,

Tan’r un warog, trwy anwiredd.

Gwedi chwalu gwawd uchelwyr,

Pa faint ffurmach ydyw’r ffarmwyr,

Sydd mor feilchion, gw’chion gyhoedd,

Rymus droediad, a’u meistradoedd?

Pell yw peirch eu meirch a’u merched,

Hwy rygyngant

Fwy nac allant yn ddigolled:

Lle bo addysg byd neu eiddo,

Dyna ragrith,

Wyniau melldith, yn ymwylltio.

Ac os ewch i ddangos ochain,

Babel droiau’r bobl druain;

Llygredd llun, a gwyn drygioni,

Swn yr hunan sy’ yn y rhei’ny;

Meddwi a hwrio, mawr ddihirwch,

Bawb lle gallant

A ddilynant aflawenwch;

Anesmwythdra, lleithdra llwythdrwm,

Byw’n ddi’g’wilydd

Dan eu gwarthrudd, dyna’u gorthrwm.

A phwy ond diafol, awdwr pechod,

Sydd yma y’nghadfa pob anghydfod?

Pan ddarfu’r tyn offeryn Pharo

Bwytho ar ddynion, beth oedd yno?

Nid ffast wenwyn, na phastynau,

Mewn cynddaredd,

Oedd eu buchedd dan eu beichiau;

Ond o’u cyfyngder eger eigion,

At Dduw’n ddibaid

’Roedd eu hochenaid a’u hachwynion.

A than bwysau’r ieuau ’rwan,

Geifr a moch sy’n croch ysgrechian;

Ymroi a diodde’n ddi w’radwyddiad

Dan iau’n ddyfal a wna ddafad;

I ddefaid Crist mae’r iau’n esmwythdra,

Cariad Isr’el,

Goruwch fug’el, a’u gorchfyga;

A’r rhai orchfygant awch arfogaeth

Chwantau’r gelyn,

Mae’r Iesu’n dilyn iau’r dystiolaeth.

Beth yw rhyfel boeth, hir ofid,

Ond melus chwantau beiau bywyd?

Olwyn fawr digofaint gyfion,

Sy’n troi’n boenus trwy ddibenion:

Ac os y tlawd raid heddyw ddiodde’,

Caiff gwyr mawrion,

Taer annoethion, eu tro nhwythe’,

Fel mae amser i bob amcan

Trefn Ragluniaeth,

Drwy wahaniaeth Duw ei hunan.

Angenrhaid yw o ran cyflyrau,

Byd rhai astrus, yw bod rhwystrau;

Gwenith glân ’does ofon sefyll,

Pan godo’r gwantan gyda’r gwintyll;

Tan y groes, mewn oes yn isel,

Mae lle’r Cristion.

Fe ddaw’n gyfion o bob gaf’el;

A Duw anwyl, er daioni,

Drotho’n buchedd

At wirionedd, o’n trueni.

Gwaith Twm o'r Nant Cyfrol 2 · 第 3 / 12 题