ANWYL GYFAILL.

Cerdd i annerch cyfaill caredigol, pan oedd dan groesau a blinderau.

(_Alaw_.—“Y Galon Drom.”)

ANWYL gyfaill, rwy’n dy gofio,

A gweddi mynych, gan ddymuno

I Dduw roi llwyddiant er pob lludded

Yn graff i’th onest gorff a’th ene’d;

A dal dy draed ar Graig yr oesoedd,

Er pob helynt,

Eiddig oeddynt, a ddigwyddodd;

Ac er pob peth a ddigwydd eto,

Duw fo i’th dywys,

Yn gyhoeddus, rhag tramgwyddo.

Cefaist yma lawer damwain,

Megys rhybudd cerydd cywrain;

Mae’r Saer-celfydd ymhob cilfach,

Am dy docio i’th wneyd yn decach,

Torri ceinciau d’ anystyriaeth,

Harddu’r Eglwys,

Caer hoff wiw-lwys, mewn corpholaeth,

Bwrw’r gwarthus bnynu a gwerthu

Hwnt o’r deml,

I fan isel a fyn Iesu.

Gwel fod ffraeth ragoriaeth gaerog

Rhwng gwir blentyn a gwas cyflog;

Rhaid i’r plentyn etifeddol,

Gyrraedd didwyll gerydd tadol;

Nid ydyw rhai na chânt yn weddaidd

Fflangell barod,

Bwys awdurdod, ond bastardaidd;

Dal dy sêl a gwel y gwaelod,

Plentyn cyfan

Wyd ti dy hunan i’r Tad hynod.

Cariad Crist a ddarfu’n dirion

Deg arwyddo’n dy geryddon;

Efe, cofia, sydd drwy’r cyfan,

A’i ddawn ollawl i’th ddwyn allan;

Ar Job gynt ca’dd Satan weithio;

Darfu’n rhydost

Gnoi, di a’i gwyddost, gnawd ac eiddo;

Ond cadwe ’i enaid gwedi hynny—

Rhyfedd, nerthol,

Anhebgorol, mae Duw’n caru.

A gadwo Duw a fydd cadwedig

Trwy ddwfr a thân, a gwawd a dirmyg;

Nid oes dim all niweid egraidd

I rai garant Dduw’n gywiraidd;

Mae pob rhyw bethau’n rhannau’r rhei’ny

Yn gweithio beunydd

Oreu deunydd er daioni;

A gwyn ei fyd y diwyd ffyddlon

A ail aned,

A Duw’n gywled yn ei galon.

Yr Eglwys ydyw’r hardd dreftadaeth,

A chalon dyn yw’r pren gwybodaeth;

Mae’n ffrwyth gwa’rddedig ynddi’n canlyn,

Gwyliwn drwyddo goelio’r gelyn;

Pwyll a sobrwydd sydd angenrhaid,

Dal ar orchwyl

Oen Duw anwyl yn dy enaid:

“Fy mab,” medd Duw, “moes im’ dy galon”;

Dyna’r d’ioni,

Gyda nyni, ymgadw yn union.

Y galon yw’r ystafell addas,

Tŵr puredig, ty’r briodas;

Os gwelir un hen wŷn yn honno,

Ac heb y wisg briodas ganddo,

Rhwymwch, deliwch, draed a dwylo,

I’r t’w’llwch enbyd,

Lwyra gofid, ’lawr ag efo;

Caiff pawb ond plant y ddinas burlan,

Eu troi, dyallwch,

I’r tywyllwch, o’r tu allan.

Cans oddi allan mewn swydd hyllig

Mae’r cwn a’r swyn-gyf’reddwyr eiddig,

Puteinwyr a llofruddwyr gwaedlyd,

A phob celwyddwyr, yfwyr hefyd,

Addolwyr eulyn, ddwl oer alwad,

Ni ’dwaenant olau,

Dawn a geiriau Duw, na’i gariad;

A’r holl broffeswyr hunan-gnawdol,

Nid yw eu rhyfyg,

A’u dull unig, ond allanol.

Gwyliwn fod ar nôd annedwydd,

Rhaid dal yn agos at yr Anglwydd,

A ffoi i Soar am anrhydedd:

Ni thal sefyll ar wastadedd,

Fel gwraig Lot, a ddarfu gychwyn,

Ei gwlad a’i chartre,

Fodd anaele, fu iddi’n elyn.

Chwant y cnawd, a llygredd cyhoedd,

Allant dyfu

I’th anafu o borth y nefoedd.

Llawer ffordd a llawer cwestiwn

Sydd yn t’wyso rhyw demtasiwn;

Gormod cyfle, a mynych arfer,

Eill ein hudo ni o’n llawn hyder;

Er bod doethineb mawr yn Sal’mon,

Merched lledrydd,

Draws eu gilydd, droes ei galon;

Er gwneyd teml Dduw yn ’i ddechreu,

F’ aeth i weithio,

Dan wenh’eithio, i’w duwiau nhwytheu.

O! mor llithrig ydyw llwybyr

Tuedd dyn i fynd wrth natur;

Rhyfedd gariad a thrugaredd,

Fod rhai’n sefyll hyd y diwedd;

Os ai fel Pedr dros y llwybrau,

Gweddia’n fynych,

I Dduw edrych, di ddoi adrau:

Golwg Iesu a’n galwo’n gyson,

A’i air fo’n llosgiad,

Unig hwyliad yn ein calon.

Gwaith Twm o'r Nant Cyfrol 2 · 第 5 / 12 题