OS DU YW'R CWMWL.

(Llinellau er coffadwriaeth am Mrs. Sarah Davies, 153, St. George Street

East, Llundain).

Os du yw'r cwmwl uwch eich pen,

Wrth golli'ch anwyl briod,

Os nad oes rhwygiad yn y llen

I weld pa beth sydd uchod;

Mae Tad y gweddwon eto'n fyw,

A'r cwmwl a symuda,

Cewch weld fod gwenau wyneb Duw

Tu ol i'r cwmwl yna.

Y teimlad ddwed,--"Mae niwl y glyn

Yn oeraidd i'm hanwylyd,

Mor gas i serch yw'r amdo gwyn,

Yr arch, a phridd y gweryd:"

Ond ffydd sy'n edrych dros y bedd

Draw, draw, i'r nefol hafan,

Lle mae eich priod byth mewn bedd

Mor bur a Duw ei human.

Gofyna teimlad eto'n brudd,--

"Beth wna'r amddifaid heddyw?

Pwy sycha'r deigryn ar y rudd

Ar ol y fam fu farw?"

Ond yn y nef uwch ben y glyn

Mae aur lythrennau telaid

Yn ffurfio'r geiriau melus hyn,--

"MAE DUW YN DAD AMDDIFAID."

Os ydyw cwpan galar du

Yn llawn o chwerw wermod,

Mae'n rhaid ei yfed, gyfaill cu,--

Cewch fel cyn dod i'r gwaelod;

Mae olwyn fawr Rhagluniaeth Duw

Yn llawn o lygaid goleu,

A gweld mae'r Hwn sydd wrth y llyw

Y diwedd cyn y dechreu.

Mae'r holl sirioldeb yn y nef,

A'r dagrau ar y ddaear,--

Mae yno'n foliant "Iddo Ef,"

Ac yma'n llawn o alar;

Mae hwn yn fyd i gario'r groes,

Mae yno'n gario'r goron,

Mae'r wylo i lawr ym myd y loes,

A'r gan tu hwnt i'r afon.

Chwef., 1875.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 93 / 111 题