DYCHYMYG HEDA.

Dychymyg heda uwch y bedd

Lle claddwyd priod anwyl,

Ac yno mynn gael gwneud ei sedd

I ddisgwyl, ac i ddisgwyl;

A gwaeddi'i henw a fynn ef

Gan ddisgwyl iddi ateb,

Ond ni adseinia dynol lef

Yn awyr tragwyddoldeb.

Lle gwraig sy'n wag trwy'r oll o'r ty,

A gwraig heb ail yn unman;

Lle mam sy'n wag--"y man lle bu"

Adseinia'r gwagle'n mhobman;

Ac uwch ei llun y serch a ddaw

I sylweddoli'r cyfryw;

Ond adlais rheswm dd'wed o draw,

"Y llun yn unig ydyw!"

Pwy geidw'r plant rhag derbyn cam,--

Pwy wylia dros y rhei'ny?

I'r tair sy'n galw am eu mam--

Gair gwag am byth yw "mami!"

Ond hyn sy'n gysur, onid yw,

Tra'n wylo uwch y marw,

Fod Tad amddifaid eto'n fyw--

MAE EF YN LLOND EI ENW!

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 92 / 111 题