Y GLOWR.

Myfi yw'r glowr du ei liw,

Sy'n mynd i lawr, i lawr,

I agor cistiau gwerthfawr Duw,

Sy'n nghroth y ddaear fawr;

O! cofiwch weithiau am fy mhoen

Tra'n twymno gylch y tan;

Os aflan yw fy ngwisg a nghroen,

Mae gennyf galon lan.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 82 / 111 题