Y DDAU.

Pan fyddo'r rhew yn gwydro'r llyn,

A gwywo'r meillion mad,

A'r disglair od fel arian gwyn

Ar hyd bob glyn a gwlad;

Pan fyddo'r gwynt yn chwythu'n gry'

A'r storm yn tramwy'r fro,

Mae'n dda cael glo i dwymno'r ty,

A llechi ar y to.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 81 / 111 题