CHWEDL Y TORRWR BEDDAU.

Roedd y lleuad yn ieuanc, a'r flwyddyn yn hen,

A natur gan oerfel yn colli ei gwen,

Fe rewai'r dwfr fel gweren oer,

Tra prudd edrychai yr ieuanc loer

Cydrhwng canghennau'r coed;

Yng ngolau'r nos, mewn mynwent laith,

'Roedd torrwr beddau wrth ei waith;

Un hen oedd ef, ac wrth ei ffon,

A'i esgyrn oeddynt cyn syched bron

A'r esgyrn dan ei droed.

Ymgodai'r gwynt,--a'i anadl ef

A fferrai lwynau natur gref,

A'r torrwr beddau yn ddifraw,

Wrth bwyso'n bruddaidd ar ei raw,

Besychai am ryw hyd,

Ryw "beswch mynwent" dwfn a blin;

'Roedd ei groen a'i gob yn rhy deneu i'r him,

Ac yna fe dynnodd ryw botel gron

O'i logell,--ond potel wag oedd hon;

A churai 'i ddaint ynghyd.

Ond llawen oedd pawb yn yr "Eryr Mawr,"

Y dafarn hyna'n y dref yn awr,

Fe chwyrnai'r tegell ar y tan,

A chwyrnai'r gath ar yr aelwyd lan

Tra'n gorwedd ar gefn y ci.

'Roedd mab yr yswain yno mor hyf,

Yr hwn oedd yn llencyn gwridog, cryf,

A gwr Tyddyn Uchaf, ynghyd a'r aer,

A'r gof, a'r teiliwr, a'r crydd, a'r saer,

Cyn dewed a dau o'r rhai tewa'n y wlad

Yn siarad a dau neu dri.

Y torrwr beddau edrychai'n glau,

A gwelai y goleu, a'r drws heb ei gau,

Ac yntau'n hen wr go lon yn ei ddydd

Yn hoffi pibell, ae yfed fel hydd,

'Doedd ryfedd fod arno fo flys;--

"Waeth i mi roi fyny," ebe'r sexton yn syn,--

"Peth caled yw tirio trwy esgyrn fel hyn,

A ch'letach fyth pan deimlwch chwi'ch hun

Yn taro ynghyd ag asgwrn pen dyn!

Felly 'rwy am fynd i'r 'Eryr Mawr,'

Mae'r gwynt yn ddigon a tharo dyn lawr."

Ac i mewn ag ef ar frys.

Fe wenai pawb wrth ei weled e'

Y torrwr beddau yn cymeryd ei le

O dan y fantell simnai fawr,

(A chwarddai y tan dan ruo'n awr),

Oblegid 'roedd pawb yn ei garu ef,

O fab yr yswain i'r tlota'n y dref.

"Wel, dowch a stori," ebe gwr y ty,

"Rhyw chwedl ddifyr am bethau a fu."

'Roedd pawb yn gwybod mai ef oedd tad

Adroddwr chwedlau yr holl wlad.

Fe wyddai am bob yspryd bron

Fu'n tramwy hyd y ddaear hon;

Fe fedrai ddychryn calon wan,

A'i gwneud yn ysgafn yn y fan;

Fe allai gau ac agor clwy',

A medrai ddynwared pawb yn y plwy'.

"Mae'r torrwr beddau mewn syched braidd,

Rhowch iddo gornied o gwrw brag haidd,"

Ebe gwr y ty yn awr;

"Mae stori sych yn ddigon o bla

Os na fydd llymaid o ddiod dda

Yn helpu y stori lawr."

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 53 / 111 题