YR HWN FU FARW AR Y PREN.

Yr Hwn fu farw ar y pren

Dros euog ddyn o'i ryfedd ras,

O! agor byrth y nefoedd wen

I'n dwyn uwchlaw gelynion cas.

Y diolch byth, y clod a'r mawl

Fo i'r anfeidrol Un yn Dri,

Gwna ni yn etifeddion gwawl

Y Ganan nefol gyda Thi.

[Hen Fynwent Llanbrynmair: myn48.jpg]

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 52 / 111 题