Y BARDD,--

Methodd Owen Glyndwr rwymo

Teimlad pawb mewn rhwymau hedd,

Megis tonn mewn craig yn taro

Oedd dylanwad min ei gledd;

Ond mae Owen Tudur dirion

Wedi uno'r ynys lon,

Gwnaeth i'r Cymry dewr a'r Saeson

Wenu'n nghylch y fodrwy gron.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 47 / 111 题