CYDGAN,--

Mae gwawr yn torri dros sir Fon,

A Chymru'n gwenu arni,

Mae swn llawenydd yn y don,

A diolch yn y weddi;

Mae'r clychau'n effro ym mhob llan

Yn prysur ddweyd y newydd,

A'r awel fach yn gwneud ei rhan

I'w gludo draws y gwledydd.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 46 / 111 题