GEIRIAU LLANW.

Mae llawer o hen eiriau llanw

I'w cael ym mhob Llan a phob lle,

Yn debyg i bethma a hwnnw,

Fel tau ac fel tase, yn te,

Yn te meddai'r dyn sydd yn holi,

Fel tase, yn te, meddai'r llall,

Yn ddigon a gwneud dyn i daeru

'Dyw hanner y byd ddim yn gall.

Fel tau, fel tase, yn te,

Ofnatsen gynddeirus, yn te,

Peth hwnnw yw gweled rhai'n bethma

Fel tase, fel tau, yn te.

Ym Mon chwi gewch glywed miawn mynyd,

A llawer o siarad a stwr,

A phawb fel pe tae yn dywedyd

Cymraeg o'r "sort oreu reit siwr."

Pan ddeuwch chwi drosodd i Arfon,

Cewch "firi di-wedd" ym mhob lle,

A'r enw roir yno ar feddwon

Yw "chwil ulw beipan" yn te.

Fel tau, &c.

Os ewch tua Meirion a morol,

Cewch giasag i fynd ar ei thraws,

A ciariad, a ciarag, a cianol,

A ciamu, a ciamfa, a ciaws;

Ac yno fel pobman trwy'r gogledd,

Mae'r pla wedi taenu'n mhob lle,

Yn te ydyw'r dechreu a'r diwedd,

Yn te ydyw'r bethma yn te.

Fel tau, &c.

Os ewch chwi i lawr tua'r Deheu,

'Run siwt mae hi obry yn awr,

Mae pawb gan ta pun ar ei oreu

Yn dishgwl yn ffamws i lawr;

Mae pawb yno'n grwt neu yn grotan,

Yn whleia a'u giddil o hyd,

Wy'n sposo taw dyna y bachan

Sy'n cwnni yn awr yn y byd.

Fel tau, &c.

Chwef., '73.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 35 / 111 题