WELWCH CHWI FI?

Mi glywsoch y testyn a welwch chwi V,

A chan arno hefyd cyn clywed f'un i;

Os ydyw y pwnc yn un diflas a thrist,

Rhoed pawb sy'n diflasu ei fys yn ei glust;

Os na fydd y gan o un diben i chwi,

Trowch yma a sylwch a welwch chwi V.

A welwch, &c.

Mae ambell i sgogyn yn tramwy trwy'r fro,

A balchder a hunan yn byw arno fo,

Mae starch yn ei gefn, a rhew yn ei warr,

A chuddia ei hunan yn mwg ei sigar;

Ysgydwa'i ffon geiniog wrth gerdded mewn bri,

A thala am fwg i ddweyd welwch chwi V.

A welwch chwi V,

Uchelgais ei fywyd yw "Welwch chwi fi?"

Mae hithau'r ferch ieuanc yn gwneud gwallt ei phen

Fel math o ryw golofn fry fry yn y nen,

A het ar ben hynny, a rhosyn ar hon,

A phluen ar hynny i fyny fel ffon;

Prin gwelir y top heb gael telescop cry',

Ond gwelir mai'r diben yw "Welwch chwi fi?"

A welwch chwi fi?

Arwyddair y ffasiwn yw "Welwch chwi fi?"

"A welwch chwi fi?" meddai llawer gwr mawr,

"A welwch chwi finnau?" medd y bychan ar lawr;

Mae hynny yn dangos yn amlwg, wrth gwrs,

Mai nid yn y dillad ac nid yn y pwrs

Mae gwreiddyn y drwg am gael dringo i fri,

Ond calon y dyn sy'n dweyd "Welwch chwi V?"

A welwch chwi V?

Y galon yw cartref y "Welwch chwi V,"

Gocheled y galon rhag "Welwch chwi V."

Awst 24, '72.

"WILLIAM."

" * * * Her lover died, and she wept a song over his grave."

Ddoi di yn ol ataf, William, William,

Gyda'r sirioldeb oedd gynt gennyt ti?

Mi fyddwn am byth iti'n berffaith ffyddlon,

William, William,--anwyl i mi.

Byth ni ro'wn air i dy ddigio, William,

Gwenwn fel angel o'r nef arnat ti;

Fel yr oe't ti pan yn gwenu yn hawddgar,

William, William,--anwyl i mi.

Cofio yr wyf am y dyddiau hynny,

Cyn dy gymeryd i'r nefoedd fry;

A wyddost ti 'nawr fel 'rwyf fi'n dy garu?

William, William,--anwyl i mi.

Nid oeddwn yn deilwng o honot, William,

Oer oedd fy nghalon yn ymyl d'un di;

Ond wedi dy golli, mae'r byd fel cysgod,

William, William,--anwyl i mi.

Estyn dy law i mi, William, William,--

Dyfera faddeuant fel gwlith oddi fry,

Mae nghalon yn gorwedd ym medd fy William;

William, William,--anwyl i mi.

[Y Melinydd. "'Roedd hen felinydd llawen iawn yn byw ar fin y nant,

Yn malu yd o fore i nawn i fagu gwraig a phlant.": myn32.jpg]

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 34 / 111 题