V.

Ganwyd Ann Griffiths yn Nolwar Fach, Llanfihangel yng Ngwynfa, yn 1776.

Claddwyd hi Awst 12, 1805. Geneth nwyfus, hoff o ymblesera oedd, nes

clywodd bregeth gan Benjamin Jones, Pwllheli, yn Llanfyllin. Crwydrodd

lawer i gymuno i’r Bala, dros y Berwyn maith unig. Ac onid oes beth o

fawredd dieithr y mynyddoedd yn ei chân?

Llyfr bychan dyddorol iawn yw Cofiant Ann Griffiths, gan Morris Davies,

Bangor. Cynhwysa hefyd ei llythyrau a’i hemynnau; cyhoeddir ef gan Mr.

Gee. Dinbych; ei bris yw dau swllt. Dyma ddau ddyfyniad o hono.

“Byddai golwg ddymunol iawn ar y teulu yn Nolwar yn nyddu, a’r hen ŵr yn

gardio, ac yn canu carolau a hymnau. Droion ereill, byddai distawrwydd

difrifol megis yn teyrnasu yn eu plith. Byddai Ann yn nyddu, a’i Beibl

yn agored o’i blaen mewn man cyfleus, fel y gallai gipio adnod i fyny

wrth fyned ymlaen â’i gorchwyl heb golli amser. Mi a’i gwelais wrth y

droell mewn myfyrdod dwfn, heb sylwi ar nemawr ddim o’i hamgylch, a’r

dagrau yn llifo dros ei gruddiau, lawer gwaith.”

“Yn Hydref, 1804, priododd Miss Ann Thomas â Mr. Thomas Griffiths, brawd

i’r diweddar Barchedig Evan Griffiths, Ceunant, Meifod. Yr oedd efe yn

ŵr ieuanc o deulu parchus, o’r un naws grefyddol a hithau; yr oeddynt

hefyd yn agos i’r un oedran, ac yn anwyl iawn o’u gilydd, fel yr oedd eu

hundeb priodasol yn cael edrych arno gan eu cyfeillion a’u cydnabod yn un

hapus iawn. Daeth efe, ar ol eu priodas, i fyw ati hi i Ddolwar Fechan.

“Ymhen deng mis ar ol priodi, esgorodd Mrs. Griffiths ar ferch, yr hon

o’i genedigaeth oedd yn blentyn gwannaidd iawn, a bu farw yn bythefnos

oed. Ymadawodd y fam serchog ymhen pythefnos ar ol ei merch fechan, er

galar trwm i’w phriod trallodedig, a lliaws mawr o berthynasau a

chyfeillion crefyddol.”

Cartrefi Cymru · 第 41 / 46 题