GWEDDI PLENTYN.

Ni cheisiaf aur, na bri, na nerth,

Na diwerth fwyniant bydol:

Fy enaid gais ragorach rhan

Na seirian rwysg brenhinol.

Nid moethau o ddanteithiol rin,

Na gloew win puredig,

Nac yd, na mel, nac olew per,

Na brasder lloi pasgedig.

Nid plethiad gwallt, na thegwch pryd,

Na gwisg i gyd o sidan,

Nac eang lys, a'i addurn claer

O berlau, aur, neu arian.

Ond dwyfol werthfawrocach rodd,

Mewn taerfodd, wy'n ei cheisio:

Ac O fy Nuw! erglyw fy nghri,

A dyro imi honno.

Fel arwydd hoff o'th gariad hael,

Rho imi gael Doethineb:

Nid oes ond hon a ddwg i'm rhan

Ddedwyddawl anfarwoldeb.

Dysg fi yn nechre f'einioes frau

I rodio llwybrau'r bywyd;

A chadw'th air,--trwy fyw yn ol

Ei nefol gyfarwyddyd.

Fel ufudd blentyn, boed i mi

Byth wneyd dy dy yn gartre,

Fel caffwyf brofiad melus iawn

O'i radlawn arlwyadau.

Na ad im' ffol ymlygru byth,

Trwy fynd i blith rhagrithwyr;

Na rhedeg chwaith o lwybrau'r ne',

I eiste'n lle'r gwatwarwyr.

Dy santaidd waith a'th achos di

A fo mi'n hyfrydwch;

A gwiw gymdeithas D' anwyl blant

Fy mwyniant a'm dyddanwch.

Os caf gysuron ar fy nhaith,

Fy melus waith fydd moli:

Fy noniau oll, o galon rwydd,

I'm Harglwydd gant eu rhoddi.

Ond os caf gystudd drwy fy oes,

A dwyn fy nghroes mewn galar,

Heb ddim ond gofid ar bob cam,

Gwna fi yn amyneddgar.

Os, fel blodeuyn, gwywo wnaf

Yn nechreu haf fy mywyd;

Cymhwysa f'enaid, drwy Dy ras,

I deyrnas bythol wynfyd.

Os hir fy nhaith, rho im' Dy hedd,

Nes mynd i'r bedd i orffwys;

Ac yna seiniaf gyda'th blant

Dy foliant ym mharadwys.

Gwaith Samuel Roberts · 第 19 / 27 题