DINYSTR BYDDIN SENNACHERIB.

[Cyf. o "The Destruction of Sennacherib" Byron].

O Fras fro Assyria, y gelyn, fel blaidd,

Ymdorrai i'r gorlan er difa y praidd;

A'i lengoedd mewn gwisgoedd o borffor ac aur,

Wrth hulio glyn Salem, a'i lliwient yn glaer.

Eu harfau o hirbell a welid o'r bron

Fel llewyrch ser fyrddiwn ar frig y werdd donn;

A thrwst eu cerddediad a glywid o draw,

Fel rhuad taranau trwy'r wybren gerllaw.

Eu chwifiawg fanerau, cyn machlud yr haul,

A welid fel coedwig dan flodau a dail;

Eu chwifiawg fanerau, ar doriad y wawr,

Fel deiliach gwywedig, a hulient y llawr.

Daeth angel marwolaeth ar edyn y chwa,

Gan danllyd anadlu i'w gwersyll ei bla,

Nes gwneuthur pob calon, a llygad, a grudd,

Mor oer ac mor farw a delw o bridd.

Y ffrom farch ddymchwelwyd.--Yn llydan ei ffroen,

Mae'n gorwedd heb chwythu mwy falchder ei hoen,

A'i ffun oer o'i amgylch fel tywyrch o waed:

Llonyddodd ar unwaith garlamiad ei draed.

Ar oer-lawr mae'r marchog, a'r gwlith ar ei farf,

A'r llaid ar ei harddwisg, a'r rhwd ar ei arf:

Nid oes trwy y gwersyll na thinc picell fain,

Na baner yn ysgwyd, nac udgorn rydd sain.

Mae crochwaedd trwy Assur, daeth amser ei thal,

Mae'r delwau yn ddarnau trwy holl demlau Baal:

Cynddaredd y gelyn, heb godi un cledd,

Wrth olwg yr Arglwydd, ymdoddai i'r bedd.

Gwaith Samuel Roberts · 第 18 / 27 题