W. R. WILLIAMS.

Breuddwyd Adgof.

Rhyw noson yn fy mreuddwyd,

Yn esmwyth es am dro

Yn ol i gwmwd tawel

Fy ngenedigol fro,

A gwelwn Bontygiedd,

Heb fwthyn Pegi gynt,

A rhoes ochenaid hiraeth

Wrth basio yn y gwynt.

Es heibio'n brudd fy nghalon

I Blasycoed ar daith,

Ond Siams ni chefais yno,

Na'r dall basgedwr chwaith;

Gwag imi yr aneddau,

Heb un o'r cwmni llon,

A throais tua'r afon

I holi helynt hon.

Bu amser arni hithau

Yn amlwg wrth ei waith,

A gwelwn ol llifogydd

Ar hyd ei gwely llaith;

'Roedd hen athrofa nofio

Fydenwog Llyn y Sgwd,

Yn awr yn ynys goedig

Yn nghanol y ddwy ffrwd.

Es eto i Gae Ffynon,

Yr Arch, fu'n net ddigêl,

Lle'r aem i chwareu _rounders_

Yn ddedwydd gyda'r bel;

Ond, Ah! cauedig ydoedd,

Ac nid oedd cyfoed cu

Yn aros gyda'i "fando"

I son am bethau fu.

Mi deithiais eto i fyny

At efail y gof bach,

Lle buom lawer canwaith

Yn ymddigrifo'n iach;

Ond carnedd oedd yr efail

A'i bentan erbyn hyn,

A'r hen of bach duwiolaf

A aeth yn gerub gwyn.

Fe welais Craig-y-defaid,

'Roedd hon yr un o hyd,

Heb gyfnewidiad arni,

Er holl dreigliadau byd;

Y defaid arni borent

Yn ddifyr yn eu hedd,

Ond mae'r hen fugail gofiwn

Yn awr yn llwch y bedd.

Diosgais fy esgidiau

Wrth droi i'r fynwent brudd,

Ac hiraeth aeth yn gawod

O ddagrau dros fy ngrudd;

Darllenais ar y meini

Feddargraff tad a mam,

Ac enwau torf o ffryndiau

Boreuddydd mwyn, dinam.

Mi es am dro i'r capel,

Anwylaf yw i fil,

Lle dysgais fyn'd a'm hadnod

I'r cwrdd a'r Ysgol Sul;

Mi holais dan y pulpud--

Ble mae'r proffwydi glân

A welais gynt yn llosgi

O'i fewn yn ddwyfol dân?

Y seddau yma godent

Wynebau ger fy mron,

Hen seintiau haner canrif,

Colofnau'r deml hon;

A d'wedais wrth fy nghalon,

Y tadau nid y'nt mwy,

Y nef ar hyn agorodd,

A gwaeddais--Dacw hwy.

Deffroais o fy mreuddwyd,

A'r dydd oedd ar y wlad,

Dechreuais feddwl allan

Y freuddwyd mewn tristhad;

Deallais wedi hyny

Nad oedd y freuddwyd brudd

Ond gweledigaeth noswaith

O wrioneddau'r dydd.

_Penygraig._

Cerddi'r Mynydd Du Sef Caneuon Hen a Diweddar · 第 27 / 29 题