[Illustration: PENPARC.]
[Illustration: LLOCIO'R DEFAID.]
Ffynon y Brandi.
Ar ochr bryn yn Llywel lon
Mae'r ffynon loyw, lonydd,
A'i dyfroedd pur r'ont flas a blys
I hwylus wyr y mynydd;
O'r graig fe dardd ei phurol win,
Ar fin y ffordd mor handi,
Ni pherchir ffynon yn y plwy'
Yn fwy na Ffynon Brandi.
Er gwres yr haul a phoethder ha',
O! fel yr ia mae'r ffynon,
A pherlau grisial ar ei grudd
O ddydd i ddydd yn gyson;
Fe fethodd haul, a methu wna,
Fe ddigia wrth ei hoerni,
A gwel'd ei llun mewn dwfr oer
Wna'r lloer wrth Ffynon Brandi.
Yn nhymor haf canolddydd poeth,
Bu'n foeth i lawer crwydryn,
A llawer _gipsy_ ar ei chlun
A wlychodd fin ei phlentyn;
Bugeiliaid ac ymdeithwyr sy',
A gweithwyr hy' Rhys Dafis,
Yn mon y mawn a'u bara chaws,
Yn lapio naws ei gwefus.
Tafarndy yw o oes i oes,
Heb feddwdod, _noise_, na _nonsense_,
Nis gall cyfreithiau Prydain Fawr
Fyth dori lawr y _licence_;
Y graig yw _counter_ cryf y _bar_,
Ac ar ei gwar mae'r ffynon,
A Duw sy'n tynu o'r _machine_
Y gwin i'r daearolion.
Y tarw Scotch, a'r Cymro gwych,
A brith-goch ych Glasfynydd,
Y pony wyllt, a'r lodes lân,
A defaid mân y mynydd,
A phlant boch-cochion, heblaw Toss,
A Rover, Moss, a Handi,
Pob un yn dyfod yn ei dro
I dapo'r faril frandi.
Pe bae masnachwyr Llundain fawr
Yn dyfod lawr i Gymru,
Ac i dafarndy'r Trianglas
I brofi blas y brandi,
Caent ruddiau fel y damasc coch,
Ac fel y gloch, fonwesau,
Ac iechyd hir i fagu mêr,
A chryfder yn ei lwynau.
Do, lawer gwaith am amser hir,
Pan yn rheoli'r heolydd,
Mi ddrachtiais inau wrth y _bar_,
Yn unig ar y mynydd;
Ar ol manylu ar ei min,
A sugno gwin o'i gwefus,
Ces fara brith a chlwt o gaws,
Drwy fyn'd ar draws Tom Harris.
Mae'r ffynon hon yn tarddu erio'd,
Er cyfnod creadigaeth,
A Duw ei Hun fu'n tapo'r graig
Yn ddirgel mewn rhagluniaeth;
Eistedda dirwest ar ei sedd
Yn lân ei gwedd i'n lloni,
Diolchwn Dduw tra fyddwn byw
Am Ffynon wiw y Brandi.
RHYS DAVIES (_Llew Llywel_).
Dafydd y Neuadd Las.
Mac genyf dyddyn bychan
Ar fron y Mynydd Du,
Bu'n gysgod i'm yn faban,
I'm tad, a thaid nhadcu.
Mi gerddais pan yn blentyn
Hyd lethrau'r mynydd mawr;
A sengais "droed yr ebol"
Yn llaith gan wlith y wawr.
Ar ben y Lorfa dawel
Chwareuwn gyda'r wyn;
A miwsig nant y mynydd
Yn llifo dros y llwyn.
Do, treuliais lawer orig
Ar lan yr afon iach;
A gwynfyd i fy nghalon
Oedd dal y brithyll bach.
Bum yno wedi hyny
Yn cael fy nal fy hun,
Ond er i'm gael fy nala,
Mi ddeliais inau un.
Ar ben y Lorfa dawel
Aeth Gwen a'm calon oll;
A gwelodd yr hen fynydd
Ddwy galon fach ar goll.
Ar dwyni'r Gareg Ddiddos,
Ac hyd y dyffryn bras,
Bu'r ddwy yn crwydro llawer
Cyn dod i'r Neuadd Las.
Aeth haner canrif heibio
Er daeth y rhain ynghyd,
Ond ieuanc yn y galon
Yw'r cariad cynta'i gyd.
Wrth ganu'r hen alawon
Ganasom gyda blas;
Un rhamant ydyw bywyd
Ar aelwyd Neuadd Las.
_Cefnymeusydd, Abercraf._
RHYS DAVIES (_Ap Brychan_).
Cyw.
Ar ochr y Cribarth
Dwy afon fach sy'
Yn tarddu yn gyson
O fron Mynydd Du;
Cydredeg a dawnsio
Drwy'r ddôl mae y pâr,
A rhywun a'u henwodd
Yn geiliog a giar.
A chanu wna'r ceiliog
Yn llon yn y fro,
A'r iar sydd yn gregan
O hyd ar ei gro;
Chwareuant alawon
I'w gilydd heb ball,
A chanu a nesu
Mae'r naill at y llall.
'Nol caru a chanu
Drwy'r fawnen a'r pant,
Yn nghwlwm tangnefedd
Ymuna'r ddwy nant;
A ffrwyth y briodas
Yw'r afon fach, fyw,
Sy'n rhedeg i'r Giedd,
A'i henw yw--Cyw.
Llyn y Fan.
Af i'r Bannau gyda'r wawrddydd,
Af yn llawen tua'r llyn,
Lle mae ysbryd hen draddodiad
Byth yn aros yn ei wyn:
Crwydraf wrth y dyfroedd grisial,
Yno i wrando ar y gwynt
Sydd yn cwyno yn hiraethus
Ar ol rhamant dyddiau gynt.
Lyn y Fan! pwy wyr ei hanes?
Pwy all ddweyd yr helynt fu
Ar y noson loergan gyntaf
Pan ddaeth ser i'r Mynydd Du
Pwy all ddenu'r graig i siarad
Am ei phrofiad, fore gwyn,
Pan y gwelodd hithau gyntaf
Arall graig yn nwr y llyn?
Ai rhyw afon fechan, unig,
Grwydrodd yma'n llesg a gwan,
Wedi colli'r ffordd i huno
Yn nhangnefedd craig y Fan?
Careg fechan yn y fynwent
Dd'wed am arall grwydryn cu,
Wedi colli'r llwybrau unig,
Hunodd ar y Mynydd Du.
Cân medelwyr ar y meusydd,
Gyda thoriad borau gwyn,
Ond mae'r gân o hyd yn marw
Wrth neshau i lan y llyn;
Unig, unig yw ei hanes,
Yma mae yn hedd i gyd,
Huna'n dawel yn y cysgod,
Wedi digio wrth y byd.
A fu adar y dryglinoedd
Yma'n hedfan ar eu hynt?
A fu'r dôn erioed yn gwynu
O dan fflangell lem y gwynt?
A fu udgorn hen y dymhestl
Yn adseinio ar ei lan?
Wyr ystormydd a chorwyntoedd
Am y ffordd i Lyn y Fan?
Nid oes yma swyn y lili,
Yma nid oes rhosyn gwiw,
Ond daw serch yn dirf ac iraidd,
Lle mae'r blodau'n methu byw;
Heb un llwybr ar y moelydd
I'w gyfeirio tua'r lan,
I'r unigedd a'r distawrwydd
Fe ddaeth serch i Lyn y Fan.
Gyda'i braidd mae'r bugail unig
Wrth y llyn yn rhodio'n rhydd,
Ond paham y ceidw'r defaid
Wrth y llyn ar hyd y dydd?
Nid yw'n clywed bref ddolefus
Dafad glwyfus ar y lan:
A fu bugail mor esgeulus
A Rhiwallon Llyn y Fan?
Wrth y Llyn gorwedda'r defaid,
Yno y breuddwydiant hwy:
Ond ni wyddant fod y bugail
Yn breuddwydio llawer mwy;
Beth yw'r pryder sy'n ei wyneb?
Fentrodd oen i'r dyfroedd glân?
Neu, a gollwyd un o'r defaid?
Pam mae'r bugail heb un gân?
'Does ond un all roi esboniad
Ar yr holl bryderon hyn:
Nis gall bugail fod yn llawen
Gyda'i galon yn y llyn:
Gwelodd yno feinir geinwen
Yn y dyfroedd teg, di-stwr,
Ac mae yntau fyth er hyny
Fwy na'i haner yn y dwr.
Torodd gwawr ar nos Rhiwallon,
Cadd ei galon eto'n ol:
Gwelwyd dau yn rhodio'n llawen
Un boreuddydd dros y ddol;
Ond fe wawriodd boreu arall
Ar Rhiwallon wedi hyn,
Pan y gwelwyd gwraig y bugail
Eto'n ol yn nwr y llyn.
Cilio 'mhell wnaeth biwyddi rhamant,
Cilio wnaeth y dyddiau gwyn,
Pan fu serch yn crynu'n ofnus
Wrth y dyfroedd gloewion hyn;
Nid oes heddyw un Rhiwallon
Yn bugeilio ar y lan,
Ond mae ysbryd hen draddodiad
Eto'n fyw wrth Lyn y Fan.
_Abercraf._
Parch. R. BEYNON, B.A.
Ar y Banau.
Clychau'r wawr sy'n canu
Ar y Mynydd Du,
Cilia ser o'r llynoedd,
Loewon lu.
Fly yn mhyrth y bore
Clywaf hedydd bach,
Yn dihuno asbri'r
Awel iach.
Fel cawodydd arian
Ei felodi dyn,
Wna y mynydd imi'n
Fynydd gwyn.
Ffrydlif o hyawdledd
Yn y cwmwl gwyn;
Pe bai neb yn gwrando,
Canu fyn.
O! na bawn i'n hedydd,
Fyth yn llon fy llef,
Allwn ar adenydd
Hollti'r nef.
Blodau'r Grug sy'n gwrido
Yn eu cartre' cun,
Am fod cusan huan
Ar eu min.
Bu y nos yn wylo
Am fod tlysni nghudd,
Trodd y dagrau'n berlau
Ar eu grudd.
O! na bawn i'n flod'yn
Ar y mynydd pell,
Dal i berarogli,
Er yn mhell.
[Illustration: MAEN DERWYDDOL GER LLAW LLYN-Y-FAN FAWR]
[Illustration: LLYN-Y-FAN.]
Teimlaf ar y mynydd
Swyn yr amser gynt;
Clywaf Fabinogi
Yn y gwynt.
Clywaf rhwng y creigydd
Ymchwydd tonnau'r aig;
Gwelaf eu hysgrifen
Ar y graig.
Gwelaf graith y dymhestl
Ar y bryniau erch,
Clywaf hefyd furmur
Suon serch.
Gwelaf las y wybren,
Cofiaf lygad Gwen,
Syrthiaf i'w chyfrinedd
Dros ym mhen.
Gwen yn awr yw byrdwn
Cân yr hedydd myg;
Er ei mwyn y gwrida
Blodau'r Grug.
Sonia'r neint am dani
Rhwng y grug a'r brwyn;
Llwythog yw yr awel
Gan ei swyn.
Dilyn ei huloliaeth
Ar y bannau hyn
Wna y mynydd imi'n
Fynydd gwyn.
_Ystradgynlais._