CYWYDD Y GWAHAWDD:

A anfonwyd mewn llythyr o wnhoddiad Medi 6ed, 1826, oddiwrth Ifor Ceri,

at Wilym Aled a'i Gywely.

Eto, Aled, atolwg

Gad si'r dre', a mangre mwg;

Gad Saeson, gwawd, a sisial

Arian, a thincian, a thal;

Gad wbwb a gwau diball

Mammon i feibion y fall:

Rho i'th law,--pryd noswyliaw sydd,

Eleni un awr lonydd;

Gwamal i ti ogymaint

Hela myrdd, a holi maint

Ydyw gwerth yr indigo,

A ffwgws, heb ddiffygio,

Gan na cheir gennych hwyrach

Weled byth un Aled bach,

Na geneth, a drin geiniog

O dyrrau llawn dy aur llog.

O fewn llong tyrd tros gefn llwyd

Y _Mersey_, heb ddim arswyd,--

A'th gymar sydd werth gemau

Prysurwch, deuwch eich dau

I Geri, fan hawddgaraf,

Man gwar, lle mae hwya'r haf:

Mor loewlon y mae'r lili

A'r rhos yn eich aros chwi,

A phleth rydd yr adar fflwch,

Hyd awyr, pan y deuwch;

Cewch eich dau wenau uniawn

Ifor a Nest, fore a nawn:

(Yma diolch raid imi

"Amen dywed gyda mi,"

Ddwyn Ifor, gan Dduw nefol,

A'i wiw Nest, i Geri'n ol:)

At un Nest dda west, ddiwall,

Tyred a dy Nest arall;

Braint cyn bedd, cael medd a maeth

Maesaleg un mis helaeth;

Y mae sylwedd Maesaleg,

A'i dor, yn y Geri deg.

Y mae un gwr mwy nag oll,

Awch digoll uwch ei degan:

Ifor bach sydd a'i ferw byth,

Drwy gofio yn dragyfyth;

"Mae'r gwr yn mhryd mebyd mau,

Enynnodd hen awenau

Y glyn, nes oedd bryn a bro,

A gwig las, yn gogleisio;

Ai pell--ai trapell y trig--y gwiwddyn

Fynnai delyn a cherdd fy Nadolig?"

Tyrd Aled, ira d'olwyn,

A thyrd i ddoldir a thwyn;

Ac awyr lem Ceri lan,

Perarogl copa'r Aran;

Gwrandaw sibrwd y ffrwd ffraw--rhwng deilfur,

Y dwr eglur yn trydar wrth dreiglaw;

Rhodio i wrando'r ehedydd,

Dringo'r bryn ar derfyn dydd;

Hufen Nest a chan Ifor,

A dwr mad, drwy rad yr Ior,--

Wnant it' neidio a gwisgo gwen,

Deui'n foch-goch,--doi'n fachgen.

Gan Alun, gwan wehelyth,

O fwrdd i fwrdd, wael fardd fyth,--

Gwely nid oes, nac aelwyd,

Na bir i'w gynnyg, na bwyd,--

Cei law a chalon lawen,

A mwy ni cheisi, Amen.

Gwaith Alun · 第 61 / 79 题