Yn lle esgus dros fod yn ddistaw cyhyd, rhoddaf i chwi hanes byr o'r modd
yr ydwyf yn byw. Wrth ymdrechu dyfod i fyny gyda y rhai a gawsant bob
mantais ysgolheigaidd ym moreu eu hoes, yr wyf yn gorfod bod yn ddiwyd
iawn wrth fy llyfrau. Nid ydyw treiddio i mewn i ieithoedd ond gorchwyl
sych a diffrwyth, ac i un yn fy sefyllfa i, o ran gwall cyfleusterau
boreuol, y mae yn waith digon caled. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, yr wyf
yn cael fod "darllen llawer yn flinder i'r cnawd." Nid ydyw caethiwo fy
hun i fyfyrdod wedi cael un effaith ddrwg ar fy iechyd eto. Aeth cyfaill
i mi, a ddarllenasai lawer llai na mi, adref ddoe wedi ei nychu gan ormod
o waith. Y mae fy nghorff yn gadarn wrth natur, ond yr wyf yn gorfod
cerdded allan rywfaint bob dydd, er mwyn ei gadw mewn trefn.
Bu holiad cyffredin yn ddiweddar ar holl aelodau ein Coleg ni. Aethum
drwyddo yn well nag yr oeddwn i na'm hathrawon yn disgwyl. O hyn i wyl
Mihangel nesaf, rhaid imi fyned drwy ffwrn boethach nag a brofais
eto,--cael fy holi ar gyhoedd o flaen yr holl Brif-ysgol, am fy
ngwybodaeth o'r Lladin a'r Roeg, a Rhesymeg. Rhaid i mi hefyd ddysgu
ysgrifeni Lladin mor rhwydd a Chymraeg. Yr wyf yn fynych yn crynu wrth
feddwl am y frawdle, yn enwedig wrth weled cynnifer a gawsant eu dwyn i
fyny yn yr ysgolion goreu o'u mebyd, yn colli'r dydd. Y mae fy mhwys yn
bennaf ar y Rhagluniaeth oruchel a fu mor dyner tuay ataf hyd yn hyn.
Y'mhellach, yr wyf yn yslyried mai fy nyledswydd ataf fy hun--at fy
nghynalwyr--ac at y plwyfolion a gaf ryw dro, hwyrach, o dan fy
ngofal--ydyw lloffa cymaint ag a allaf o wybodaeth am bob dysg a
chelfyddyd. Gwelodd y caredig Mr. Clough a Mr. Phillips fy awyddfryd am
bob hyfforddiad, a chymerasant fi gyda hwynt i wrando y darlithoedd a
draddodir gan ein prif ddysgedigion ar y celfyddydau breiniol. Y
diweddaf a glywais oedd yr enwog Ddoctor Buckland, areithydd ar natur y
ddaear, ei chreigydd a'i meteloedd. Pan ddeuaf adref gallaf roddi i chwi
rai newyddion am weithiau glo a phlwm. Hawdd i chwi weled fod y gofalon
a'r gorchwylion hyn yn difa fy holl amser, ac nid hyn yw y cwbl. Wrth
aneddu yn Nhrefaldwyn a Rhydychen, ffurfais gydnabyddiaeth a llawer o
foneddigion,--rhai o honynt, o ran dysg a dawn, ym mhlith y gwyr enwocaf
yn y deyrnas. Nid oes boreu braidd yn myned heibio nad wyf yn derbyn
llythyr o ryw gwr neu gilydd i'r wlad. Nid oes gennyf, gyda chwareu teg,
amser i ateb un o honynt; ac os bydd un gohebwr y gallaf hyderu ar ei
gyfeillgarwch i beidio digio wrthyf, yr wyf yn gadael iddo aros nes elo
fy helbul yn yr athrofa heibio. Fy mwriad yn myned dros yr holl bethau
hyn ydyw, i ddangos i chwi a'm hanwyl gyfeillion, Mr. Thomas Jones ac
Isaac, yr unig achos na ysgrifenais atoch oll lawer cyn hyn. Os gwelwch
ddim yn yr hyn a ddywedais, yn mynegi yr anrhydedd anisgwyliadwy a ddaeth
i'm rhan, gwybyddwch mai nid er mwyn cynhyrfu ymffrosl ynoch yr adroddais
ef; ond yn hytrach er eich annog i uno gyda mi mewn diolchgarwch i'r Duw
a fu mor dirion wrthyf. Bydd yn dda genych glywed fy mod i ac oddeutu
hanner dwsin o'm cyd-ysgolheigion wedi llwyddo i gael Cymdeithas Genadawl
fechan yn ein hathrofa. Yr ydym hefyd yn ymgyfarfod yn ystafelloedd ein
gilydd, yn olynol, ar nosau Sul, i ddarllen y Bibl a gweddio. Nos Sul
diweddaf yr oeddynt oll yn fy ystafell i: a phan byddo dadwrdd cyfeddach
yn taro ar ein clustiau o ystafelloedd eraill, gallwn ddweyd, "Rhoddaist
fwy llawenydd yn ein calon nag yr amser yr amlhaodd eu byd a'u gwin
hwynt."
Hyfryd iawn oedd genyf glywed am ymwared fy anwyl chwaer. Cofiwch fi ati
yn garedig, at fy mrawd, yr holl blant, ac yn enwedig at y ferch
ddieithr. Buasai dda genyf allu anfon anrheg iddi hi a'i mam, ond mae
hynny yn bresenol o fy nghyrraedd. Gadewch iddo--mae'r galon yn llawn,
os yw'r pwrs yn wag. Byddwch gystal a rhoddi y penhillion canlynol iddi
yn lle _Valentine_:
Henffych, ferch, i fyd o ofid,
Byd y dagrau, byd y groes:
Agoraist lygad ar yr adfyd,
Ti gei flinder os cei oes.
Mae gwlad well tu draw i'r afon,--
Nes cael glan ar oror iach,
Rhag pob drwg, y Duw sy'n Sion,
Fo'n dy noddi, Marged bach.
Mae'm dychymyg fel yn gwrando
P'un a glywaf mo dy sain,--
Gan holi'r awel sy'n mynd beibio,
A yw'th wyneb fel dy nain?
A oes eurwallt ar dy goryn?
A oes rhosyn ar dy rudd?
A pha dybiau sydd yn dirwyn
Drwy'th freuddwydion nos a dydd?
Pe bawn yna, anwyl faban,
Mi'th gofleidiwn gyda serch;
Ceit fy mendith am dy gusan,
Mi'th gyfrifwn fel fy merch:
Ac os try Rhaglumaeth olwyn
Fyth i'm dwyn i dir fy ngwlad,
Ti gei weled y gall rhywun
Garu ei nithoedd megis tad.
Yr wyf yn gyrru --- i Ruth: mae yn rhy fychan, ond y gwir yw hyn,--hyd
wyl Mihangel nesaf byddaf yn llwm iawn o arian; wedi hynny, caf dderbyn
swm ychwanegol yn y flwyddyn. Yna mi ofalaf am dalu eich rhent, eich tir
pytatws, a phesgi'r mochyn. Rhoddwch ddillad da am Ruth . . . Unwaith
eto, yr wyf yn eich tynghedu, na oddefwch eisiau dim. Gyda bendith, nid
oes perygl na allaf ei dalu yn ol ar ei ganfed. Pa beth ydyw gwaith fy
nhad? A ydyw'n esmwyth? Cofiwch fi yn garedig at deulu Broncoed, a
rhoddwch fy serch at fy hen gyfeillion oll . . . Mae amser a phapur wedi
pallu, y gloch yn taro pedwar yn y borau--a'r ganwyll yn llosgi i'r
ganwyllbren--ni chaf ond dywedyd fy mod yn aros,
Eich dyledog fab,
J. BLACKWELL.