CAROLINE.

_Llinellau ar farwolaeth Miss Hughes, merch y

Parch. M. Hughes, Periglor Llanwyddelan,

Trefaldwyn_.

Ceisiais dybio'r son yn anwir,

Syrthio Caroline i lawr,

Ac nad allai seren eglur,

Fachlud wedi t'wnnu ond awr:

Ond y glul ar gefn yr awel,

Swn y fron yn hollti'n ddwy,

Adsain och sy'n gwaeddi'n uchel,

Ofer anghrediniaeth mwy.

Hir y cofir y diwrnod

A esgorodd ar y gwae,

Pan y rhedai i gyfarfod

Cyfeillesau i odrau'r cae;

Blaenai'r dyrfa tu a'r annedd,

Crechwen ar ei hwyneb pryd;

Ychydig dybiai mai i'w hangladd,

'Roedd yn gwadd y cwmni ynghyd.

Gyd ag eistedd, deuai angau

'N nesu ati gam a cham,

Ac ni throi oddiar ei siwrnai,

Er gwaedd mil, er gweddi mam;

Delwai'r tylwyth gan yr alaeth,

Gwnaent ei gwely fel yn lli',

Hithau'n dawel dan yr artaith,

Pawb och'neidient ond y hi.

Pan oedd oed yn rhoddi coron

Aeddfed ar ei dull a'i dawn;

Myrrh ac olew yr Ysgolion,

Wedi'i pherarogli'n iawn;

Pob disgwyliad gwych yn agor,

Hithau'n ddedwydd yn ei rhan,

Cadd ei galw ar ei helor,--

Y swyn a dorrwyd yn y fan.

Treigliad ei golygon llachar,

Ei throediad ysgafn ar y ddol,

Corff ac enaid oll yn hawddgar,

Dynnai'r galar ar ei hol;

Ond mae tryliw rhos a lili,

Wedi gwelwi ar ei gwedd,

'N awr ni ddena serch cwmpeini

Mwy na phryfed man y bedd.

Ffarwel iddi! boed i'r ywen

Gadw llysiau'i bedd yn llon,

A gorwedded y dywarchen

Werdd, yn ysgafn ar ei bron

Sycher dagrau ei rhieni,--

Ior y Nef i'w harwain hwy,

Nes y cwrddant ryw foreuddydd,

Na raid iddynt 'mado mwy.

Gwaith Alun · 第 43 / 79 题