GWAHODDEDIGION EISTEDDFOD TRALLWM, 1824.

_Englynion difyfyr i'r Arglwyddes Clive a'i phlant_.

Enynnwn i uniawn annerch--talaeth,

Am roi telaid eurferch

Montrose, mewn rhwymyn traserch

I Bowys hen--man gwib serch.

Yr ysgeill yn ol hir wasgar--can-oes

I'r cenin sy'n gymar;

Tan wen cyd-dyfant yn war

Eu deuodd yn fri daear.

Mwy yn yr hil, y mae'n rhaid--y rhennir

Holl rinwedd y ddwy-blaid;

Trwy eu bron, yn hylon, naid

Hen nwyfau eu hynafiaid.

Os daw rhyw haid, i rwystro hedd--ein tir,--

Nes troi ein tai'n garnedd,

Yn y ddiras gynddaredd,

Hil Clive fydd yn dal y cledd.

Ond i hedd a dyhuddiant,--i godi

Dysgeidiaeth, tueddant,

Awenyddion a noddant,

Eu hiaith hen, a cherdd, a thant.

Trwy'u diwrnod tyrred arnynt--bob undeb

A bendith--llwydd iddynt;

Anwylaidd gynnal wnelynt

Dud a gwaed hen dadau gynt.

Gwaith Alun · 第 42 / 79 题