LLWYDD GROEG.

Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid.

Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau--Groeg,

Hir rwyged ei llongau

Bob rhes o lu gormes gau,

Drwy'r moroedd draw a'r muriau.

"A llwydd gyfarwydd a fo

I'w Rhyddid, yn eu rhwyddo:

Na lanwed yn oleuni,

Cafn y Lloer {33} uwch cefn y lli';

Ond isel, isel eisoes

Drwy gred ymgrymed i'r Groes.

A thra tonn, Marathon, a muriau,

A rhin milwyr yr hen ymylau,

A gaent ffyniant gynt a hoff enwau,

O'u iawn barodrwydd, yn eu brwydrau,

Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,--yn haid,

Weis Soldaniaid, isel eu doniau."

[Marathon. "A thra tonn, Marathon, a muriau,

A rhin milwyr yr hen ymylau.": alun33.jpg]

Fal hyn o bob dyffryn deg,

Ac ynys a gylch gwaneg;

O'r tyrau muriau mawrion,

Mannau dysg a min y donn,--

Y glau Awen a glywodd

Y llais, a'r adlais a rodd

Groeg hen, yn gwiriaw cynnydd

Ei golau ddawn ac ail ddydd.

Ar ystlysau ei mynyddau,

A'i ffynhonnau hoff yn unawl,

Gwelwyd chwithau, a'ch telynau,

Hen dduwiesau hoen ddewisawl;

Yn galw o'i nych i'w goleu'n ol--eich gwlad,

Ac iawn fwriad, a gwe anfarwawl.

Ac wrth wych adlais, a gwyrth eich odlau,

Cysgodolion y diwydion dadau,

Yr aml areithwyr, y milwyr hwythau,

Gwyr fu o ddinam ragoraf ddoniau,

A neidiant, beiddiant o'u beddau,--a'u plant

A iawn gynhyrfant hwy i gain arfau.

Mae Pindar, oedd gar gorwyllt,

A dawn ei gan o dan gwyllt;

Tyrtaeus yn troi tuedd,

I roi clod i wyr y cledd:

"O! (meddant,) p'le mwy addien,

Yn gwrr c'oedd, nag yw'n Groeg hen?

Ein gwlad fwyn, o glod a fu,

Unwaith, yn mawr dywynnu,

Eto'i gyd ytyw a'i gwedd,

A'i rhannau yn llawn rhinwedd:

Ym mro bon y mae hir haf,

Ber awel a byrr aeaf.

Yr haul y sy'n rheoli,

Heb roi haint, ar ei bro hi;

Mae nos, yn ei mynwesydd,

Megis chwaer ddisglaer i ddydd;

Aml y lle, ym mol ei llawr,

A mannau'r harddaf mynawr;

Hemaetus felus y fydd,

A diliau mel ei dolydd;

A'i ffrwythydd gwinwydd, fal gynt,

Di-odid mai da ydynt.

Holl natur bur heb wyro,

Sy'r un fraint i'r seirian fro,

A phan oedd, yn hoff ei nerth,

Briod-fan pob dawn brydferth.

"Yma gwir Ryddid, a'i myg aur roddion,

Sef celfyddydau a doniau dynion:

Rhin a roi eil-oes i'r hen wrolion,

A gair odiaethawl i'w gorau doethion,

A wnaent gynt i helynt hon--anrhydedd,

Ynt, (ddi-hoff agwedd) o tan ddiffygion."

Wrth eu haraith, effaith ddig,

Dawn y wlad, yn weledig,

Fal yspryd tanllyd o'u tu,

A wnae'n anadl enynnu,--

Gan ddangos, yn achos Ner,

A'i fendith, a'i gyfiawnder,

Y mawr fri o dorri'r did,

I ymroddi am Ryddid.

Pwy ar alwad, a piau wroliaeth,

Ni ddaw i'w dilyn, a nawdd o'i dalaeth,

A rhin fal arwyr yr hen filwriaeth,

Draw a hwylient i Droia ehelaeth,

Os y goll o Ryddid sy' gwaeth--na'r hen

Golled o Helen, gai hyll hudoliaeth?

Hen anghrist, un athrist oedd,

O'r tu arall i'r tiroedd,

A gododd,--gwaethodd drwy'r gad,

Ar filoedd i'w rhyfeliad:

Un oedd o'r rhai aneddant

Uffern boeth yn ei ffwrn bant,--

Hoffai lid a gofid gau,

A'i llwydd ydoedd lladdiadau;

Seirph tanllyd, gwaedlyd eu gwedd,

Gwenwynig, (gwae anhunedd)

Ei gwallt oedd,--a gwyllt eiddig,

Rhag hedd oedd dannedd ei dig;

Ei llygaid yn danbaid des

Oedd uffernawl ddwy ffwrnes;

A'u sylwedd, o'r iseloedd,

A'u mawr lid, tra marwawl oedd.

O! pa ryfel, a'i uchel ochain,

Dial a'i ofid, a dolefain,

O'i chodiad irad yn y Dwyrain,

'Fu'r un baich i fawrion a bychain;

Baban a mam (un ddamwain) lle cafodd,

Dieneidiodd o dan ei hadain.

Ond Duw'r hedd o'i ryfedd rad,

Yn 'diwedd, roi wrandawiad

I'w blant,--pan godent eu bloedd,

Dan ofid hyd y nefoedd:

O Scio wylo, alaeth,

I'w glustiau'n ddiau a ddaeth;

A rhoes, Ior y Groes, ar gri,

Dyst eirian o'i dosturi;

D'ai'n gymorth, da borth di-baid,

Nes i ryw'r Nazareaid,

Rai marwawl, er eu muriau,

Ac erfyn eu gelyn gau.

Angylion, genadon gwynion gannoedd,

Gyrrai i'w llywiaw, y gorau lluoedd,

Rhwygent y muriau, rhoi gwynt y moroedd

I'r ddi-ofn daran, hwyl ar ddyfnderoedd,

Llu'r Proffwyd dan arswyd oedd--pan welent,

Hwy draw a gilient i eu dirgeloedd.

Yn awr (a Duw'n ei wiriaw)

Golygwn ddwthwn a ddaw,--

Pan deflir, lluchir i'r llawr

Ddu arfawg anghrist ddirfawr;

A phan gair, yn hoff ei gwedd,

Gaer enwawg i'r gwirionedd:

Drwy reol gwydrau'r awen,

Draw'r llwydd a welaf drwy'r llen;--

Llwydd oesoedd lluoedd Iesu,

Pan gant y feddiant a fu

O ddiwall wlad addewid,

Heb gaethder, llymder, na llid.

Gyrr y Dwyrain, ac oer ia diroedd

Y dwfn eira, eu di-ofn yrroedd;

Gyrr y Deau hithau ei hieithoedd,

A Gorllewin ei gorau lluoedd;

Un fwriad a niferoedd--y fawr-blaid

O Groesadiaid, ac eres ydoedd.

Bydd ar dyrau Salem furiau,

Y banerau yn ben arwydd,

I'r tylwythau, ar eu teithiau

I le'u tadau, olud dedwydd;

Ar Fosciaid y blaid heb lwydd,--dyrchefir

Ac eres welir y Groes hylwydd.

A thi, Roeg, a'th ddaear wych,

A'th awyr brydferth hoew-wych,

A welir eto eilwaith,

Fal gynt, er rhyfelawg waith,

Yn llwyddo'n fronlle addysg,

A lle llawn pob dawn a dysg;

Byddi, heb nam, yn fam faeth

I rinwedd--i wroniaeth--

I ddidwyll gelfyddydau,

Pob llwydd, a wna pawb wellhau;

I bob mad gariad gwladawl,

A fu gynt dy fwya' gwawl.

Ac iawn adferir, gwnn, dy furiau,

Dy awen, llwynydd, dy winllanau,

Dy brif-ysgolion, dirion dyrau,

Lleoedd doethion ddynion o ddoniau;

Sparta hen, Athen hithau--a gant lwydd,

A fydd ddedwydd o gelfyddydau.

Darlunir hyd ar lenni,

A mynnir, gwn, o'th meini

Gelfyddyd byd heb oedi;

Y dynion a adweini,

Yn rhediad eu mawrhydi,

Yn eil-oes, gwnn, a weli;

Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn,

Fodd uniawn, a feddieni.

Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid--eto

Iti a chalondid:

Yn y byd hwn, na boed tid

Dan nefoedd yn dynn ofid.

Ond aed (ac O! nad oeded)--lywodraeth

Ddi-ledryw gwlad Alffred,

A'i moliant i ymweled

A thir y Gryw, a thrwy Gred.

Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,--oll hydrefn

A llywodraeth wladawl,

Sydd dda;--a chyd-gerdda gwawl

Gair yr Iesu, gwir rasawl.

A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch,

Gyrred allan o'i gaerau dywyllwch:

I ni y mae digon yma o degwch

Gael in', a'i hurddas, Gwalia'n ei harddwch;

Nes troi'n glynnau'n fflamau fflwch,--a'n creigiau,

Llonned ei dyddiau'n llen a dedwyddwch.

Gwaith Alun · 第 26 / 79 题