CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG.

Ymysgydwch o'ch cysgadrwydd--

Yn filoedd dowch i foli Duw;

Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd,

Gobeithiaf mai un ddedwydd yw:

Mae pob Calan fel yn gwaeddi,

A'r tymhorau bob yr un,--

Yn eu dull yn dwys bregethu--

"Derfydd dyddiau byrion dyn."

Heddyw'm gorchwyl innau dderfydd,

Alwai'n chwaneg mo'no chwi;

Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd

A lladmerydd y bum i;

Mi fynegwn ddull y tywydd,

P'un ai teg ai garw'r gwaith,

Fel y gwypech ar obenydd

Ai addas oedd y dydd i daith.

Do, mi wyliais gylch eich drysau

Ar ryw oerion oriau hir,

Rhag i ddynion drwg eu nwydau

Dorri eich aneddau'n wir;

Tywydd garw, mwy nag oerni,

Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith,

A chan ofal i'ch gwas'naethu

Methais gysgu lawer gwaith.

Daeth fy ystod at ei therfyn,

Darfu'm tro oddeutu'ch tre',

Un galenig wyf yn ofyn

Am fy llafur yn y lle;

Chwi sy'n meddu da a moddion--

Digon sy'n eich llety llawn,--

Gwnai ychydig o'ch gweddillion

DIC a'i deulu'n llawen iawn.

Gwaith Alun · 第 25 / 79 题