Pregeth ar drachwant gaed yma—trachwant aur ac arian: a phregeth
effeithiol dros ben ydoedd. Mi sylwes yn arbenig ar un dyn, yr hwn oedd
yn colli’r cwbl a roe ar y bwrdd, a’r hwn oedd wedi colli llawer cyn i
ni fyn’d yno. Yr oedd ei lyged bron a chwympo allan o’i ben—yr oedd mor
welw a’r galchen, ac eto, rhede’r chwŷs yn ddiferyne mawrion dros ei
dalcen, y naill ar ol y llall—ei ddanedd a rincient yn erbyn eu
gilydd—yr oedd ei law’n crynu fel taw prin y gallase osod ei arian ar y
lliw—a phob tro y colle, fe ollynge’r fath ochened nes cynyrchu
crechwen drwy’r ffau.
“Dowch allan, hogie,” meddwn; “mae pum’ munud mewn lle fel hwn fel pum’
mlynedd.” Ac allan yr aethom. Ni wnaethom ond yn hrin gyredd y ’stryd,
nag y rhuthrodd rhywun heibio i ni, heb het ar ei ben, ac fel pe bydde
lleng o gythreulied wrth ei sodle.
“Dyna’r dyn oedd yn colli,” ebe _Roberts_. Cauodd y dyrfa am dano, a
synwn i ddim na chollodd o ’i gorff a’i ened cyn haner nos.
Wedi gwel’d rhagor, a chlywed mwy, y rhai a ferwinent eich clustie pe’r
adroddwn hwynt i chwi bob yn un ac un, tynasom tuag yn ol; ac erbyn imi
gyredd f’ystafell wely, ac edrych arna’ fy hun yn y drych, mi dybies am
foment fod un o boenwyr _Roberts_ wedi fy nilyn! Breuddwydies lawer cyn
y bore’ am lewod a theigrod ar lun dynion. Nid wyf wedi edifaru imi
fyn’d i wel’d _Cairo_ wedi’r nos; ond mae’n amheus genyf a chwenychwn y
profiad eto.
PENOD XVIII.
*
ANTURIAETHUS.
NID wyf wedi d’wey’d ond y nesa’ peth i ddim eto am y merched a’r
gwragedd yn yr _Aifft_. Gwir nad wyf wedi d’we’yd ond ychydig am neb.
Ond gwn y dylase’r boneddigese fod wedi cael y sylw cynta’ a’r sylw
pena’, am eu bod bellach yn arfer ei gael, ac, o ganlyniad, yn ei hawlio
y’mhob cylch a safle. Nid yw cyment ag wyf wedi ei dd’we’yd am danynt yn
òd o flasus, a rhyw betruso’r wyf sut y cymerant yr hyn fyddaf yn ei
dd’we’yd am danynt yn y benod hon. Bid fyno, rhaid ei dirwyn i ben ar ol
dechre’.
Mae’r gwragedd _Mahometanedd_ oll yn cuddio’r darn isa’ o’u gwynebe â
math o hugan, yr hwn a sicrheir y tu ol i’r pen â rhwymyn; sicrheir ef
hefyd ar ganol y talcen â darn o fetel gloew. Y ddau lygad yn unig sydd
yn y golwg, a sylla’r rhai hyn arnoch yn felancoledd i’w ryfeddu. Mae’r
merched ieuenc yn cerdded allan â gwyneb agored; ond gynted y prïodant,
yr hyn gymer le’n aml pan nad y’nt ond deuddeg oed, ymneillduant y tu ol
i’r llen y sonies am dani, ac nid oes neb yn cael gwel’d eu gwynebe mwy
y tu allan i gylch uniongyrchol y teulu. Gorchwyl go beryg’ yw syllu mwy
na mwy arnynt, yn enwedig os bydd y gwŷr yn digwydd bod gerllaw. Mi
glywes am un, oedd a’i gywreinrwydd yn fwy na’i synwyr, fentrodd
lygadrythu’n sarhaus i wyneb un o’r gwragedd gwyledd hyn, ac a aeth mor
bell ac estyn ei law at y gorchudd. Buasai’n well iddo beidio. Bu raid
iddo adel y wlad ar ffrwst mewn canlyniad. Dilynid ef i bob man lle’r
ele, a phrin y dïangodd a’i fywyd ganddo ragor na siwrne. Achwynodd ei
gŵyn wrth un o gynrychiolwyr awdurdodedig ei wlad; a chynghorodd hwnw
ef, ar ol deall yr amgylchiade, i ddychwelyd adre’ y cyfle cynta’ gaffe.
Nid gorchwyl pleserus hyd y’nod y’_Nghymru_ yw tynu gwg y “rhyw deg”
arnoch; ond yn y Dwyren y mae yn ymgymeriad difrifol. Cuddiant eu
gwynebe rhag dyeithried er yn eu tai eu hunen, ac y’nghanol eu pobl eu
hunen.
Ce’s achlysur i fyn’d i dri o anedde’r _Arabied_—un yn _Alecsandria_,
un yn _Cairo_, ac un yn ymyl y _Pyramidie_. Cy’myn’d i’r ddau gynta’, yr
oedd yn rhaid rhoi rhybudd mewn pryd; ac yr oedd hyny’n anfantes i wel’d
y gwreiddiol yn ei wreiddiolder. Ond aeth fy ffrind a mine i mewn i’r
llall heb ganu’r gloch, yn syth ar ein cyfer. Ac nid anghofiaf yr
olygfa. Yr wyf yn meddwl taw _Huws_ oedd hefo mi, ac yr oedd yn
ddatguddiad i ni’n dau. Ni ddigiwch wrth destyn y benod pan adroddaf i
chwi sut yr ymdarawsom.
’Roedd yr haul mor danbed oddiallan, a’r goleuni mor brin oddifewn, fel
y cymerodd ychydig eiliade ini fedru gwel’d ein hamgylchoedd. Bob yn
dipyn, fel tomen ludw ar doriad gwawr, daeth i’r golwg y ddynes hagraf a
weles yn fy nydd, heb orchudd dros ei gwyneb, ond y synedigaeth hyotlaf
yn ei llyged. A’r fath lyged! ’Ro’ent mor fawrion a chrynion a dwy soser
dê gymedrol! P’run o honom oedd wedi cael mwya’ o ddychryn, ai hi ynte
_Huws_ a mine, mae’n anodd d’wey’d. Sut bynag, pan ddeallodd yr hen
chwaer ei sefyllfa, trodd ei chefn arnom, a gweles hi wrthi’n prysur
wneud rhywbeth â’i dwylo o gwmpas ei phen—yn debyg fel y gweles rai o
foneddigese ieuenc _Treorci_’n maldodi eu gwallt o’r tu ol, mewn trefn i
gael allan wrth synwyr y fawd os yw’r gyrlen yn ei lle, a’r pine ar eu
gwyliadwrieth! Mi dybies i taw ’molchi oedd y genawes, oblegid ’doedd
dim dadl nad oedd hyny’n ddyledswydd a esgeulusid ganddi; ond gynted y
gwynebodd ni drachefn, gwelsom taw wedi bod yn gosod y gorchudd i fyny’r
oedd. A phe b’asech yn gwel’d y ddau lygad mawr, byw, a duon rheiny oedd
yn bwrw tân dros ben y gorchudd, heb eich bod wedi cael cip ar y wyneb
yn gyflawn cyn hyny, awn ar fy llw, pe bydde raid, y b’asech yn d’od i’r
penderfyniad ei bod yn un o’r merched glanaf yn y byd. Ah! fel y medr y
_veil_ dwyllo dyn! Yn siwr i ch’i, mae iddi ei mantes yn y Dwyren. A pha
ryfedd fod y dych’mygol mor berffeth y’mysg y Dwyreinwyr, pan mae’r
llyged gloewen hyny sy’ fel y wenlloer yn ’sbïo arnoch o’r tu ol i’r
cwmwl yn pregethu prydferthwch cyffredinol mor onest a hyodl!
Garech ch’i glywed sut fu arnom yn y mwd-gaban wrth draed y _Pyramidie_?
Dïau i’r hen wraig deimlo dïogelwch arbenig y’nghysgod y gorchudd; ac
fel milwr wedi codi gwrthglawdd rhyngddo a’r gelyn, dechreuodd danio’n
union. Nis gwyddwn beth a dd’wede, ond barnwn wrth ei llyged a’i hoslef
ei bod yn trin ei thafod yn erwin. Ac erbyn y cymerwch bobpeth i
ystyrieth, ’doedd o ryfedd yn y byd. Dealle fy nghyfell un gair am bob
dwsin, a dyfale’r unar-ddeg erill oddiwrth yr un hwnw. Ond bu raid iddi
yn y diwedd ymatal i gymeryd ei hanadl; ac yn y saib byrhoedl hwnw,
amcanodd _Huws_ dd’we’yd wrthi beth oedd ein neges, taw d’od i wel’d y
tŷ y daethom, ac nid ei gwel’d hi. Ac fel prawf ymarferol o hyny, a
ystyrie ’fe yn anwrthwynebol, dangosodd iddi ddarn bychan o arian ar ei
law.
Mae’n ddrwg genyf orfod d’we’yd yn y fan yma i’r hen dafotreg gamddeall
geirie fy nghyfell, a chamddeall cenadeth y darn arian. Hwyrach nad oedd
ei _Arabeg_ cystal ag yr arfere dybio ei fod, neu hwyrach fod y darn
arian yn _rhy_ fychan; nis gwn am hyny, ond cofiaf y canlyniade tra
b’wyf byw. Cododd wythod ar ei thôn, nes eich cyfiawnhau i gredu fod
ganddi glôch dan bob dant; a chauodd ei dyrne, gan eu chwyfio fel pe
b’ai wedi ymdrawsffurfio’n felin wynt. ’Doedd dim posib’ cael gair i
fewn ar ei ochr. Wrth wel’d _Huws_ y’methu, treieis ine hi’n _Gymraeg_;
ond och fi! yr oedd yr hen iaith fel olew ar y tân, yn peri iddi losgi’n
fwy. Erbyn hyn, yr oedd nifer o blant wedi ymgasglu o gwmpas y drws, a
haner dwsin o fenywod. ’Roedd yn hawdd gwel’d fod rhein yn deall y cwbl,
a rhagor, a chlebrent fel gwydde â’u gilydd.
[Illustration: _DAN Y PALMWYDD._]
“Gwell ini gym’ryd y goes,” meddwn wrth fy nghyfell, yr hwn oedd wedi ei
gythruddo’n fawr am na b’ase’r ddynes yn ei ddeall yn siarad. Mi
gyfeiries tua’r drws gyda’r gair, a dilynodd ynte mor barchus ag oedd
modd. Ond hyd y’nod wedi ini osod y _Sphinx_ rhyngom â’r lle, yr oedd ei
chlôch yn ein clustie’n barhaus. Ar ol cyredd _Cairo_, adroddasom yr
helynt wrth gyfell arall. Wedi chwerthin yn iachus am ein trybini, trodd
atom ein dau, ac ebe fe’n ddifrifol:
“Wel, ’roedd yn dda i ch’i nad oedd gŵr y ddynes gartre’.”
“Sut f’ase pethe wed’yn?” gofynwn yn gyffrous.
“O,” ebe ynte, a’i ddifrifoldeb yn chwyddo, “caech fedd yn y tywod am
ddim, a neb i adrodd yr helynt. Mae claddu’n y tywod dan amgylchiade
neillduol yn y ffasiwn ffordd yma byth er amser _Mosus_, pan wnaeth o’r
gymwynas hono â’r _Aifftiwr_ ’slawer dydd.”
Ein tro ni’n awr oedd chwerthin.
Ond wedi hilio’r cwbl, cawsom taw dyna oedd ein pechod mawr—dala’r
faeden heb ei gorchudd, a chynyg arian iddi os tyne’r gorchudd i ffwrdd
eilweth, er mwyn ini gael syllu ar ei gwyneb glân, a’i thegwch
cynddiluwedd. Dyna fel ’roedd hi wedi esbonio pethe; a dyna lle gadawaf
hi’n awr i ddawnsio ar ei thomen ei hun.
[Illustration]
PENOD XIX.
*
BYD AC EGLWYS.
RYW fore’, yr o’em yn chwech mewn nifer ar gyfer un o brif fasnachde
_Cairo_, yn barod i gychwyn i daith ag oedd wedi cael ei threfnu’r
diwrnod cynt. Yn ol y dosbarthiad cyffredin, yr oedd y chwech yn cael eu
gwneud i fyny o bedwar bôd rhesymol a dau afresymol. Ond fe f’ase’r
sylwedydd diduedd yn siwr o droi’r ffigyre’n ol y bore’ hwnw, a sicrhau
fod y chwech yn cael eu gwneud i fyny o ddau fôd rhesymol a phedwar
afresymol. A phan y byddaf yn meddwl yn f’orie hamddenol am yr hynt a’r
helynt hono, yr wyf yn cael fy hun yn gogwyddo i’r un farn ag ef. Un o’r
trindod ffrindie yr wyf wedi bod yn sôn am danynt eisoes, a mine, dau
arweinydd brodorol, a dau asyn oedd yn cyfansoddi’r finte. Chwi allech
feddwl ein bod y’myn’d i _Timbuctoo_. _Jones_ oedd y ffrind, ac _Ali_ a
_Mustapha_ oedd enwe’r arweinwyr enwe arnynt o gwbl. Ond yr wyf yn cofio
eu teithi meddyliol yn dda, a chofiaf hwynt tra bwy’ byw. _Ali_ oedd
bïa’r asynod, ond _Mahomet_ oedd bïa _Ali_, gorff ac ened.
Yr o’em wedi trefnu i fyn’d i ymwel’d â’r “bazaars,” ac un o’r prif
eglwysi _Mahometanedd_, a bore’ cyfan i gael ei gyflwyno i’r gwaith.
“Dewiswch eich anifel,” ebe _Jones_ yn garedig. Yr o’wn, wedi cymeryd
stoc o’r ddau’n barod, ac wedi astudio’u pwyntie, da a drwg, yn bur dda,
dybygwn i.
“O’r gore,” meddwn, “mi gym’ra’ i at y brawd yma;” a chyfeiries at yr un
a ymddangose i mi y diniweitiaf o’r ddau. Yr oedd y llall yn bradychu
drwg-dymer anghyffredin—yn ffroeni ac yn sodli, yn cychwyn ac yn
cilio—nes ei bod yn beryg’ i _Gristion_ sefyll yn ei ymyl. Ond yr oedd
ei frawd yn peri imi feddwl am _Issachar_, yr hwn y d’wede’i dad am dano
ei fod fel “asyn asgyrnog yn gorwedd rhwng dau bwn.” Yr unig symudiad a
wnai oedd ysgwyd tipyn ar ei ben mewn protest mud pan y deue cleren neu
wybedyn i ’sbïo bôn ei glust. Nid o’wn wedi bod mor agos a hyny i asyn
pedwartroed er pan o’wn yn hogyn, ac yr oedd hen adgofion am y
gymdeithas yn gwneud imi ddyfalu sut y cymerem at ein gilydd.
Bid fyno, wedi gwneud y dewisiad, prysurwyd gwartholion nag y ce’s
f’argyhoeddi o dwyll y crëadur oedd danaf. Aeth yn grëadur newydd yn y
fan. Yn lle ei fod yn _Biwritan_ hyfwyn a thringar, aeth yn wrthryfelwr
penboeth, a ’doedd dim posib’ ei gael i fyn’d yn ei flaen wrth reol. Ele
ar garlam wyllt un eilied, yna fe safe’n sydyn nes d’rysu cydbwysedd y
truan oedd ar ei gefn, a’i yru ef yn ei flaen yn ddïewyllys. Desgrifie
gylche ac ongle ar y ’stryd mor gywir a dim a welsoch mewn _Euclid_, ac
yr oedd yn ymddangos i mi’r prydie hyny fel pe’n awyddus i wybod safle
anianyddol ei gynffon. Yr o’wn yn hollol at ei drugaredd, ac nid hir y
bum cyn d’od yn arg’oeddedig fod yn rhaid i mi fod ar ddihun o’m pen i’m
traed y diwrnod hwnw os am fod yn groeniach. Wedi gwneud penderfyniad
o’r natur yna, yr oedd yn rhaid glynu wrtho; a cha’nad o’wn mewn cyflwr
prïodol o ran fy meddwl i fedru gwahaniaethu rhwng y penderfyniad a’r
asyn—er fod genyf ryw syniad amrwd fod yna berthynas gyfrin
rhyngddynt—mi dybies fod glynu wrth y naill yn gyfystyr a glynu wrth y
llall. A dyna fel y llwyddes.
Trwy gydol yr amser, edryche _Ali_’n dawel arnom; a phan y ’storiwn
ddigon o anadl i apelio ato, dyna dd’wede:
“Peidiwch ofni—daw ato’i hun yn union!”
A gwir a dd’wedodd. Ond pan ddaeth ato’i hun, daeth _Ali_ ato hefyd, a
dechreuodd ei bastynu’n ddidrugaredd: a dyna sy’n gwneud i mi betruso
rhwng y rhesymolion a’r afresymolion. Sut na fase _Ali_ yn ei bastynu
pan oedd yr asyn yn an’stywallt, ac nid wedi iddo edifarhau? Ond os
o’ent hwy’n deall eu gilydd, pa wahanieth?
Pan y gelles anturio edrych heibio’i ddwy-glust, gwelwn _Jones_ yn y
pellder, a’i asyn ac ynte fel pe baent wedi eu morteisio. Mi weles yn
union ei fod e’n feistr ar y sefyllfa, ac wedi bwrw’i brentisieth er’s
blynydde. O, fel y gofidiwn na b’aswn wedi dewis yr asyn arall pan ge’s
y cyfle! Tra’r o’wn yn ffigyrol fwyta f’ewinedd fel hyn, rhoes _Ali_
bren yn fy llaw, gyda chyfarwyddyd i chwilio am eis y crëadur: gwnes
hyny, a che’s fy hun yn ymyl pedion y llall fel cyfri’ llyfrithen. Mi
ddealles fod gogles ar _Ned_ yn y gym’dogeth hono, a bu’r wybodeth o
fantes i mi wed’yn.
Gwaith cynil oedd ymlwybro drwy’r dyrfa o ddynion ac anifeilied a
cherbyde ar hyd y ffordd, ac mi gredes fy mod yn d’od i helbul ragor na
siwrne. Profiad dyeithr i mi oedd bod ar gefn asyn mewn dinas yn y
Dwyren—camelod a dromedaried yn f’amgylchu yn lle ceffyle a gwartheg,
ac _Arabied_ cilwgus yn lle _Cymry_ rhadlon. Ga’nad beth, ’mhen hir a
hwyr cyraeddasom y fynedfa i fewn i un o’r “bazaars,” a roedd yn rhaid
gadel y dynion a’r asynod o’r tu allan. Nid wy’n cofio perthyn i ba wlad
neu genedl yr oedd y gynta’r aethom iddi, ond i lygad anghyfarwydd fel
’r eiddo’ fi, ychydig o wahanieth oedd rhyngddynt. Lleoedd culion,
hirion o’ent, yn llawn o nwydde a dynion—mor llawn fel taw prin y
gallech weithio’ch ffordd y’mlaen gyda’r gradd lleia’ o lwyddiant. Yr
oedd yn gryn gamp i ni ein dau dena’ i gerdded ochr-yn-ochr ambell i
getyn. Stondine bychen ar bob llaw, ar dori gan y ’stwff gwerfchfawr a
diwerfch a werthid, y’nghyda mynedfa gul yn y canol i’ch arwen i fewn
i’r faelfa ryfeddol sy’ o’r golwg; a phan y byddwch yn pasio dan edrych
o’ch cwmpas, daw’r gwerthwr allan o’i faelfa i’ch cyfarfod yr un fath yn
union a phry’ copyn yn d’od allan o’i dwll i gwrdd a’i ysglyfeth. Ceid
llawer yn gweithio’u crefft y tu allan i’w siop—gwaith ede a nodwydd
o’r fath cywreiniaf; ac nid oedd dim yn eu plesio’n fwy na gofyn
cwestiyne iddynt am y gwaith oedd yn eu dwylo. Traethent yn hyodl mewn
cymysgieth o _Saes’neg_, a _Ffranceg_, ac _Arabeg_, am ddirgelion eu
celf; ond pwnc go anodd f’ase penderfynu pa faint o wir a pha faint o
anwir a gynwyse eu truth. Nid yw’n bechod i _Fahometan_ dwyllo dyn o
grefydd arall mewn gair a gweithred; nid wyf yn siwr nad ystyrir ef yn
rhinwedd mawr. Yr oedd ambell un yn daer dros ben: gwthie ei nwydde
arnoch, a bron na chydie’n eich braich i’ch llusgo i fewn, bodd neu
anfodd, i’w barlwr. _Iuddewon_ a _Groegwyr_ oedd y dosbarth mwya’ egr; a
difyr oedd gwrando ar _Jones_ yn dal pen rheswm â hwy—yn eu tynu allan
i gredu fod ganddynt ddau gwsmer hawdd eu twyllo—ac ar ol eu dwyn i
ymyl bargen, yn ysgwyd pen, gan dd’we’yd:
“_Mwsh aws!_” ystyr yr hyn yw. “Dim eisie!” ac yn cerdded i ffwrdd mor
ddihidio a chocosen. Mi fydde’r crëadur cellweirus wedi myn’d yn ei
flaen weithie tra fyddwn i’n breuddwydio; a phan y trotiwn ar ei ol,
dilynid fi gan furmuron bygythiol y gwerthwr.
“Be’ mae o’n ddeud, _Jones_?” gofynwn, ar golli f’anadl.
“Bwrw anatheme ar eich ol, gorchymyn eich corff i’r fwlturied, a’ch ened
i’r poenwyr,” ebe’m cyfell, gyda’r un llyfnder ag y dywede’i bader.
“Mae’n dda iddo nad o’wn yn ei ddeall,” meddwn, “onide fe’i tanbelenwn â
rhai o derme barddonol _Dafydd ab Emwnt_, fel y gwnaeth _Talhaiarn_ â’r
’sgrech hono o _Billingsgate_.” Chwarddodd fy ffrind yn galonog, a
d’wedodd hwyrach y cawswn gyfleusdra arall yn fuan.
“Mae eisie ffon arnaf,” ebwn yn sydyn; ac aeth a mi at stondin hen
_Roegwr_ a adwaene. Rhoes ar ddeall i hwnw fy neges, a ffwrdd a’r
“coryn” deudroed i’w gastell, gan ddwyn odd’no ffon lathr wedi ei gwneud
o groen unicorn. Enw arall ar yr unicorn yw _rhinoceros_.
“Dyma hi,” ebe fe, a gwên fuddugoliaethus ar ei wefus fain. “Bargen
fawr—plygu fel chwip—dim nam,” a throai’r ffon yn bob ffurf yn y byd o
flaen ein llyged.
“_Bekamde?_” ebe _Jones_; “hyny yw, Beth yw ei phris?”
Ond cyn dweyd ei phris, parhau i dywallt ffrydlif o eirie cymeradwyol
i’r ffon a’i rhinwedde wnai’r hen gono, nes bron a gwneud i mi gredu taw
hen ffon _Moses_ ydoedd, neu ffon _Aaron_ ei frawd, a dweyd y lleia’; a
pharod o’wn i’w phrynu ar unrhyw bris.
“_Bekamde?_” ebe _Jones_ eilweth, mor swrth a phlismon.
“_Eshreim_,” ebe’r gwerthwr, gan geisio ailddechre. Ond torodd _Jones_
ar ei draws yn ddiseremoni—
“_Mwsh aws_,” ebe fe, a ffwrdd ag e’ dan chwibanu. Es ar ei ol, a
gofynes iddo pa’m na phrynase’r ffon.
“Am ei fod yn gofyn punt am werth coron.” Cauodd ben y mwdwl ar unweth.
Y’mhen chwarter awr’ro’em yn pasio heibio stondin y _Groegwr_ drachefn,
a dyna lle’r oedd a’r ffon yn ei law o hyd.
“_Bekamde?_” ebe _Jones_ y drydedd waith, heb aros dim, ac mor anibynol
a miliwnêr.
“_Arba_,” ebe ynte’n union; a che’s y ffon am _bedwar swllt_! Hen
eillwyr ofnadwy yw gwŷr gwlad _Groeg_, cystal a gwŷr gwlad _Canaan_
unrhyw ddydd; ac yr oedd geirie _Paul_ yn tori bob ochr pan dd’wedodd
nad oedd “gwahanieth rhwng _Iuddew_ a _Groegwr_.”
Aethom drwy’r maelfeydd _Tyrcedd_, _Persiedd_, _Indiedd_, a _Melitedd_
oll yn eu tro, a’u rhyfeddode’n amlhau ac ymehangu bob cam o’r ffordd.
Yr oedd cyfoeth a gwychder y lle yn fy synu. Yr oedd fy nghydymeth yn
adwaen rhai o’r maelfäwyr, ac yn ei gysgod ce’s fwrw golwg dros rai o’r
dirgelion oddifewn. Dynion caredig o’ent oll cy’d ag y safech gyda hwy i
fargeinio; wn i ddim sut rai all’sent fod wedi i chwi droi cefn heb
brynu. Meddent ar allu nodedig i edrych yn serchus ac i edrych yn gâs,
fel y bydde’r cymhellion. Y ffordd effeithiolaf i gael llonydd ganddynt
oedd siarad yn sarug â hwy, a thynu croen eich talcen dros haner eich
llyged. Dyn a’ch helpo os na fedrech wneud hyny; fe’ch blingent yn fyw.
I fyny ac i lawr—i’r dde’ a’r aswy—y’mlaen ac yn ol—a’r naill le mor
debyg i’r llall ag y gallent fod: yr oedd yn syndod i mi sut oedd yr
hogyn yn gwybod ei ffordd cystal. O’r diwedd, ar ol troi a throsi, a
chamu a chroesi ganoedd o weithie, mi all’swn dybied, dyma whiffyn o’r
awyr agored yn disgyn ar fy ffroene—dyna oernad asyn yn disgyn ar fy
nghlustie—dacw ddau o honynt yn sefyll yn hamddenol yn y fan draw, a
phen y naill wrth gynffon y llall—a dacw _Ali_ a _Mustapha_’n pwyso
arnynt mor hamddenol a hwythau, dan chw’thu colofne o fwg sigarets allan
o’u ffroene. ’Roedd deubeth yn peri iddynt fod hamddened—stoicieth eu
natur a’u credo, a’r wybodeth taw wrth y dydd y cyflogid hwy.
Ffwrdd a ni drachefn. Yr oedd gwahanol aelode’r finte yn deall eu gilydd
yn well erbyn hyn. Gadewes i _Jones_ flaenori, a da i mi fu hyny cyn
nemor o amser. Cyfeiriem yn awr i’r eglwys y sonies am dani, ac yr oedd
yn rhaid ini fyn’d drwy ganol y farchnad _Dyrcedd_ os am fyn’d yno’r
ffordd agosa’. Ceir yma arwerthiant boblogedd bob bore’, a’r dyrfa’n dew
yn ’i gilydd, ac yn rhifo’i miloedd. Yr o’em yn ei chanol cyn ini’n brin
osod ein hunen yn daclus ar y cyfrwy.
“Cauwch cich côt, a meindiwch eich ’watch!’” oedd gorchymyn _Jones_ mewn
llais croch, cynhyrfus. Ceisies wneud gore’ medrwn, ond yn fy myw y
gall’swn guddio’r gadwen o’r golwg, am nad oedd y gôt yn botymu’n ddigon
isel. Ni welsoch erioed y fath helynt, ac ni chlywsoch erioed y fath
fwstwr. Fel y d’wedes, _Jones_ oedd yr arloesydd, ac yr oedd yn gofyn
iddo dreisio’i ffordd yn llyth’renol drwy’r dyrfa—fel pe gwelech aing
y’myn’d i mewn i bren. Dilynid ef gan _Mustapha_, yna, down ine, ac
_Ali_ ar f’ol. Gwaedde’r ddau _Arab_ ar ucha’u llais yn ddïatal am i’r
bobl glirio; gwaedde _Jones_ c’uwch a’r ddau: ond ce’s glywed wed’yn fy
mod i wedi myn’d i waeddi c’uwch a’r tri cyn d’od yn rhydd o’r giwed
guchiog. Gynted y cyll dyn ei hun dan rai amgylchiade!
Sut bynag, daethom drwyddynt yn ddïogel, a chawsom ein hunen yn fuan
wrth gyntedd allanol yr eglwys. Bu raid ini wisgo sandale am ein traed
cy’ myn’d i mewn, a gadel yr asynod a’r arweinwyr fel o’r blaen y tu
allan. Daeth gŵr arall i’n cyfarwyddo, yr hwn a ymgyfathrache â ni trwy
arwyddion. Wedi gadel y porth, daethom i gyntedd agored anferth, yn yr
hwn yr eistedde ac y gorwedde miloedd o ddynion, yn dỳre ar wahan, fel
dosbarthiade mewn Ysgol Sul, ac athraw ar bob dosbarth. Yn llaw pob un
yr oedd rhôl fechan, a dealles yn fuan taw darn o’r _Coran_ oedd hwnw.
Murmurent yn haner hyglyw ar hyd yr amser, ac yr oedd eu sŵn fel sŵn
byddin o gacwn yn llawn gwaith. Pigem ein llwybr yn ofalus ar ol ein
harweinydd—weithie’n cwmpasu, ac weithie’n camu dros goes y naill, a
dwygoes y llall, a chorff y trydydd. Ni syfle un o honynt gyment a bys
er mwyn ini basio’n hwylusach. Yr o’ent oll o dan belydre crasboeth haul
y canolddydd, ac ymestyne rhai ar eu hyd, fel pe baent wedi eu llwyr
orchfygu ganddo. Aethom i fewn i’r adeilad sy’ dan dô, a chawsom
ail-argraffiad o’r un olygfa. Ce’s fy ngogleisio’n sydyn gan rywbeth neu
gilydd wrth groesi’r ystafell hon, a throis at _Jones_ am gydymdeimlad.
Nid af i wadu na ddarfu i mi chwerthin yn uwch nag oedd yn weddus, erbyn
cofio y’mhle’r o’wn. Ga’nad beth am hyny, dyma lais main, crynedig, yn
cyredd fy nghlust:
“Er mwyn y Nefoedd, peidiwch a chwerthin, na siarad yn uchel!”
Mi feddylies fod yno _Gymro_ arall gerllaw, ond dealles mewn pryd taw
_Jones_ oedd wrthi; a rhwng y llais a’r geirie, mi lynces yr awgrym, ac
ni fum anufudd i’r datguddiad. Mae’n debyg imi beri i rai o honynt golli
eu gwers: mi ge’s un fy hun nad anghofies mo’ni wed’yn, Erbyn hyn, yr
o’em wedi d’od at ystafell y puredigeth. Cymeres gipdrem ar y fan, yne
mi drois ar fy sodle’n sydyn, cydies yn dỳn yn fy nhrwyn, a gwadnes hi
odd’no gynted y gallwn. Yr oedd yn llawn bryd. Da oedd genyf hefyd gael
gwared o’r sandale. Enw’r eglwys hon oedd “Eglwys y Brif-Ysgol,” a
d’wedwyd i mi fod yno bymtheg mil o eneidie y bore’ hwnw, yn ddynion i
gyd, heb wraig, na merch, na phlentyn yn agos i’r lle. Cofies am
Ysgolion Sul _Cymru_, ac nis gall’swn beidio cymharu a chyferbynu.
Dyna i ch’i dro byr i fyd ac eglwys. A’r hyn sy’n rhyfedd yw—fod yn
rhaid i chwi adel yr asynod allan cyn y cewch fyn’d i fewn i’r naill
na’r llall o honynt.
[Illustration]
PENOD XX.
*
AR YR AFON.
AFRED yw d’we’yd pa afon a olygir. Yr wyf wedi sôn am dani eisoes, neu o
leia’ am un o’i thafode, yn ymyl _Alecsandria_. Dyna lle mae’n llepian
_Môr y Canoldir_ â’i saith tafod yr un pryd. Yn ymyl _Cairo_ y mae’n
fforchogi. Oddiyno ’mlaen i’r môr y mae’n cofleidio’r holl wlad am
bellder o chwech ugen milldir; ac y mae rhagor na hyny o bellder rhwng
ei thafode eitha’ wedi y cyrhaeddo derfyn ei thaith. Ar yr afon y dibyna
pobl y wlad yna am gynalieth. Pan y gorlifa ar ei hamsere, gedy swm
trwchus o fẁd ar ol yn gynysgeth i’r trigolion. Mae hwn yn dir ac yn
wrteth o’r fath ore’, a phroffwyda gynhaua’ toreithiog. Mae’r gorlifiade
drachefn yn dibynu ar y swm o eira fydd ar fynyddoedd _Abyssinia_.
Ychydig a wydde neb am y _Nile_ yn ei chrwydriade drwy’r anialwch hyd yn
ddiweddar: ar ol iddi gyredd gwlad yr _Aifft_ y daw’n fwya’ hysbys.
Hanes yr _Aifft_ yw ei hanes hithe er y dyddie boreua’; ac am fod y wlad
wedi bod mor enwog ac adnabyddus ar hyd y canrife, felly mae hithe, yn
rhinwedd y berthynas, wedi bod yn cyfranogi o’r un enwogrwydd. Addolir
hi gan yr hen _Aifftied_, ac addolir pob crëadur sy’n byw yn ei
dyfroedd. Coleddir teimlade eithafol tuag ati gan bawb o’r trigolion yn
ddiwahanieth; ac os mynwch i mi dd’we’yd ambell i wir sy’ ore’ i’w gelu,
mi dd’wedaf taw nid heb beth braw yr edrychwn ine ar yr hen ddewines bob
tro y cawn gyfle, yn enwedig fin nos wrth ole’r lloer.
Bum y’nes ati na’i glane. Croeses hi amryw weithie dros bontydd, fychen
a mawrion; a chroeses hi mewn bade ac ar rafftie droion a throion. Bum i
fyny ar hyd-ddi yn y wlad am rai milldiroedd. _Huws_ oedd hefo mi’r
diwrnod hwnw. Cawsom afel ar fâd môr-ladronllyd yr olwg arno ryw
brydnawn, ac aethom iddo’n fentrus dros ben; a dyna lle buom am ddwyawr
neu ragor at drugaredd dau o’r pechaduried dua’u crwyn a mileinia’u
llyged a weles mewn breuddwyd erioed. Mae’n amheus genyf a weles i ryw
lawer o’r wlad yr aethom drwyddi, gan fel y gwyliwn symudiade’r badwyr;
ac yr oedd colofne o fwg rhyngof a gwel’d fy nghydymeth, yr hwn oedd
wedi ’mollwng iddi cystal ag un _Twrc_. Yr unig beth wn I i sicrwydd am
y wibdeth hono yw—ini gefnu ar y ddinas, a mordwyo i’r wlad am gryn
getyn. Mae genyf gôf niwliog i _Huws_ bwyntio â’i fys at gruglwyth o
hesg gerllaw, a murmur rhywbeth am “_Moses Bach_.” Ce’s allan wed’yn fod
traddodiad yn d’we’yd taw dyna’r ’smotyn y daeth merch _Pharo’_ o hyd i
waredwr dyfodol plant _Israel_. Wel, ’ro’dd’no ddigon o hesg i guddio
sgoroedd o blant yr _Hebrëwyr_. Nid wyf yn cofio dim arall o’r daith,
oddieithr fy llawenydd o gael fy nhraed ar y tir ar ei diwedd.
Ni fum erioed _yn_ yr afon, ac ni fu dafn o’i dyfroedd erioed ynof ine,
trwy wybod imi. Nis gwn p’run yw’r gwaetha’, ai yfed o honi ai ymolchi
ynddi. Mi weles erill yn gwneud pob un o’r ddau, a ’roedd hyny’n ddigon,
a mwy na digon i mi.