gwisgoedd. Nid y bechgyn sy’n peryglu’r heddwch wrth geisio’i gadw yw yr
unig rai sy’n gwisgo capie cochion, ond ceir hwy’n gyffredin iawn. Yr
enw arnynt yw “tarbwshus,” a mi weles dri o honynt yn cael eu gwneud
wrth orchymyn, yn y siop lle’r es i’w prynu. Gwisgwn un fy hun wedi’r
nos yn _Cairo_, a thybiwn fy mod yn gwneud _Arab_ go lew. Mae’n siwr gen
i taw prin y tybie neb arall hyny. Mae’r “turban” bron mor gyffredin a’r
llall. Math o ddeunydd gwỳn, neu las, neu felyn, yw hwn, wedi ei dorchi
drosodd a throsodd am y penglog, a chryn lawer o fedr yn cael ei ddangos
yn y gwaith. Mae gan y _Mahometanied_ selog ystyr i’r gwahanol liwie:
dynodant radde o agosrwydd ysbrydol i’r blaenor _Mahomet_. Gwisgir
mantelli hirllaes dros y corff hyd at y traed gan y mwyafrif o’r bobl, o
bob lliw yn y byd; ac am y traed, weithie sandale, ond yn amlach
hebddynt. Rhwbir rhyw fath o sylwedd melyn ar wadne’r traed i’w caledu
rhag y gwres, a defnyddia’r merched a’r gwragedd yr un ’stwff at ewinedd
eu dwylo—i’w caledu, medd rhai, i’w prydferthu, medd erill. Fy marn i
oedd taw prin oedd y prydferthwch; ond dyna, ’does dim cyfri’ i fod am
chwaeth. Bid fyno, mae blaenion bysedd y boneddigese’n ymddangos yr un
fath yn union a phe baent yn bwyta mêl â hwynt drwy gydol y dydd.
Ryw ddiwrnod, mi ge’s gader i eistedd arni ar ben drws un o swyddfeydd
llonge _Alecsandria_, fel y gall’swn wylied y “llïaws cymysg” a elent
heibio. Bum yno awr: ac i mi, yr oedd yn un o’r orie mwya’ difyr ac
adeiladol a dreulies yn yr holl wlad.
Dyma beneth rhyw lwyth _Arabedd_ yn pasio, naill ai mewn dwfn fyfyrdod,
a’i ben ar ei frest, neu mewn hwyl herfeiddiol, a’i drwyn yn yr awyr.
Fel rheol, clobyn o ddyn tal, cyfartal, prydweddol, lluniedd, ystwyth, a
chryf yw’r “shêch,” neu’r peneth; ei groen yn bygddu, ei drwyn yn hir a
syth, ei lyged yn fychen, duon, ac aflonydd, fel pe baent yn chwilio am
elyn ar bob llaw, ei wefuse’n feinion, ei ffroene’n deneuon, ei farf yn
dywyll a chwta, a’i ben yn hirgul. Crachboera wrth basio pob _Ewropiad_,
a chwi ellwch ei glywed yn murmur melldithion ar ei ben wedi iddo fyn’d
heibio. Pe cae ef a’i wehelyth eu hewyllys, ’sgubid ymeth bob ci o
_Gristion_ allan o’r terfyne cyn pen fawr amser, ac allan o’r byd gynted
a hyny. Dyna i chwi deip o’r gwir _Arabiad_,—cydnerth, cyfrwys,
creulon, coelgrefyddol.
Dyma _Negröed_ o’r canolbarth, a mwy o’r anifel yn perthyn iddynt na dim
arall: eu pene’n fawr a chrynion, eu pengloge’n gelyd a gwlanog fel
gwlan y ddafad ddu, eu crwyn yn ddu a seimlyd, eu trwyne’n fflat, eu
ffroene’n llyden, eu gwefuse’n dewion, a’u danedd fel ifori. Plant y
cyhydedd a’r anialwch ydynt, a phrin y cânt eu hanadl y’nghanol y
’strydoedd culion.
Dyma i chwi _Dwrc_ a’i wyneb difynegiant——
Ac ar ei ol _Bersiad_ yn ei garpie——
Ac wrth ei sodle ynte un o breswylwyr _Ceylon_ a
hireth-_Cymro_-am-ei-wlad yn ei lyged——
A dacw _Chinëad_ a’i gynffonbleth——
A’r ochr arall i’r ’stryd ŵr o _Japan_ a’i lyged bychen hirgrwn, a’i
aelie ymofyngar——
A dyma _Roegwr_ llyswenog——
A _Sais_ o filwr yn ei gôt goch yn ei ddilyn——
Ac un o blant _Abram_ yn plygu dan bwyse’r groes ro’ed ar gefn ei
genedl——
A morwr o _Ynys Pryden_ yn cerdded yn ’sgwarog ar ei ol——
——Hach! beth yw hwn sy’n moes-ymgrymu o fy mlaen, ac o ba le y daeth?
Edrycha fel tẁr o ddillad budron parod i’w golchi, neu dẁr o garpie
parod i’w llosgi. Dyma law a braich yn ymestyn dan y carpie tuag ataf,
ac O! nid ydynt ond croen ac esgyrn ar y gore’. Rhytha gwyneb ’sgerbydol
arnaf odditan benguwch ffïedd, a llosga dwy lamp loew y’nhylle’r llyged.
Prin y mae arnaf ei ofn, a phrinach y mae arnaf ei chwant. Dealles yn
fuan taw un o fegeried y wlad ydoedd, yn ei dawch a’i duchan; a haws
oedd i _Paul_ ysgwyd y wiber oddiwrth ei law, nag i mi gael gwared o’r
aflendid hwn. Dosbarth sy’n nodweddiadol iawn o’r Dwyren yw ei fegeried,
y rhai sy’n boen ac yn bla i’r ymwelwyr. Glynant wrthynt fel gelod. I
geisio rhoi cyfeiriad arall i’w gamre, mi ro’is iddo geiniog; ond yn lle
hel ei bac at ei gilydd a myn’d i’w ffordd, dal i estyn ei law wnele’r
hen bechadur, gan furmur rhwng ei ddanedd, a gofyn am ragor, fel _Oliver
Twist_. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi gwneud ei feddwl i fyny taw aderyn
hawdd ei blyfio o’wn i, ac nid o’wn yn chwenych ei ewinedd fwlturedd,
rhag iddo fyn’d y’nghyd a’r gwaith yn llyth’renol. Ond mi ge’s brawf
buan fod Rhaglunieth yn gofalu am ei phlant. Dyma un o ddynion y swyddfa
yn d’od allan ar y funud, pan oedd pethe’n dechre gwisgo gwedd go
ddifrifol—ac ar ol deall sut oedd pethe’n sefyll, gỳr y cardotyn egr ac
aflan ymeth gyda rhes o’r geirie mwya’ cyflym eu dylanwad a glywes
erioed. Ni f’asech byth yn credu gynted y casglodd y crëadur ei gwbl
y’nghyd, ac y symudodd ei bres’noldeb afiach o’r gym’dogeth. Afred yw
’chwanegu iddo dywallt diluw o felldithion ar ben fy nghymwynaswr, ac
anghofio dïolch i mine am y geiniog a gawse.
Dacw ferched o Ynys _Malta_’n pasio, ac edrychent mor ’smala nes imi
syllu ar eu hole’n hŵy nag y mae’n weddus i ddyn prïod wneud peth
felly’n gyffredin. Yr o’ent o faintioli glew y’naturiol, ond yr oedd y
fantell oedd am danynt yn gwneud iddynt ymddangos deirgwaith gyment. Nis
gwn beth oedd deunydd y fantell, ond yr oedd yn sicr o fod o ddeunydd
ysgafn iawn. Cychwyne am y pen fel cwcwll, yna tynid ef i mewn am y
gwddf, nes yr oedd fel awyren fechan. Dyna balŵn No. 1. Wed’yn, fe rede
i lawr hyd at y wâsg, tynid ef i mewn yno drachefn, nes cyfansoddi balŵn
No. 2. No. 3 oedd y fwya’, oblegid yr oedd hono’n rhedeg i lawr o’r wâsg
i’r ffere. Wrth edrych arnynt o’r tu ol, yr oedd y tair awyren yn
ymddangos mor ddoniol o ddigri’, nes peri i mi dynu sylw a chilwg ambell
i hen shêch a ele heibio, gan mor uchel y chwarddwn. Pan gydgerdde tair
o honynt ochr yn ochr, cyrhaeddent o balmant i balmant; a’r peth a’m
syne i oedd—os taw felly y gwisgent yn Ynys _Malta_, sut gebyst yr
o’ent yn cael lle yno! Yr oedd modrwye ganddynt ar bob bys, hyd y’nod y
bodfys, a breichlede ar arddwrn a migwrn—os nad yw sôn am freichled ar
figwrn yn sawru braidd yn _Wyddelig_. Sut bynag, dyna fel ’roedd. A peth
arall oedd yn ogleisiol: O dan yr ardderchawgrwydd i gyd, mewn sidan, a
modrwye, a breichlede, yr oedd pob un o honynt yn droednoeth, heb gysgod
hosan na sandal yn agos iddynt!
PENOD XIII.
*
FFAWD A FFWDAN.
MAE _Alecsandrida_’n ddinas fawr, a’i phoblogeth dros dri chan’ mil; ond
ni weles ei haner. Mae ynddi rai ’strydoedd gwychion, a llu o adeilade
fydde’n gredyd i _Paris_; ond culion a brwnt oedd y rhan fwya’. Wedi
’sgriwio drwy haner dwsin o’r rhai cula’, a dyodde’ dirdyniade heb fesur
oherwydd a’mhwylledd y gyriedydd ac arafwch y gwŷr traed i symud oddiar
y ffordd, ryw ddiwrnod ce’s fy hun yn sydyn yn y _Grand Square_, a’r
cadben hefo mi. Mae’r ’sgwâr hwn yn deilwng o unrhyw ddinas yn _Ewrob_.
Dyma lle mae’r bancie, a’r gyfnewidfa, a’r prif fasnachdai, a’r
swyddfeydd pena’, a’r gwestai gwycha’. Y’nghanol y ’sgwâr y mae cofadel
i _Mahomet Ali_ (os wy’n cofio enw’r gŵr yn iawn), un o gynfawrion y
tir, a gerddi, a sedde; tra y rhuthra olwynion masnach a phleser heibio
o bob tu ac i bob cyfeiriad. Cedwir y ’sgwâr yn lân a chryno, ac y mae
i’r llygad fel darn o Baradwys y’nghanol yr anialwch. Allan o hono y
rheda’r brif heol a elwir ar enw _Cherif Pasha_, ac yma de’s i
gyffyrddiad â’r _Cymro_ twym’galon a gwladgarol y soniaf am dano yn fy
Rhagymadrodd. Oni b’ase am dano ef a’i frawd yn _Cairo_, mae’n anodd
gwybod pa beth a ddaethe o honof yn y wlad bell hono. Er yn frodor o Sir
_Gynarfon_, mae wedi enill ei blwy’ yn yr _Aifft_ er ys agos i ugen
mlynedd; a’i frawd yr un modd. Nid oes ei barchusach y’mhlith dinaswyr
_Alecsandria_. Masnachu y mae mewn nwydde _Seisnig_, a’i lwyddiant yn
gyfiawn ac yn sicr. Y’mhlith ei wasanaethwyr yr oedd bachgen o _Gymro_
o’r enw _Huws_ o _Abergele_, a bachgen melynddu o’r enw _Selim_, y rhai
fuont arweinwyr i mi o bryd i bryd. Preswylia’r boneddwr ychydig allan
o’r ddinas, a che’s y mwynhad o dreulio un prydnawn Sabbath o dan ei
gronglwyd. Mewn “fflat” y trigai—y “fflat” ucha’n yr adeilad, yr hwn
oedd yn sicrhau nen y tŷ at wasaneth y teulu. Yr oedd yn cynwys amryw
’stafelloedd, wedi eu dodrefnu’n bena’n ol y dull Dwyreiniol. Yr oedd yr
holl ffenestri’n agored, a’r awel garedica’n tramwy drwy’r tŷ. Oddiar
nen y tŷ ceid golwg braf ar y ddinas a’r wlad oddiamgylch; ac mewn congl
gerllaw fe gane ceiliog yn _Gymraeg_, ac fe ymdreche iar neu ddwy
glochdar yn yr un iaith. Boneddiges o _Aberystwyth_ yw Mrs. _Bryan_, ac
yr oedd ganddi, pan o’wn i yno, beder o’r merched bach tlysa’ fu gan fam
erioed. Gwyn oedd fy myd I’r prydnawn hwnw; bydded hwythe wynfydedig
byth gan yr Arglwydd.
Yr wyf y’meddwl imi ddechre’r benod hon gyda chyfeiriad at y cadben a
mine y’myn’d i mewn i’r ’sgwâr yn y cerbyd ar ryw ddiwrnod, ac yr wyf
y’meddwl hefyd taw’r diwrnod y glanies oedd y diwrnod hwnw. Ar ol bod yn
y llong am bythefnos, yr oedd fy aelode isa’ dipyn yn chwareus, a chawn
fy hun yn taro’n erbyn rhyw _Ismaeliad_ o hyd. Anodd oedd peidio, gan
mor aml y dynion a chul yr heolydd. Cymerasom y traed cyn cymeryd y
cerbyd, ac wedi pasio drwy un o byrth y deyrnged, cawsom ein hunen
y’nghanol y dyrfa. Croesasom y ’stryd—anturieth heb fod yn ddiberyg’, o
herwydd y cerbyde o bob math a chwim-basient i fyny ac i lawr. Heb fod
nepell oddi-yma y mae palas y _Khedive_, brenin yr _Aifft_. Gorchuddia
ddarn mawr o dir, ac nid oes dim yn brydferth ynddo. Llanastr o dŷ isel
ydyw, yn wỳn i gyd drosto, yn ffenestri bob tamed o hono, ac yn gwynebu
i’r môr. Yr oedd yn anodd dal i edrych arno, gan fel yr oedd yr haul yn
t’w’nu ar ei furie gwynion a’i ffenestri gloewon. Nid yw y brenin yn byw
yma’n barhaus. Yn _Cairo_ y mae ei brif balas; ond pan ä’n rhy boeth i
fyw yno’n gysurus, symuda i _Alecsandria_, i gael y fantes o awelon y
môr. Dilynir ei esiampl gan y rhan fwya’ o’r mawrion. Troisom ar y dde i
heol gul, oedd yn llawn siope, a swydd-dai, a cherbyde, a phobl, a
phlant. Yr oedd yr heol guled fel, pe safech ar ei chanol, y gallech
ysgwyd dwylo’n dalïedd â’r dynion oedd bob ochr i chwi. Yr oedd lled
llaw o balmant yn rhedeg gyda’r ochre’ ond camp i chwi fydde sefyll arno
am ragor nag eiliad. A phan wthid chwi oddiarno gan rywun neu gilydd un
foment, gyrid chwi’n ol y foment nesa’ gan ryw _Jehu_ a fygythie redeg
drosoch. Yr oedd siope agored bob ochr i’r ’stryd, tebyg i stondine
ffeirie _Cymru_, yn y rhai yr oedd pob math o nwydde, a dau neu dri o
beryt yn crogi wrth eu cewyll oddiallan, ac yn ’sgrechen _Arabeg_ i dynu
sylw’r dyrfa. A mi wna lw nad oedd sylw neb yn fwy effro na f’eiddo i.
I b’le bynag y crwydrwn yn _Alecsandria_, deuwn yn ol, fel swllt drwg,
i’r llong erbyn pob hwyr i gysgu. Weithie’n gynar, weithie’n ddiweddar:
dibyne hyny ar hŷd y daith am y diwrnod, ac ar y cwmni, ac ar yr
amgylchoedd y cawn fy hun ynddynt. Nid o’r un cyfeiriad y deuwn bob tro,
ac nid ar fy nhraed y byddwn bob amser. Dïogelach oedd llogi cerbyd pan
fydde wedi myn’d yn hwyr iawn, er hwyrach y byddem yn ddau a thri mewn
nifer. Gwneud cilwg gâs ar dramorwr o’r Gorllewin mae dosbarth o’r
_Arabied_, ac ysgyrnygant ddanedd arno pan dybiant y gallant wneud hyny
a bod yn groeniach. Ymddygant felly liw dydd gole’; afred yw d’we’yd eu
bod yn fwy haerllug liw nos pan gânt gyfle. Ni fum i heb gwmni’n cerdded
i’r llong gyment ag unweth, ond bum yn un o ddau gryn ddwsin o weithie;
ac er na ddigwyddodd i mi na niwed nac anffod yn y gwibdeithie nosol
hyn, mi ge’s beth braw ragor na siwrne. Bernwch chwi.
Yr oedd y cadben a mine wedi bod ar ein hynt yn rhywle, ac wedi cael ein
hunen rywbryd gyda’r nos, rhwng dau ole’, yn bur bell o’r fan lle’r oedd
y llong yn gorwedd, ac wedi blino heb gellwer: y gwyneb a’r dwylo’n
’stiff gan lwch a haul, y pen yn poeni, a’r traed yn poethi—yr o’em
wedi myn’d i hercian fel dau drempyn er’s meityn, ac yn hiraethu am y
caban bach yn y llestr, er lleied oedd. Drwy ryw gydymdeimlad cyfrin,
daethom i ddeall beth oedd prif angen y naill a’r llall yr un pryd; a’r
canlyniad oedd, ini alw’n dau yr un pryd ar gerbydwr a ele heibio, yr
hwn, ar ol cymeryd arno ei fod yn gwybod y cwbl ac yn deall rhagor, a’n
cymerodd o’r fan hono yn ei gerbyd. Ac O, gyfnewidiad cysurus! Rhoisom
raff i’n mwynhad, a buom ddall, mud, a byddar i bobpeth arall am ysbed
chwarter awr. Tybiaf ini dd’od ’nol i’n hamgylchoedd agosa’ tua’r un
adeg. Beth bynag, tynodd y cadben fy sylw i at gymeriad amheus y
gym’dogeth yr aem drwyddi, a thynes ine ei sylw ynte at gymeriad amheus
y gyriedydd a eistedde o’n blaen.
“Nid dyma’r ffordd i’r doc!” ebe’r cadben.
“Nid hwn yw’r dreifer a logasom!” ebwn ine.
Yr oedd y cadben y’nes i’w le na mi. Gwge hen furddynod hagr arnom ar
bob llaw, sarheid ein ffroene diniwed gan arogliade amryw a dieithr, a
merwinid ein clustie gan gri begeried. “Bwrw tân” atom y bydde ambell i
lygad wrth basio; ac er galw ar _Jehu_, ni chymere arno’n clywed, ond
gyru’n ynfyd a wnai. Y’mhen hir a hwyr, daethom at ffordd haiarn, ac yr
oedd yn rhaid ei chroesi neu droi’n ol. Er fod y clwydi’n gauad, nid
oedd na thrên na pheiriant yn y golwg. Disgynodd _Jehu_ i agor y clwydi
o’r ochr hyn, ac wedi arwen y ceffyl a nine i ganol y cledre, dyma
chwibaniad! a dyma’r swyddog oedd yn gofalu am y groesffordd yn d’od
allan o’i focs, yn cydio y’mhen y crëadur o law’r crëadur arall, ac yn
gollwng allan y diluw mwya’ ’sgubol o fras hyotledd. “Tra yr oedd hwn yn
llefaru,” dyma ruthr o gyfeiriad y clwydi cyferbyniol, lle’r oedd dynion
a cherbyde ganddynt yr ochr arall, ac yn disgwyl am gyfleusdra i groesi.
Heb estyn dim at y ’stori, yr oedd yno gryn haner cant o’r tafode
grymusa’, yn cael eu helpu gan draed, a dwylo, a llyged, a danedd, duon
a gwynion, fflachiade mellt y’nghanol caddug—y cerbyd, a nine ynddo, ar
ganol y rheilie—dim posib’ myn’d y’mlaen, dim siawns i fyn’d yn
ol—trên yn ymyl a’i beiriant yn ’sgrechen ei anadl allan—a’r
_Pandemonium_ mwya’ cysurus o amgylch ogylch! Golygfa i’w chofio ydoedd.
Deallem eu bod oll y’mhen ein gyriedydd ni, ond haws oedd deall iaith
gwydde _Cymru_ amser Nadolig, na iaith y gwerinos hyn. Yr oedd gwyneb y
cadben wedi newid ei liw droion, ac nid oedd fy ngwep ine ronyn gwell,
mi wn. Yr oedd e’ o’r farn taw gwell oedd disgyn; barnwn ine taw gwell
oedd ini lynu wrth y cerbyd, ar dir rheswm a ’sgrythyr. A dyna fu ore’.
Wedi ymryddhau o’r criw ’stwrllyd, a chael llwybr clir drachefn, cawsom
ddigon o achosion i ddïolch taw nid ar ein traed yr o’em. Yr oedd y
cerbydwr wedi colli’r ffordd cyn cyredd y clwydi, a chollodd ei ben
wed’yn; y canlyniad oedd, ini gael awr arall o chw’sfa cyn cyredd y doc,
rhwng ofn a phryder a phobpeth. Chwarddasom yn galonog y noson hono, ar
ol ini gael ein traed ar ein tomen ein hunen.
Pan o’wn wedi bod yn treulio’r prydnawn Sul hwnw gyda’r ffrind o _Gymro_
y sonies am dano, tua chwech o’r gloch mi feddylies ei bod yn bryd i mi
gychwyn yn ol, os o’wn am gael odfa bregeth yn y Sefydliad i’r Morwyr,
yn ol y cynllun. Yr oedd genyf awr o amser wrth gefn. Cymerodd fy
nghyfell boen i’m cyfarwyddo sut i gael gafel ar y tram, ond bum yn hir
cyn d’od o hyd iddi. Cerddes fwy na mwy, ac er holi, nid oedd neb yn fy
neall, na mine’n deall neb. O dïolch, dyma hi o’r diwedd—ond mae hon yn
rhy lawn i gynwys rhagor. Gadewes iddi fyn’d, ac aroses am y nesa’. Wel,
wel, mae hon yn llawnach na’r llall, ac yn colli drosodd o ddynion!
_Rhaid_ imi dreio bachu’r drydedd, neu ffarwel i’r odfa. Neidies i fyny,
a ches led troed ar y grisyn i sefyll. Ni welsoch gynifer o bobl erioed
mewn un cerbyd. Dringent ar hyd ei ochre fel gwybed. Yr oedd yn rhaid
i’r tocynwr dreisio’i ffordd drwy’r dyrfa, a synwn at ei amynedd. Mor
bell ag y gall’swn wel’d, myfi oedd yr unig ddyn gwyn o fewn i’r lle; a
mi’r o’wn getyn gwynach nag arfer hefyd. Dywedase fy nghyfell wrthyf fod
y tram y’myn’d drwy’r _Grand Square_, a llygadwn am hwnw’n bryderus.
G’yd y deuem iddo! Tybed fy mod wedi camgymeryd y cerbyd! Ond para i
redeg a wnae ar hyd heolydd culion—mor gulion, nes peri i mi wasgu fy
hun yn erbyn ochr y cerbyd rhag fy ’sgathru gan y murie. Mi benderfynes
lynu wrtho b’le bynag yr ae, deled a ddele i’m cyfarfod. Cofiwn i hyny
dalu’r ffordd imi’n ddiweddar. Mi ofynes i’r swyddog fy ngosod i lawr yn
ymyl y _Gabara_, neu’r carchar. Nid am fy mod wedi bod ynddo, ond am y
gwyddwn fy nghyfeiriad oddiwrtho. Eithr ysgwyd ei ben a dangos ei
ddanedd wnae’r swyddog pan dd’wedes y gair, ac y mae mor debyg a dim nad
o’wn yn ei seinio’n briodol. O’r diwedd, dyma’r ’sgwâr, a dyma ben ar fy
mhenyd ine. Milldir arall, a disgynes ar gyfer y _Gabara_; ac ar ol ugen
munud o gerdded cyffrous, mi gyrhaeddes y Sefydliad yn brydlon erbyn y
bregeth.
Yr ochr nesa’ i’r ddinas o’r tollborth sy’n arwen o’r docie mae tua
dwsin o dafarne, isel y’mhob ystyr, y rhai sy’n byw’n bena’ ar arian a
dillade’r morwyr. Cedwir nifer o sharcied ar lun dynion yn y tylle hyn,
a denant _Jac_ i fewn; yna dygir ei synwyre oddiarno gan y gwenwyn a ŷf,
a theflir ef allan i’r heol agos y’noethlymun. Dilynodd dau o’r giwed
hyn myfi ac un arall un noson am bellder ffordd, a chynyddent mewn
beiddgarwch er gwaetha’n protestiade. ’Doedd dim i wneud ond troi
arnynt. Prynaswn ffon o groen _rhinoceros_ ychydig cyn hyny, a phan y
bygythies hwy â hono, ciliasant yn eu hole fel dau whelpyn wedi eu curo.
Da i mi na wyddent beth dd’wede fy nghalon!
[Illustration]
PENOD XIV.
*
AR GRWYDR.
CERBYD sy’ mewn bri mawr yn yr _Aifft_ yw yr un y gelwir _arabeyah_
arno. Tebyga i _hansom cab_ ein gwlad ni, ond ei fod yn ysgafnach na
hwnw, a’r gyrwr o’ch blaen yn lle o’ch ol. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi
eich dwyn i gyffyrddiad a’ch gilydd yn y benod flaenorol. Mae canoedd o
honynt i’w cael yn y prif drefi, a’r oll yn gyfrifol i’r Llywodreth.
Maent wedi eu rhifo’n ofalus, a’r gyrwyr hefyd, yr un modd a nine. Eto,
prin yr anturiech i ambell un o honynt, gan mor ddigymeriad yr ymddengys
y cerbyd a’r cerbydwr. Ac os anturio wnewch, yr ydych yn y purdan c’yd
ag y byddwch ynddo. Mi allwn dybied nad oes yno un ddeddf yn gwahardd ac
yn cosbi gyru eithafol. Paradwys i “yrwyr ynfyd” o ddosbarth motorwyr a
dwy-rodwyr y Gorllewin; ac ni fydde gan aml i amaethwr wrthwynebiad i
ryddid gogoneddus o’r fath wrth ddychwelyd o’r dre’ brydnawn Sadwrn. Y
syndod i mi oedd, sut na fase llawer yn cael eu hanafu a’u lladd, yn
enwedig o blant, gan mor llawn a chulion y ’strydoedd, a chan mor
ddireswm y gyrid. Ni chlywsoch y fath _Babel_ erioed ag sy’ rhwng y
gyrwr yn dirwyn ar y ceffyl ac yn gwaeddi ar y dyrfa i symud oddiar y
ffordd, ar y naill law, a’r dyrfa hithe yn tywallt anatheme ar ei ben,
ar y llaw arall.
Pe gallech feddianu eich hun i gymeryd ’stoc o’r amgylchoedd, deuech yn
fuan i fod o’r farn taw un o’r cyfrynge gore’ i wel’d bywyd cyffredin y
bobl yw yr _arabeyah_. Yr ydych yn eu canol, ac eto’n ddidoledig
oddiwrthynt. Ond bydd chwarter o ysgol, a d’we’yd y lleia’, yn ofynol
cyn y llwyddwch i gyredd y ’stad ddymunol yna. Rhaid i mi gyfadde i mi
fethu. Y tro cynta’r es iddo, yr oedd yn ferthyrdod perffeth. Sôn am
’storm ar y môr! Yr oedd yn felus o’i chymharu â chwarter awr mewn
_arabeyah_! Ni weles neb mor ddibris o einioes a meddiane.
Yr wyf wedi sôn am olwg ddiolwg y cerbyd a’r cerbydwr; mae’n ddrwg genyf
orfod d’we’yd am y ceffyl, nad oedd ynte, druan, ddim gwell. Yr oedd
edrych arno ef, a’i gyd-grë’duried yn dwyn i’m cof bob ’stori a glywes
am geffyle tene erioed. Cofiwn am y gŵr cyflym hwnw a basie heibio i
efel gôf pan oedd ceffyl yn aros i’w bedoli. P’run ai sefyll ai gorwedd
oedd y crëadur, mae’n anodd d’we’yd gan mor dene ydoedd.
“Ai dyma lle ma’ cyffyle’n ca’l u gneud?” gofyne’r gŵr cyflym i’r gôf.
“Eu gneud!” ebe mab _Vulcan_, heb wel’d yr ergyd; “bewt ti’n feddwl?”
“O, dim ond ’mod i’n gwel’d ffrâm ceffyl yn y fan yma, dyna i gyd!”
ebe’r arabus; a ffwrdd ag e’. Gyda llaw, fe dd’wedwyd i mi fod y gôf
hwnw heb wel’d yr ergyd byth! Un go dew ei fenydd yw ambell i ôf,
ysyweth.
Sonie _Kilsby_ am gi oedd mor dene nes ei bod yn angenrheidrwydd poenus
arno i bwyso yn erbyn y wàl bob tro y cyfarthe!
Pan o’wn yn byw ar _Gefncoedcymer_, yr oedd yna bydler yn gweithio
y’ngwaith y _Gyfarthfa_ a chanddo gi can deneued a’r teneugi teneua’ a
welsoch mewn deng mlynedd. Llusge’r ci ar ol ei feistr i’r gwaith bob
dydd. Gofynodd rhywun iddo—nid i’r ci, ond i’r pydler:
“B’le ce’st ti’r ci ’na, _Ianto_?”
“Dw i ddim wedi ga’l o yto,” ebe _Ianto_.
“Sut hyny, bachan?”
“O, d’od ma’s yn rhana’ ma’ fa,” ebe’r pydler. “Pan ddaw a ma’s i gyd,
mi fydd yn gyfrol biwr ddigynyg!”
Perthyn i’r dosbarth yna o bedwar-carnolion ysgerbydol yr oedd y ceffyl
a lusge’r cerbyd y bum i ynddo ar un achlysur yn _Alecsandria_. Tebyg
i’r buchod a welse _Pharo_’n ei freuddwyd—drwg yr olwg a chul o gig. Yr
oedd ffrewyll y gyrwr ar ei wàr a’i ochre’n ddibaid, a’i lais cryglyd yn
gwaeddi ar y bobl am droi o’r neilldu’n ddïatal. Lletye ’nghalon yn fy
ngwddf c’yd ag yr eisteddwn o’r tu ol iddo. Gwelwn ddynion a merched yn
cael eu gwasgar o’i flaen fel haid o ddefed; a chauwn fy llyged yn dỳn
pan dybiwn fod cerbyd arall y’myn’d i’n rhedeg i lawr.
Yr unig dro y mwynhês i fy hun mewn _arabeyah_ oedd pan aeth y cadben a
mine am ddarn diwrnod allan o’r dre’ i wel’d Colofn _Pompi_, y Bedde
Tanddaearol, Gerddi’r Brenin, glane’r _Nile_, a _Ramle_, un o’r
maesdrefi. Ac am y tro hwnw yr wyf y’myn’d i sôn yn awr.
Heblaw _Jehu_, llogasom ddyn o’r enw _Moses_ yn arweinydd i ni; ac yr
oedd yr enw a’r swydd yn taro eu gilydd i’r dim. _Arabiad_ oedd _Moses_,
ac arno ef yr oedd gofal y llong yn y nos c’yd ag yr oedd yn y doc.
Edryche’n frwnt ddiraen wrth ei waith, ond y prydnawn hwn yr oedd wedi
ymbincio’n anghyffredin; yr oedd ei wisg yn wèn fel eira, a’i
ymddangosiad yn foneddigedd dros ben. Efe oedd yr unig _Arabiad_ a
glywes yn ceisio siarad _Cymraeg_; ond cystal i mi ei dd’we’yd a
pheidio, nid oedd ei eirie’n yr hen iaith mor ddewisol ag y b’aswn yn
caru eu bod. Yr oedd ganddo ddwy wraig a thri o blant. Bydde’r prif
swyddog yn hoff o gellwer ag ef.
“P’sawl gwraig, _Moses_?”
“Dwy.”
“P’sut wyt ti’n gallu rheoli dwy, a fine’n methu rheoli un?”
“Rhoi un i ofalu am y llall, a fine i ofalu am hono,” ebe _Moses_.
“Faint o blant sy’ genti?”
“Tri.”
“O, un-a-haner bob un, ai e? Oes cynffone gyda nhw, _Moses_?”
“Nag oes,” ebe’r _Arab_ yn syn.
“Siwr o fod—mwncis bach ydyn’ nhw, _Moses_,—chwilia di am u cynffone
nhw heno!” Ni ddangose _Moses_ gysgod anfoddlonrwydd i’r cateceisio
manwl hwn, ond fe ddangose’i ddanedd gwynion mewn llawn tymer dda.
Y lle cynta’ y daethom iddo oedd Colofn _Pompi_ a’r Bedde. Un darn
anferth yw’r Golofn, sydd yn peri i chwi synu sut y gosodwyd hi ar ei
phen erioed. Un o gadfridogion _Rhufain_ oedd _Pompi_, yn byw oddeutu
haner cant o flynydde cyn Crist. Ai ganddo ef ei hun, ynte gan rywun
arall er cof am dano, y codwyd y golofn, ’does neb a ŵyr. Ond mae’n sicr
o fod yn hen iawn, fel bron bobpeth sydd yn y wlad ’rwy’n traethu am
dani.
Yn ymyl mae’r _Catacombs_, neu’r Bedde Tanddaearol. Yn gynta’, eir i
lawr ddeugen o risie’n yr awyr agored; yn ail, eir i fewn yn sydyn i
fath o dwnel; ac yn drydydd, disgynir yn raddol wrth ole’ canwylle nes y
deuir i d’w’llwch y gellir ei deimlo. Tybir taw’r _Crist’nogion
Coptaidd_ cynta’ gleddid yn y bedde hyn; ond mae’r cyrff oll wedi eu
symud i’r Amgueddfa yn _Alecsandria_. Mi weles nifer o honynt yr un
diwrnod wrth ddychwelyd. Y bedde’n unig oedd yma. Math o dylle hirgul
oedd y rhein, wedi eu gweithio i fewn i’r ochre, ac i’w cael ar bob llaw
i’r llwybre. Mae’n hawdd i ddyn golli ei ffordd yn y dyrysle hwn, ac oni
bai fod genym arweinydd lleol,—ein harwen _at_ y lle’n unig wnai
_Moses_,—mae’n amheus genyf a wele’r cadben a mine ole’ dydd drachefn.
Wesul tipyn, daethom i ’sgwâr, o’r hwn yr oedd yr holl lwybre’n rhedeg,
ac i’r hwn y dychwelent. Ar ganol y ’sgwâr yr oedd careg anferth o dywod
wedi caledu, a throsti yr oedd canoedd o enwe wedi eu ’sgriblo gan
bersone fuont yno, fel fy hunan, yn aberthu i dduw henafieth. Ar ol
chwilio am damed glân, tores ine f’enw y’mhlith y llu, er afrwydded
oedd. Yr oedd hyn yn fwy o gamp nag a feddyliech; ac wedi gorffen,
dyhewn am dd’od o’r twll myglyd i anadlu awyr iach Duw’r Nefoedd. Pan
ddaethom allan, yr oe’m yn chw’su fel tanwyr, yn chw’thu fel cŵn ar wres
mawr, yn wincio ar yr haul fel dallhuanod, ac yn siglo fel dynion wedi
meddwi. Ac wedi meddwi yr o’em ar beth gwaeth na chwrw a licwr,—ar awyr
wenwynig, yr hon y buom awr gron gyfan yn drachtio o honi.