‟DIOLCH am gael dwad o’r diwedd!” ebr dyn canol oed wrth ddisgyn o’r
tren yn stesion Llanefron, tua deg o’r gloch un noson ym mis Awst.
Yr oedd Llanefron wedi altro yn arw yn ystod ugain mlynedd. Prin yr oedd
yno ddim yr un fath yn union. Pentref bychan ydoedd gynt, a rhyw
ddeucant o dai ynddo ar y goreu, y rhan fwyaf ohonynt yn fychain iawn,
ac yn sal dros ben. Yr oedd yno ryw ddwy siop yn gwerthu bwyd a dillad,
dwy dafarn, un capel ac un eglwys. Rhyw drichant o bobl oedd yn byw yno,
y rhan fwyaf o’r dynion yn labro ar y ffermydd o gwmpas, a rhyw ddeg ar
hugain neu ddeugain yn gweithio yn chwarel y Coed Bach, tua phum milltir
oddi yno. Byddai rhyw ddwsin o’r bobl yn mynd i’r eglwys, rhyw ddeucant
yn mynd i’r capel, a’r gweddill yn bwrw’r Sul heb fynd i unman.
Ond daeth tro ar fyd. Yr oedd y ffordd haearn yn rhedeg heibio’r lle, a
gwelodd rhywrai fod yno gyfle i wneud arian. Yr oedd y môr yn agos, ac
yr oedd yr ardal yn un iach. Daeth rhyw ŵr dieithr yno un diwrnod, ac
aeth o gwmpas i weled y lle. Nid oedd fawr o gamp ar y pentref ei hun.
Bychain a budron oedd y rhan fwyaf o’r tai, ac arogl lludw a dŵr golchi
lloriau yn llenwi’r awyr o’u cwmpas bob amser. Ni thalodd yr estron ond
ychydig sylw i’r pentref, ond yr oedd yr ardal o’i gwmpas yn ei blesio
yn fawr. Yr oedd y pentref yng ngwaelod y pant, ac afon fechan yn rhedeg
drwy ei ganol. Ar du’r dwyrain, yr oedd y tir yn codi yn raddol nes
cyrraedd cryn uchter, ac ar y llethr ddymunol honno yr oedd cryn nifer o
dai bychain a gardd go helaeth yn perthyn i bob un ohonynt. Yr oedd pobl
yn byw yn weddol daclus yn y tai hynny, ond nid yn ddi-drafferth
ychwaith. Yr unig rai sydd yn medru byw yn ddi-drafferth yn y wlad hon
yw’r rhai sy’n gwneud dim. Gweithwyr oedd yn byw yn y tai y soniwyd am
danynt, ond trwy eu bod yn byw yn gynnil ac yn syml ac yn gwneud y goreu
o’r ardd a’r cut mochyn, yr oeddynt yn medru talu eu ffordd yn lled dda.
Yn eu plith yr oedd amryw yn berchenogion eu tai eu hunain. At y rhai
hynny yr aeth y gŵr dieithr, a chyn pen ychydig amser yr oedd wedi
prynu’r tai a’r gerddi am ychydig bunnau, a’r hen drigolion yn gorfod
troi i chwilio am gartrefi ereill.
Yna dechreuodd Llanefron newid. Cyn pen blwyddyn yr oedd tai newyddion
lle’r oedd y bythynod a’r gerddi gynt, a phobl ddieithr yn byw ynddynt.
Saeson o rywle o ganol Lloegr. Yn fuan wedyn, yr oedd tai ereill yn y
farchnad, a thai newyddion yn codi yn eu lle nes britho’r llethr a’i
llenwi â thrigolion. Yr oedd yno fasnach fywiog, yn enwedig yn yr haf,
pan fyddai cannoedd o bobl yn dyfod yno i dreulio eu gwyliau ar lan y
môr. Ychydig iawn o’r hen drigolion oedd yno mwyach. Yr oedd hyd yn oed
yr hen bentref yn y gwaelod wedi diflannu, a chasgliad o dai newyddion
wedi cymryd ei le. Nid oeddynt yn edrych mor fudron â’r hen dai, ac nid
oedd yno gymaint o arogl lludw a dwfr budr ag a fyddai gynt. Ond nid
oedd llawer o ddiolch am hynny, gan fod y lludw bellach yn cael ei gario
ymaith bob dydd, a bod pibellau wedi eu gosod yn y ddaear i gario dwfr
budr ymaith i’r môr, lle’r oedd y bobl fawr a fyddai yn dyfod yno yn yr
haf yn ymdrochi, a’r hylif cymysg o heli a charthion yn ol pob tebyg yn
gwneud lles mawr iddynt.
Felly yr oedd pethau bellach, y noswaith y daeth y dyn canol oed o’r
tren yn y stesion ac y diolchodd am gael dwad o’r diwedd.
Dyn tua phump a deugain oed ydoedd, yn dal a golygus, ond a’i wallt yn
wyn fel y llin. Yr oedd golwg iach ar ei dalcen. Yr oedd gydag ef ddynes
tua’r un oed ag yntau, ac wrthi hi y llefarodd y geiriau a ddyfynnwyd ar
y dechreu. Yr oedd hithau yn dal a shapus, ond yr oedd rhychau ar ei
thalcen, a’i gwallt, a fu unwaith yn felyngoch, bellach wedi troi yn
felynwyn.
“Ie,” ebr hithau wrtho, “diolch am gael dwad o’r diwedd!”
Cerddodd y ddau allan o’r stesion mewn distawrwydd, ac aethant ymlaen
tua’r hen bentref. Yr oedd y pellter tua milltir, a chynt nid oedd ond
ffordd wledig, gul, yn arwain drwy ganol tir amaethyddol o’r stesion i’r
pentref. Bellach, yr oedd yno ffordd lydan, a thai mawrion o bobtu iddi.
Safodd y dyn a’r ddynes toc, yng ngoleuni un o’r lampau trydan yno, ac
edrychasant ar ei gilydd.
“Yden ni wedi colli’r ffordd, dywed, Elin?” meddai’r dyn.
“Wel, yden, ne ynte mae’r lle wedi altro yn ofnadwy,” ebr hithau.
“O, ie, wrth gwrs,” ebr yntau, “mae’n debyg mai dyna’r rheswm. Wedi
bildio y maen’ nhw. Tyrd yn dy flaen ynte, ’nghariad i.”
Aeth y ddau ymlaen mewn distawrwydd am dipyn. Yr oedd y ffordd yn llydan
o hyd a thai o bobtu yr un fath.
“Elin,” meddai’r dyn, “’ryden ni wedi i methu hi yn siwr i ti.”
“Methu be, Dafydd?”
“Methu yr hen ffordd. ’Roeddwn i yn disgwyl gweld yr hen wrychoedd a’r
hen lidiarde a’r hen gamfa, lle bydden ni yn sefyll cymaint ers talwm.”
“Ie,” ebr y ddynes, ac yna tawodd.
“A dyma be sydd yma!” meddai’r dyn, gan daflu ei law yn ddirmygus at y
tai ar y naill ochr a’r llall i’r ffordd.
“Ie,” ebr hithau, gan nesu ato a chydio yn ei fraich.
[Illustration: LLANEFRON FEL Y MAE.
“Ac yr ydych wedi dwad yr holl ffordd o’r America i weled yr hen gartre?”
“Does yma ddim lleti ni. Tyrd, Elin!” Ac ymaith a hwy.]
Cydiodd yntau am ei chanol, plygodd ei ben a chusanodd hi. Yna cerddodd
y ddau ymlaen yn ddistaw eilwaith.
“Ble’r awn ni ynte, Dafydd?” meddai hi yn y man.
“Wn i ddim,” ebr yntau, “waeth mo’r llawer ble. Ond i’r hen dafarn yr
oedden ni wedi meddwl mynd, onte? Waeth i ni fynd yno.”
“Na waeth!” ebr hithau, gan bwyso yn drymach ar ei fraich o hyd.
Cerddasant ymlaen, a daethant i ddarn o’r ffordd oedd heb dai o bobtu.
Ond yr oedd y ffordd yn y fan honno yn llydan, a gwal uchel o bobtu
iddi, ac nid gwrychoedd.
“O,” meddai’r dyn, “melldith arnyn nhw a’u hen walie hagr!”
“Ie,” ebr y ddynes yn ddistaw.
Daethant o’r diwedd i’r hen bentref, ond nid oedd yntau yr un fath a
chynt, mwy na’r hen ffordd.
“Mae nhw wedi bod yma hefyd,” meddai’r dyn. “Ple mae’r hen dafarn?”
“Wn i ddim ym mhle yr yden ni yn iawn,” ebr y ddynes. “Mi ddylase’r hen
dafarn fod draw yn y fan acw, os nad ydw i yn methu.”
“Dylase,” ebr yntau, “gad i ni fynd i chwilio ynte.”
“Aeth y ddau hyd ystryd weddol lydan, a chroesasant yr afon, hyd bont
fawr a’r trydan yn goleuo nes dangos y dwfr yn yr afon islaw yn
llwyd-ddu a thipyn o ewyn budr hyd ei wyneb yma ac acw.
“Dim golwg am yr hen dafarn,” meddai’r dyn.
“Nag oes,” ebr y ddynes; “yn y fan acw y dylase hi fod, goelia i.”
“Ie, ’nghariad i, yn union yn y fan acw. ’Ryden ni yn ymyl y lle y buon
ni—wyt ti yn cofio, Elin?”
“Ydw, machgen i.”
Daeth llencyn heibio gan chwibanu un o’r pethau y bydd y Saeson yn eu
galw yn gerddi digrif. Pasiodd o fewn dwylath i’r dyn a’r ddynes.
“Hanner munud,” meddai’r dyn wrtho, “fedrwch chi ddeyd ym mhle mae’r hen
dafarn—Y Dafarn Goch?”
“Pardon, syr,” ebr y llanc.
Ail ofynnodd y dyn ei gwestiwn.
“I speaks no Welsh,” meddai’r llencyn, braidd yn ysgornllyd.
“Nor English,” ebr y dyn, a chan afael ym mraich y ddynes, aeth yn ei
flaen.
Cyfarfuasant ereill, a holodd y dyn, ond nid oedd yno neb a allai ei
ateb yn Gymraeg, nag yn Saesneg ychwaith o ran hynny, na neb yn gwybod
dim am y Dafarn Goch. Nid oedd neb yn cofio ei gweled yno. Fel yr oedd
ar y pryd yr oeddynt hwy yn cofio’r lle.
“Be wnawn ni?” meddai’r dyn.
“Wn i ddim,” ebr y ddynes. “Waeth i ni heb fynd i chwilio am yr hen
fwthyn, mae’n siwr.”
“Na waeth, mi waranta. Ond gad i ni fynd. Hwyrach fod y cnafon wedi
gadel y wlad fel yr oedd hi.”
“Hwyrach!”
Aeth y ddau yn eu holau dros y bont, ac yna ymlaen tua’r llethr, ond
ystrydoedd a thai oedd o’u cwmpas ym mhob man, a bron bawb a’u pasiai yn
siarad rhyw fath o Saesneg—geiriau Saesneg a chystrawen ac acen
Gymreig, peth i ferwino clustiau Cymro a Sais.
“Mi ddylen fod o gwmpas y lle,” meddai’r dyn; “’ryden ni yn cerdded ers
ugien munud. Ond weli di, ’does yma ddim ond tai o gwmpas.”
“Nag oes. Rhaid eu bod nhw wedi tynnu’r lle i lawr, Dafydd!”
“Y lladron!” meddai’r dyn.
“Nos dawch!” ebr hen wr cloff, gwargam, wrth basio.
“Nos dawch!” ebr y dyn. “Os gwelwch chi yn dda, fedrwch chi ddeyd wrtha
i lle me Tyddyn Huwcyn?”
“Wel,” meddai’r hen wr, “’rydech chi yn sefyll tua’r fan lle’r oedd o
gynt—mae’r stryd yma yn mynd drwyddo fo, fel tase.”
“’Roeddwn i yn meddwl! Diolch i chi.”
“Ydech chi yn cofio’r lle, syr, fel yr oedd o?”
“O, ydw ugien mlynedd yn ol. Mae’r lladron wedi andwyo’r lle!”
“Wel, hwyrach yn wir. ’Roedd hi’n well arna i yn yr hen amser, sut
bynnag. Ie, yr hen Dyddyn Huwcyn druan! Dyn byw, ’roeddwn i yn ffryndie
hefo’r hen bobol, coffa da am danyn nhw. Oeddech chi yn eu nabod nhw,
syr?”
“Oeddwn. Fy nhaid a nain.”
“Yr holl allu! Nid Dafydd ydech chi?”
“Ie, siwr, a dyma Elin, fy ngwraig i, merch y Dafarn Goch ers talwm
——.”
“Trugaredd fawr, wel, mae’n dda gen i’ch gweld chi! Ydech chi ddim yn
cofio’r hen dowr, Huw Dafis y Towr?”
Ysgydwasant ddwylaw, a buont yn siarad yn hir am yr hen amser, a
dywedodd yr hen wr mai fô oedd bron yr unig un oedd yn fyw o’r hen
drigolion.
“Ac yr ydech chi wedi dwad yr holl ffordd o’r America i weld yr hen
gartre?” meddai’r hen wr. “Wel! ac i ble’r ydech chi am fynd?”
“Yn ein hole rhag blaen,” ebr Dafydd, “does yma ddim lle i ni! Tyrd,
Elin!”
Ac ymaith a hwy.