NAGE, nid dyn oedd o.
Yn wir, ni waeth i mi ddywedyd y gwir yn y’ch wyneb chwi, syr. Ni welais
i neb erioed o’r blaen yn barod i gydnabod fod Twrc yn ddyn. Clywais rai
yn eu galw yn gŵn. Ond nid teg fyddai hynny â’r Twrc yr wyf fi yn son am
dano, canys ci oedd hwnnw. Yr wyf yn cofio fod yn gweithio gyda fy nhad,
pan oeddwn i yn hogyn, hen ŵr a’i enw Ned ——. Nid wyf yn cofio Ned
beth. Waeth prun. Galwn o yn Ned. Wel, ’roedd gan fy nhad gi a’i enw
Pero. Ryw ddiwrnod, gwnaeth Pero rywbeth i blesio Ned, ac ebr Ned wrthyf
finnau,—
“Wyddoch chi beth, y mae ambell ddyn yn gi drwg ofnadwy, ac ambell gi yn
ddyn da dros ben!”
Un o’r cŵn sy’n ddynion da dros ben oedd Twrc.
Ci fy mrawd oedd o. O leiaf, felly y buaswn i fy hun yn dywedyd, ond fel
arall y dywedodd fy mrawd.
“Ai dy gi di ydi o?” meddwn, pan welais Twrc gyntaf.
“Nage,” ebr fy mrawd, “ei ddyn o ydw i.”
Chwerddais.
“Wyt ti yn ame?” ebr fy mrawd.
“Nag ydw i, os wyt ti ’n dweyd felly.”
“Well iti baid, hefyd. Tase fo’n gwybod dy fod ti ’n f’ame i, mi fase ’n
ddrwg arnat. Mae o fel Cristion—hynny ydi, yn llawer iawn gwell. ’Does
yma ddim un ohonyn nhw yn y plwy yma cyn onested â fo. Fore ddoe, ’roedd
o newydd ddwad allan o’i gut, ac heb fwyd er bore echdoe, mi wyddwn fy
hun. ’Roeddwn i wedi gosod magal yng ngwaelod y cae yma. Aeth gwnhingen
iddo tua ’r funud y gollyngais inne Dwrc yn rhydd fore ddoe. Wyddwn i mo
hynny ar y pryd, wrth gwrs, ond clywais ryw ysgrech. Heibio i mi â Thwrc
fel ergyd. Y munud nesaf, dyna fo yn i ol, a gwnhingen yn i geg. Wedi
torri ’r fagal? Ie. Ond welswn i na’r fagal na’r wnhingen yn dragywydd
tase un o’r Cristnogion wedi mynd heibio.
“Ci gwirion ddywedais ti? Bum yn meddwl hynny fy hun. Ond dim perigl!
Cefais o yn gi bach, a byddwn yn ei gadw mewn cut mochyn. Tyfodd yn
glamp o gi yno, ond neidiodd o erioed dros y wal na’r drws oddi yno. Ryw
ddiwrnod, symudais o i gut arall â gwal uwch o’r hanner. Dyma fo drosti
rhag i flaen. Fuo fo byth yn gi bach wedyn.
“Dal pethau? Braidd. Daliodd ddeg o dyrchod daear yr wythnos ddwaetha.
Choeli di ddim? Aros, ynte. Twrc? Twrc?—Twrch!”
Gyda bod fy mrawd wedi galw, dyma Dwrc yn moeli ei glustiau, yn rhoi
ysgydwad i’w ben, a chwythad drwy ei ffroen—fel y gwelsoch ambell hen
gnowr tybaco—yn codi ei gynffon, ac ymaith âg o tua ’r cae tatws yr
ochr draw i’r buarth.
“Rhŵ-ŵ-ŵ-ŵ-necc!”
Daeth rhyw swn tebyg i hynyna o’r cae, a’r munud nesaf, dyna Dwrc i’r
golwg a thwrch daear ganddo gerfydd ei gynffon!
“Dyna iti lythyren y gyfraith!” ebr fy mrawd.
“Beth?” meddwn innau.
“Welais ti gi o’r blaen yn rhywle a wyddai wahaniaeth rhwng y naill
lythyren â’r llall?”
“Beth ydi dy feddwl di?”
“Wyt ti ddim yn gweld? Be ddeydais i wrth y ci?—Twrc? Twrc?—Twrch!
onid ê?”
“O, mi welaf!” meddwn.
“Pe tase fo cyhyd â thi yn gweled, lle base’i dwrch o?”
“Byd a’i gwyr!”
Troisom i edrych arno. Nid oedd Twrc yn y golwg. Yr oedd y twrch daear
ar lawr a’i dorr i fyny, ac yn rhoi ’r ddau gic olaf am byth â’i draed
ol. “Lle mae——.” Cyn i fy mrawd gael gorffen, yr oedd Twrc yn ein
hymyl eilwaith, a thwrch daear arall gerfydd ei gynffon ganddo!
“Dyna ti!” ebr fy mrawd. “Clywodd fi ’n gofyn iti—‘Be ddeydais i wrth y
ci?—Twrc?—Twrc?—Twrch! onide?’”
Gyda’r gair, rhoes y ci ysgeg i’r ail dwrch, ac ymaith âg ef eto, ond
galwodd fy mrawd arno.
“Dyna ddigon!” meddai, a gorweddodd Twrc ar lawr.
Buom yn ddistaw am ennyd, ac yna dechreuodd fy mrawd drachefn.
“Ddeydais i hanes o a’r mochyn wrthyt ti? Naddo? Wel, yr oedd gynnon ni
ryw hen fochyn y llynedd, callach na’r cyffredin o foch. Un go dila oedd
o ar ddechre ’i yrfa, y salaf o’r torllwyth, felly. Pan oedd y lleill yn
barod i’w gwerthu, ’doedd fawr o lewyrch arno fo, ‘Chwerwyn,’ fel y
byddem yn i alw. Felly, cadwyd o i’w besgi, os oedd pesgi arno. Bwytaodd
beth cynddeiriog, ac o’r diwedd, pesgodd. ’Roedd rhyw elyniaeth naturiol
rhyngddo â Thwrc ar hyd yr amser, am ryw reswm neu gilydd. Byddent yn
ymladd weithie, ac wrth gwrs, ’doedd gan Chwerwyn fawr o siawns yn erbyn
Twrc. Gwaedwyd i glustie lawer gwaith yn yr ysgarmes. Un tro, sut
bynnag, digwyddodd lwc i’r hen fochyn. ’Roedd hi ’n ddiwrnod poeth
arswydus yn yr haf. ’Roedd hi mor boeth ganol dydd fel y bu raid i mi
fynd a throi ’r peiriant nithio er mwyn cael gwynt. ’Roedd hi lawn cyn
waethed ar yr hen fochyn, a chan na chae o wynt, mae’n debyg, meddyliodd
am gael dwr—ne laid, yn hytrach. Aeth i’r llyn i ymdreiglo, a bu yno ’n
hir. Rhuthrodd Twrc arno, ond yn ei flinder, syrthiodd Chwerwyn ar ei
gefn. Medrodd Twrc ymryddhau, ond cafodd Chwerwyn lonydd. Nid osiodd
Twrc ymosod arno wedyn hyd nes sychodd y llaid. Cyn gynted ag y gwnaeth
hynny, dyma Dwrc am Chwerwyn, a Chwerwyn am y llyn. Felly y buont drwy’r
haf. Wel, daeth amser lladd Chwerwyn. ’Roedd y cigydd wedi dwad, a
’roedd Chwerwyn allan ar y buarth, bron yn ymyl i gut. ‘Hel o i mewn,
Twrc!’ medde finne. Rhuthrodd Twrc ato, ond ni symudai Chwerwyn gam
iddo. Pan ai Twrc at i ben o, ceisiai Chwerwyn i ysgythru. Pan ai Twrc
at i gynffon, safai yntau ’n llonydd. Twlciodd Twrc o, i geisio i yrru
yn i flaen. Ond yn ofer. Aeth o’i flaen gan ddangos i ddannedd a chilio,
ond nid ai’r ben fochyn ar i ol o. O’r diwedd, daeth Twrc i ganol y
buarth; safodd am funud a’i ben yn gam, a phenderfynodd sut i wneud.
Rhedodd, cydiodd â’i ddannedd yng nghynffon Chwerwyn, a dechreuodd dynnu
yn ol.
‘Wch!’ ebr Chwerwyn, a chythrodd i mewn i’r cut!
“Ie, dyna fo iti, ’does yma ddim gwell dyn na fo yn yr holl wlad yma!”
ebr fy mrawd.
“Glywais ti ’r stori honno am yr hen Ffinn, arwr y Gwyddelod, a’i gi?”
gofynnais.
“Naddo. Sut y mae hi?”
“Wel, dyma hi. ’Roedd Padrig Sant yn pregethu i Ffinn a’i wroniaid am y
nefoedd, ac yn deyd y fath le gogoneddus a hyfryd oedd yno. Pagan oedd
Ffinn, wyddost, ac yr oedd yn gwrando ’n astud. O’r diwedd, eb efô,—
‘Ga i fynd â fy nghi gyda fi i’r nefoedd yma?’
‘Na,’ ebr Padrig, ‘fydd yno ddim cŵn yn y nefoedd.’
‘H’m!’ ebr Ffinn, ‘’does arna i ddim eisio mynd yno ynte!’”
“Go lew fo, go lew fo! Ie, ’d elwy fyth o’r fan yma!” ebr fy mrawd, gan
blygu i lawr ac anwesu Twrc, rhag i mi weld y deigryn oedd yn ei lygad.