_I Lewelyn fab Iorwerth_. _Einiawn fab Gwgawn ai cant_.
Cyfarchaf o'm naf, am nefawl Arglwydd,
Crist Celi culwydd, cwl i ddidawl,
Celfydd leferydd o le gweddawl,
Celfyddydau mau ni fo marwawl:
I brofi pob peth o bregeth _Bawl_,
I foli fy rhi, rhwyf angerddawl,
Rhyfel ddiochel, ddiochwyth hawl,
_Llewelyn_ heilyn, hwylfeirdd waddawl,
Llawenydd i ddydd, i ddeddf ai mawl,
Llewychedig llafn yn llaw reddfawl,
Yn lladd, dy wrthladd iwrth lys _Rheidiawl_,
Gweleis a gerais ni gar mantawl,
Gwelygordd _Lleission_ llyssoedd gweddawl,
Lluoedd arwoloedd ar weilw didawl,
Llawrwyr am eryr yn ymeiriawl,
_Llewelyn_ lleyn, llyw ardderchawl,
Lluriglas, gwanas, gwanau a hawl,
Gwenwyn yn amwyn am dir breiniawl _Powys_,
Ae diffiwys, ae glwys a glyw ei hawl,
Ef dynniad ynghad; _Eingl_ frad freuawl,
Ef dandde rhuddle _Rhuddlan_ is gwawl,
Gweleis _Lewelyn_, eurddyn urddawl,
Yn urddas dreigwas dragywyddawl,
Eil gweleis i dreis dros ganol _Dyfrdwy_,
Yn y trei tramwy llanw rhwy, rhwydd hawl
Gweleis aer am gaer oedd engiriawl,
Talu pwyth dydd gwyth, canyseawl,
Ni ryweleis neb na bo canmawl,
O'r ddau y gorau a fo gwrawl.
Mi ath arwyre, ath arwyrein myfyr,
Eryr yn rhywyr, prifwyr _Prydein_.
Prydfawr _Lewelyn_ pryd dyn dadiein,
Prydus, diescus, escar ddilein.
Escynnu ar llu ar lle _Ewein_,
Ysgymmod gorfod, gorfalch am brein,
Ysgymmyn gwerlyn, gwerlid gofiein,
Ysgymydd clodrydd, _Kulwydd_ a _Llwyfein_,
Lluddedig edmyg, meirch mawrthig mein;
A lluoedd yngwiscoedd yn ymoscrein,
Ar llinyn ar dynn ar du celein,
A llinon rhag Bron rhag bro _Eurgein_,
Tyrfa _Clawdd Offa_ clod yn hoffiein,
A thorfoedd _Gwynedd_ a gwyr _Llundein_,
Cyfran tonn a glan, glafdir gwylein,
Golud mowr ystrud, ysgryd _Norddmein_,
_Llewelyn_ terwyn, torf anghyngein,
Biau'r gwyr gorau, bachau bychein,
Priodawr mwynglawr _Mon_ glod yscein,
Areul golud pentud, _Pentir Gwychein_.
Gwawr _Dehau_ gorau, gwyr yn dyrein,
Gwenwyn a gwanar y ddau gar gein,
Ae lyw cyferyw, cyfwyrein a thrin,
A thrychieid gwerin _Caer Fyrddin_ fein,
Ni sefis na thwr, na bwr, bu crein,
Nag argoed, na choed, na chadlys drein,
A rhag pyrth bu syrth _Saeson_ ynghrein.
Oedd trist maer, oedd claer cleddyf heb wein,
A chan llu pannu, pen ar ddigrein,
A chan llaw lludwaw _Llan Huadein_,
_Cil Geran_ achlan, a chlod goelfein,
A chlwyr ar dyhedd, mawredd mirein,
Yn _Aber Teifi_ tew oedd frein uch benn,
Yn yd oedd perchen parchus gyfrein.
Oedd tew peleidr creu, creuynt gigfrein,
Calanedd gorwedd gorddyfnassein,
_Llewelyn_ boed hyn boed hwy ddichwein,
No _Llywarch_ hybarch, hybar gigwein.
Nid celadwy dreig, dragon gyngein,
Nid calan cyman gwr y gymein,
Hydwf yngnif ai lif o lein,
Hyd ydd el yn rhyfel hyd yn _Rhufein_,
Ai raglod ai rod o riw Feddgein,
Hyd i dwyre haul hyd y dwyrein.
Ys imi rwydd Arglwydd, argleidrad,
Argledr tir, a gwir a gwenwlad,
Ys imi or cyngor cyngwasdad,
Cywesti peri peleidrad,
Ys imi ri ryfel ddiffreiddiad,
Diffryd gwyr, eryr ardwyad,
Ys imi rwydd Arglwydd, erglywiad
A glywir o'r tir gar _Tanad_,
Ys imi glew, a llew a lleiddiad
Yn rhyfel a rhon orddyfniad,
Ys imi wr a wared i rad,
I reidus, galarus, geilwad.
Ys imi ner yn arwyn ddillad,
Yn arwein ysgin ysgarlad,
Ys imi _Nudd_, hael fudd, Hueil feiddiad,
Ar Lloegr ryllygrwys heb wad.
Ys imi _Rydderch_, roddiad aur melyn,
Molitor ymhob gwlad.
A mawrdud olud olygad,
A _Mordaf_ am alaf eiliad,
Ys imi _Run_ gatcun gytcam rad,
Cydgaffael, a hael, a hwyliad
Ef imi y meddwl difrad,
Mi iddaw yn llaw yn llygad,
Ni henyw o afryw afrad,
Mi hanwy o henwyr ei dad,
Llachar far, aerfar, erfynniad,
Llachar fron o frydau _Gwriad_.
Lluchieint gweilch am walch gynnifiad,
Fal lluchynt estrawn wynt _Ystrad_.
Hunydd nen perchen parchus fad,
Parch arfawr, _Arfon_ angoriad.
_Llewelyn_ dreis, erlyn drwssiad,
Dros dehau angau oth angad,
Angor mor y mawr gymynad,
Angawr llawr llurig Duw am danad.
Rhy chyngein _Prydein_ yn ddibryder,
I Briodawr llawr yn llawn nifer.
_Llewelyn_ gelyn yn i galwer
I gelwir am dir am dud tymer.
Llawenydd lluoedd llew ymhryder,
Llywiawdr ymmerawdr mor a lleufer,
I ddylif cynnif cynhebyccer
I ddylann am lann, am leissiaid ffer.
Terfysc tonn ddilysc ddyleinw aber:
Dylad anwasdad ni osteccer.
Terwynt twrf rhywynt yn rhyw amser,
A rhialluoedd lluoedd llawer.
Torfoedd ynghyoedd ynghyflawnder
Tariannau golau mal i gweler:
Ry folant anant, anaw cymer,
Ry molir i wir i orober,
I wryd yn rhyd yn rheid nifer,
I orofn gwraf yn ydd eler,
I orfod gorfod glod a glywer,
I wyr am eryr ni amharer,
I warae orau pan waraer,
I wayw a orau yn ddau hanner,
Dinidir yn nydd brwydr yn yd brofer,
Dinoding perging, pargoch hydrfer,
Dinas, dreig urddas, eurddawn haelder
Dinag o fynag pan ofynner,
Dyn yw _Llewelyn_ llywiawdr tyner,
Doeth coeth cywrennin, gwin a gwener,
A'r gwr ai rhoddes ni ran o'r pader,
Ai rhoddo ef gwenfro gwynfryn uch ser.