_I Lewelyn fab Iorwerth_. _Dafydd Benfras ai cant_.
Gwr a wnaeth llewych o'r gorllewin,
Haul a lloer addoer, addef iessin,
Am gwnel, radd uchel, rwyf cyfychwin,
Cyflawn awen, awydd _Fyrddin_,
I ganu moliant mal _Aneurin_ gynt,
Dydd i cant _Ododin_.
I foli gwyndawd _Gwyndyd_ werin,
_Gwynedd_ bendefig, ffynnedig ffin,
Gwanas deyrnas, deg cywrennin,
Gwreidd, teyrneidd, taer ymrwydrin,
Gwrawl ei fflamdo am fro Freiddin.
Er pan orau Duw dyn gyssefin,
Ni wnaeth ei gystal traws arial trin.
Gorug _Llewelyn_, orllin teyrnedd,
Ar y brenhinedd braw a gorddin
Pan fu yn ymbrofi a brenin _Lloegyr_,
Yn llygru swydd _Erbin_.
Oedd breisc, weisc ei fyddin,
Oedd brwysc rwysc rhag y godorin,
Oedd balch gwalch, golchiad ei lain,
Oedd beilch gweilch, gweled ei werin,
Oedd clywed cleddyfau finfin,
Oedd clybod clwyf ymhob elin,
Oedd briw rhiw yn nhrabludd odrin,
Oedd braw saw _Saeson_ clawdd y _Cnwecin_,
Oedd bwlch llafn yn llaw gynnefin,
Oedd gwaedlyd pennau, gwedi gwaedlin rhwy,
Yn rhedeg am ddeulin.
_Llewelyn_, ein llyw cyffredin,
Llywiawdr berth hyd _Borth Ysgewin_,
Ni ryfu gystal _Gwstennin_ ag ef,
I gyfair pob gorllin.
Mi im byw be byddwn ddewin,
Ym marddair, ym mawrddawn gyssefin,
Adrawdd ei ddaed aerdrin ni allwn,
Ni allai _Daliesin_.
Cyn adaw y byd gyd gyfrin,
Gan hoedyl hir ar dir daierin,
Cyn dyfnfedd escyrnwedd yscrin,
Cyn daear dyfnlas, arlessin,
Gwr a wnaeth o'r dwfr y gwin,
Gan fodd Duw a diwedd gwirin,
Nog a wnaethpwyd trais anwyd trin,
Ymhrefent ymhrysur orllin:
Ni warthaer hael am werthefin nos,
A nawdd saint boed cyfrin.