XXIV.

Ond O! mae llawer blynedd,

Er pan own gynt yn eistedd,

O flaen fy nrws tan wenau ’r haul;

’Rol gadael gwely gwaeledd.

A llawer tywydd garw

Sydd er yr amser hwnnw,

Mae ’m plant yn wragedd ac yn wŷr,

A Menna wedi marw.

Claddasom fachgen bychan,

Ac yna faban gwiwlan,

Ond chododd Menna byth mo’i phen

’Rol ini gladdu ’r baban.

’Rwy ’n cofio ’r Sul y Blodau

Yr aeth i weld eu beddau,

Pan welais arwydd ar ei gwedd,

Mai mynd i’r bedd ’roedd hithau.

Penliniodd dan yr ywen,

A phlannodd aur-fanadlen,

Mieri Mair, a chanri ’r coed,

A brig o droed y glomen.

Y blodau gwyllt a dyfent

Ar ddau fedd yn y fynwent;

Ond gywo ’r oedd y rhosyn coch

Ar foch y fam a’i gwylient.

Ac er pan gladdwyd Menna,

Un fynwent yw ’r byd yma:

Y fodrwy hon sydd ar fy mys

Yw’ r unig drysor fedda.

Y fodrwy hon a gadwaf,

Y fodrwy hon a garaf,

A dyma destun olaf cerdd,

Gwreichionen awen, olaf.

Ceiriog · 第 110 / 112 题