XXIII.

Ar ol fy hir gystudd,

’Rwy ’n cofio ’r boreuddydd

Y’m cariwyd mewn cader dros riniog fy nôr:

Ac ar fy ngwyn dalcen

Disgynnodd yr heulwen,

Ac awel o’r mynydd ac awel o’r môr.

Ar ol imi nychu

Yn gaeth ar fy ngwely

Am fisoedd o gystudd, o glefyd a phoen;

Fy nghalon lawenodd

Wrth weld ar y weirglodd

Y gaseg a’r ebol, y ddafad a’r oen.

Trwy wenlas ffurfafen

Fe wenai yr heulwen,

Ac mi a’i gwynebais, ac yfais y gwynt;

A’r adar a ddeuent

I’m hymyl, a chanent,

Nes teimlais fy nghalon yn curo fel cynt.

Fy ngeneth ieuengaf

Ac Arthur ddaeth ataf,

A gwenu mewn dagrau wnai Menna gerllaw;

A daeth fy nghi gwirion,

Gan ysgwyd ei gynffon,

A neidiodd i fyny a llyfodd fy llaw.

Ceiriog · 第 109 / 112 题