III.

Os hoffech wybod sut

Mae dyn fel fi yn byw,

Mi ddysgais gan fy nhad

Grefft gyntaf dynol ryw;

Mi ddysgais wneyd y gors

Yn weirglodd ffrwythlon ir,

I godi daear las

Ar wyneb anial dir.

’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr,

Ac yn codi efo’r wawr,

I ddilyn yr ôg, ar ochr y Glôg,

A chanlyn yr arad goch

Ar ben y mynydd mawr.

Cyn boddio ar eich byd,

Pa grefftwyr bynnag foch,

Chwi ddylech ddod am dro

Rhwng cyrn yr arad goch;

A pheidiwch meddwl fod

Pob pleser a mwynhad

Yn aros byth heb ddod

I fryniau ucha’r wlad.

’Rwyn gorwedd efo’r hwyr, &c.

Yn ol eich clociau heirdd,

Bob bore codwch chwi:

Y wawr neu wyneb haul

Yw ’r cloc a’n cyfyd ni;

Y dyddiaduron sydd

Yn nodi ’r haf i chwi;

Ond dail y coed yw ’r llyfr

Sy ’n dod a’r haf i ni.

’Rwyn gorwedd efo’r hwyr, &c.

Nis gwn i fawr am fyw

Mewn rhwysg a gwychder byd;

Ond diolch, gwn beth yw

Gogoniant bwthyn clyd;

Ac eistedd hanner awr

Tan goeden ger fy nôr,

Pan aiff yr haul i lawr,

Mewn cwmwl tân i’r môr.

’Rwyn gorwedd efo ’r hwyr, &c.

Cerddorion Ewrop ddont

I’ch mysg i roddi cân:

’R wyf innau ’n ymfoddhau

Ar lais y fronfraith lân;

Wrth wrando ’r gwcw las,

A’r hedydd bychan fry,

A gweled Robyn Goch

Yn gwrando ’r deryn du.

’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.

Ddinaswyr gwaelod gwlad,

A gwŷr y celfau cain,

Pe welech Fai yn dod,

A blodau ar y drain—

Y rhosyn ar y gwrych,

A’r lili ar y llyn;

Fe hoffech chwithau fyw

Mewn bwthyn ar y bryn.

’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.

Pan rydd yr Ionawr oer

Ei gaenen ar yr ardd,

Y coed a dro’nt yn wyn

Tan flodau barrug hardd;

Daw bargod dan y to

Fel rhes o berlau pur,

A’r eira ddengys liw

Yr eiddew ar y mur.

’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.

Daw Ebrill yn ei dro,

A chydag ef fe ddaw

Disymwth wenau haul,

A sydyn gawod wlaw;

Fel cyfnewidiog ferch,

Neu ddyn o deimlad gwan,

Galara ’r awyr las,

A gwena yn y fan.

’Rwy’n gorwedd efo ’r hwyr,

Ac yn codi efo ’r wawr,

I ddilyn yr ôg ar ochor y Glôg

A chanlyn yr arad goch

Ar ben y mynydd mawr.

Ceiriog · 第 89 / 112 题