II.

Ar fin y mynydd ganwyd ef,

Ac fel yr hedydd rhyngo a’r nef

Fe ganodd lawer anthem gref,

Lle nad oedd carreg ateb.

Ond dywed traddodiadol go,

I’r llon a’r prudd o dro i dro

Ddod ato yn ei fryniawg fro

Fel haul a storm i’w wyneb.

Ar rai o fydrau Cymru lân,

Rhyw gais at roi arluniau mân

O fywyd Alun ydyw ’r gân

Fugeiliol sydd yn canlyn;

Ac mae bywgraffiad byw o’r dyn,

Yn ei ganeuon ef ei hun,

A’i “Arad Goch” yw ’r gyntaf un

Gaiff fyned efo ’r delyn.

Ceiriog · 第 88 / 112 题