CLADDASOM DI, ELEN.

CLADDASOM di, Elen, ac wrth roi dy ben

I orwedd lle fory down ni,

Dihangodd ochenaid i fyny i’r nen,

A deigryn i lawr atat ti.

Claddasom di, Elen, a chanwyd dy fedd,

Pe hefyd bâi bosibl ei gau;

Mae llygad yn edrych o hyd ar dy wedd,

Ac ni fedr angau nacau.

Cyflawnwyd dy freuddwyd, ond ni ddarfu ’r gro,

Ar gauad yr arch dy ddeffroi;

Ond udgorn a gân, ac o’r dywell fro,

Yn wen a dihalog y doi.

Ai “tywell” ddywedasom? Nid tywyll i ti

Fu pyrth tragwyddoldeb a hedd,

Dy lamp oedd wenoleu;—nid ti, ond nyni,

Sy ’n dwedyd mai du ydyw ’r bedd.

I ninnau mae breuddwyd i ddyfod i ben,—

Canfyddem di mhell oddi draw

Ar furiau Caersalem, a’th wisg yn glaer-wen,

Yn gwenu gan estyn dy law,—

I’n derbyn yn ninas dragwyddol dy Dduw;

A thybiem ein bod wedi dod,

I gyffwrdd â’th law, ond deffroisom yn fyw,

Ymhell oddiwrth gyrraedd y nod.

Claddasom di, Elen, ond rhyngot a ni,

Nis erys gagendor yn hir;

O fewn y bedd yna lle rhoisom dydi,

Claddasom ein hunain yn wir.

Na, na, nis ffarweliwn, mae ’r Iesu yn fyw,

I’n dwyn ato ’i hun a thydi;

Mae ’r ffordd yn agored o’r ddaear at Dduw,

A’r nef mewn addewid i ni.

Ceiriog · 第 71 / 112 题