Y FYNWENT YN Y COED.

YN araf y cerddasom,

I’r fynwent yn y coed;

Ac yno y claddasom

Chwaer fechan bedair oed;

Gan bedair o’i chyfeillion iach,

Mewn dillad gwynion claer,

Yng ngwŷdd ei thad a’i brodyr bach,

I huno rhoed ein chwaer.

Ar waelod bedd y fechan,

Cyn gollwng corff ein chwaer;

Canfyddem arch wen newydd

Fel daeth o ddwylaw ’r saer.

Ein hanwyl fam oedd yno ’n fud,

Heb fawr o feddwl am

I’r plentyn _olaf_ yn y cryd

Ddod _gyntaf_ at ei fam.

Pan gaffom ninnau ’n gollwng,

Mae gennym weddi daer,—

O boed ein llwch yn deilwng

O lwch ein mam a’n chwaer.

Fe awn yn fynych dros y cae

I’r fynwent yn y coed;

Y fan mae mam, a’r fan y mae

Chwaer fechan bedair oed.

Ceiriog · 第 70 / 112 题